Galw am arian HS2 a chodi adweithydd yn Nhrawsfynydd
- Cyhoeddwyd
Dylai Cymru gael ei "chyfran deg" o arian adeiladu'r prosiect rheilffordd cyflym HS2 yn Lloegr, yn ôl arweinydd Senedd y Torïaid.
Dyma'r tro cyntaf i Andrew RT Davies alw'n uniongyrchol ar lywodraeth Geidwadol y DU i roi arian ychwanegol i Gymru oherwydd y cynllun.
Wrth gyflwyno ei araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig, fe ddywedodd Mr Davies bod angen i'r blaid "adeiladu ei hunaniaeth ei hun" yng Nghymru.
Ychwanegodd y dylai canlyniad yr etholiadau lleol diweddar "ddeffro'r blaid" sy'n wynebu "darlun cenedlaethol heriol".
Yn ei araith dywedodd y Prif Weinidog, Boris Johnson, ei fod yn "ystyried y syniad" o godi adweithydd niwclear bychan yn Nhrawsfynydd.
Daw ei sylwadau wrth i lywodraethau Cymru a'r DU ddatblygu cynlluniau ar gyfer y safle.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi addo cefnogi codi gorsaf niwclear newydd ar safle Wylfa ym Môn.
Ddydd Gwener fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a Chwmni Egino sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn cydweithio i leoli datblygiad niwclear ar y safle yn Nhrawsfynydd.
Mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal ar ôl perfformiad gwael i'r blaid yn yr etholiadau lleol Cymreig diweddar, ble collodd dros 80 o seddi a rheolaeth ar ei hunig gyngor.
Wrth siarad yn sesiwn agoriadol y digwyddiad deuddydd yn y Drenewydd, Powys, fore Gwener, dywedodd Mr Davies: "Mae angen i ni barhau i adeiladu ar frand y Ceidwadwyr Cymreig ac adeiladu'n hunaniaeth ein hunain fel plaid Gymreig balch.
"Yn falch o fod yn Brydeinig, yn falch o fod yn Geidwadwyr, mae angen i ni hyrwyddo'r hyn ry'n ni'n ei wneud yn San Steffan a sefyll yn gadarn yng Nghymru.
"Dydy Cymru a Chymreictod ddim yn perthyn i Lafur yn unig."
HS2 ac adeiladu tai
Y bwriad oedd y byddai'r araith yn canolbwyntio ar feirniadu gweinidogion Cymru am "adeiladu prin hanner y nifer o dai" sydd eu hangen ar Gymru.
Roedd Mr Davies i fod i gynnig newid y rheolau cynllunio a fyddai'n gorfodi adeiladwyr i gwblhau, yn hytrach na dechrau, gwaith ar dir y mae ganddynt ganiatâd cynllunio ar ei gyfer.
Ond, mae'n debyg i Mr Davies golli'r rhan hon o'r araith wrth iddo gwyno fod y tudalennau papur o'i flaen yn sownd i'w gilydd.
Roedd ei sylwadau ar HS2, cynllun gwerth biliynau o bunnoedd i greu cysylltiadau rheilffordd cyflym rhwng Llundain a dinasoedd mawr yng nghanolbarth a gogledd Lloegr, yn cyfeirio at y ffaith nad yw Cymru'n cael cyllid ychwanegol cymesur o ganlyniad i'r gwaith adeiladu yn Lloegr.
Mae hynny er gwaethaf y ffaith bod Yr Alban a Gogledd Iwerddon ill dau yn cael taliadau ychwanegol cyfrannol.
Mae hyn oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi dosbarthu HS2 fel "prosiect Cymru a Lloegr", er gwaethaf galwadau gan bwyllgor o ASau Cymreig i'r prosiect gael ei ailddosbarthu fel Lloegr yn unig fel y gall Cymru gael arian cymesurol.
"Ry'n ni'n credu - yn lle gwahardd adeiladu ffyrdd fel Llafur - mewn gwthio 'mlaen ac adeiladu rhwydwaith fodern a chynaliadwy o ffyrdd a rheilffyrdd," dywedodd.
Dywedodd y Pwyllgor Materion Cymreig fod dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun wedi dod i'r casgliad y byddai'r prosiect rheilffyrdd yn creu "anfanteision economaidd i Gymru".
Fe wnaeth Mr Davies ailadrodd ei alwadau am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2021