Llawdriniaeth frys undydd yn lleihau rhestrau aros
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan llawdriniaeth frys newydd i drin pobl ar yr un diwrnod yn arbed cannoedd o dderbyniadau diangen i'r ysbyty bob blwyddyn.
Dywedodd llawfeddyg brys yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr fod yr uned - y gyntaf o'i math yng Nghymru - yn golygu y gall cleifion aros yn eu cartref am driniaeth, gan osgoi aros mewn ysbyty am ddyddiau ar y tro.
Mae'r uned yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella gofal brys, ac mae llawfeddygon yn nodi cleifion y gellir eu trin a'u rhyddhau ar yr un diwrnod.
"Y syniad ydy bod nhw'n gallu cael eu hasesu a gobeithio eu trin yn yr uned hon fel cam i osgoi dod mewn i'r ysbyty fel cleifion mewnol," medd y meddyg llawfeddygol arbenigol Llinos Dafydd.
"'Da ni'n gweld bob math o gleifion fan hyn. Pethau 'da ni'n gweld yn gyson ydy rhywun gyda phroblem gyda gall bladder, rhywbeth fel cerrig yn y gall bladder neu glaf efo appendicitis."
Llai o gleifion mewnol
Ychwanegodd: "Mae 'na bwysau ar welyau ysbyty ar draws Cymru ac yn y model traddodiadol o edrych ar ôl y cleifion yma fasen nhw wedi bod yn aros am wely falle am ddiwrnod, falle deuddydd, hyd yn oed tridiau cyn cael gwely, ac wedyn cael y driniaeth roedden nhw angen.
"Yn y system yma mae modd i ni wneud yr asesiad, gwneud y penderfyniad ac wedyn targedu amser penodol neu ddiwrnod penodol iddyn nhw ddod yn ôl o bosib, os nad ydy o'n bosib cwblhau y driniaeth y diwrnod hwnnw.
"Mae'n galluogi nhw i aros yn eu cartrefi eu hunan i aros am y driniaeth yna."
Dyma'r uned gyntaf o'r fath yng Nghymru - mae yna rai dros y ffin - ac mae Dr Dafydd yn credu y gallai'r model weithio mewn ardaloedd eraill.
"Dyna'r gobaith," meddai. "'Da ni 'di profi yn yr uned hon fod modd gwneud gwahaniaeth mawr ar y niferoedd sy'n cael eu admittio mewn i'r ysbyty.
"Roedd arfer bod tua thraean oedd yn cael eu gweld fel argyfwng llawfeddygol - yn arfer dod mewn i'r ysbyty fel claf mewnol - ond 'da ni 'di torri hwnna i tua 10%.
"'Da ni 'di profi bod o'n bosib neud hynna yng Nghymru a'r syniad ydy, gobeithio, all uneda' er'ill yng Nghymru agor a dilyn ein hesiampl ni o weld faint o dda maen nhw'n neud yn Lloegr."
Cyngor i feddygon teulu
Mae'r bwrdd iechyd yn amcangyfrif fod tua 300 o bobl wedi osgoi aros, neu gael eu derbyn, i'r ysbyty'n ddiangen oherwydd y system yma.
"Mae'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn," meddai Dr Dafydd. "Mae'n cadw flow yn y system o bobl yn gallu mynd adre."
Mae'r uned hefyd yn rhoi cyngor ar alwad i feddygon teulu. Mae'r system wedi profi'n boblogaidd gyda meddygon teulu, sy'n gallu gofyn am gyngor uniongyrchol arbenigwr yn y maes.
Mae'r bwrdd iechyd yn amcangyfrif eu bod yn delio ag un ymhob 10 galwad i'r uned heb fod angen i'r claf ymweld â'r ysbyty.
Fis ar ôl mis mae'r GIG yng Nghymru wedi gweld y nifer uchaf erioed o gleifion yn aros am driniaeth, oedi hir am ambiwlansys, ac amseroedd aros adrannau brys yn cynyddu.
Mater sy'n gwaethygu'r sefyllfa yw nifer y cleifion sy'n ddigon iach yn feddygol i adael ysbyty, ond nad oes digon o staff gofal cymdeithasol i ofalu amdanynt mewn mannau eraill.
Mae'r galw cynyddol wedi rhoi pwysau ar bob llwybr mynediad i'r GIG, ac felly mae gwasanaethau fel y gwasanaeth 111 wedi'u hehangu.
"Prif bwrpas 111 Cymru yw i gynnig cyngor a gwybodaeth ar gyflyrau meddygol neu symptomau sydd gan y cyhoedd, a dy'n nhw ddim yn sicr sut i ddelio â nhw a phwy i droi atynt am gymorth," medd Nia Williams, uwch-gynghorydd yng nghanolfan gyswllt 111 Abertawe.
"Gallwn ni dderbyn galwadau yn bennaf gan deuluoedd sy'n poeni ambyti symptomau bola tost, neu ddannedd, ar eu plant neu eu hanwyliaid nhw.
"Ni'n derbyn galwadau gan bobl sydd â iechyd meddwl gwael sydd methu cael mynediad at arbenigwyr yn y maes, pobl sy'n cael trawiad ar y galon - mae hwnna'n ddifrifol iawn."
Am y tro cyntaf bydd ffigyrau swyddogol sy'n dangos nifer y galwadau sy'n cael eu hateb gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau.
Yn ôl pennaeth y gwasanaeth, Pete Brown, roedd yna ychydig o dan filiwn o alwadau dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Dyw pobl yn aml ddim mo'yn ffonio 999 achos maen nhw'n gweld fod 'na bwysau aruthrol ar y gwasanaeth hynny," meddai.
"Felly mae galw 111, neu ein gwefan ni, yn fan cychwyn os nad yw pobl yn sicr lle i droi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022