Johnson: Datganiadau am arian HS2 ac ynni niwclear

  • Cyhoeddwyd
Boris Johnson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Boris Johnson yn siarad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig ym Mhowys ddydd Gwener

Mae'r Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi gwrthod dweud a fyddai'n cefnogi galwadau arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am fuddsoddiad pellach i Gymru dan gynllun HS2.

Mae Andrew RT Davies yn dweud y dylai Cymru gael "cyfran deg" o arian adeiladu'r prosiect rheilffordd cyflym ar gyfer Lloegr a Chymru - er nad yw'r rheilffordd yn rhedeg trwy Gymru.

Dywedodd Mr Davies bod angen "hunaniaeth" mwy amlwg ar blaid y Ceidwadwyr Cymreig.

Ond, mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd y prif weinidog ei fod am i'r Torïaid i "weithio gyda'i gilydd a chyflawni er budd pobl Cymru".

Ar ôl gofyn iddo ddwywaith a fyddai'n cefnogi galwad Mr Davies ac a fyddai Cymru'n derbyn £5bn y gellid disgwyl ei gael o HS2, ni atebodd Mr Johnson.

Dywedodd Mr Johnson: "Ei swydd ef [Andrew RT Davies] fel arweinydd yng Nghymru yw lobïo am fuddsoddiad i Gymru. Ro'n i'n arfer bod yn faer Llundain - dyna ry'ch chi'n ei wneud.

Pan ofynnwyd iddo os oedd yn gyfforddus gydag ymdrechion y blaid yng Nghymru i ymbellhau ei hun rhag gweddill Ceidwadwyr y DU, dywedodd: "Yr hyn ry'n ni'n gwneud yw gweithio gyda'n gilydd a chyflawni ar gyfer pobl Cymru."

Niwclear

Disgrifiad o’r llun,

Mae Boris Johnson yn dweud y bydd yn "ystyried" codi adweithydd niwclear bychan yn Nhrawsfynydd

Fe wnaeth Mr Johnson hefyd addo "adfywio niwclear yng Nghymru" yn ei araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig ym Mhowys.

Fe ddywedodd yn gynharach y byddai llywodraeth y DU yn "ystyried y syniad" o godi adweithydd niwclear bychan yn Nhrawsfynydd.

Mae Boris Johnson eisoes wedi addo cefnogi pwerdy niwclear ar safle Wylfa yn Ynys Môn.

Ddydd Gwener fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a Chwmni Egino sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn cydweithio i leoli datblygiad niwclear ar y safle.

Mae disgwyl i'r cynlluniau gael eu cadarnhau o fewn y flwyddyn.

Wrth ymateb dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Diwydiant Niwclear y DU, Tom Greatrex, ei fod yn croesawu'r cyhoeddiad.

"Mae Cymru'n gartref i ddau safle niwclear o safon fyd-eang, a gallai Trawsfynydd chwarae rhan allweddol mewn cynlluniau i ail-wampio'r diwydiant.

"O ystyried ei hanes cyfoethog o gynhyrchu ynni glân, mae'n darged clir i ddatblygwyr ac mae'r cydweithrediad hwn yn dangos bod y diwydiant o ddifrif ynglŷn â chyflawni'r weledigaeth a osodwyd gan y llywodraeth yn ei strategaeth diogelwch ynni," meddai.

Ond fe wnaeth Dylan Morgan o PAWB feirniadu'r cyhoeddiad.

"Mae [Boris Johnson] yn dangos anllythrennedd amgylcheddol ac economaidd rhyfeddol wrth wthio'r fath dechnoleg niwclear hen ffasiwn, peryglus, budr, bygythiol i iechyd amgylcheddol a dynol ac eithafol o ddrud yn erbyn cefndir o argyfwng costau byw llym iawn.

"Gall yr addewidion ganddo sy'n cynnwys dim manylion sut y byddai'n gwireddu ei freuddwyddion niwclear yn Nhrawsfynydd a'r Wylfa ddod yn ôl i'w frathu.

"Ni all ynni niwclear gyfrannu dim at leihau effeithiau newid hinsawdd o gofio bod arbenigwyr rhyngwladol yn ein rhybuddio bod rhaid i newidiadau mawr mewn allyriadau carbon ddigwydd o fewn y degawd nesaf," meddai.

Partïon Downing Street

Mae'r prif weinidog yn "gobeithio" y bydd adroddiad Sue Grey ar bartïon Downing Street yn cael ei gyhoeddi "dros y dyddiau nesaf", gan addo datganiad i Dŷ'r Cyffredin unwaith y caiff gopi.

"Dw i'n meddwl mai'r pethau sydd wir o bwys yw'r pethau ry'n ni'n gwneud i ddatrys y cynnydd ynni, y prisiau mae pobl yn gweld a delio gyda'r sioc ar ôl Covid."