Teyrnged i ddynes fu farw mewn gwrthdrawiad A470
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ddynes "cariadus a hael" fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 yn Sir Conwy.
Bu farw Marilynn Kerrigan, 68 oed o Ddolwyddelan, mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar rhwng Dolwyddelan a Betws-y-coed am tua 16:45 ddydd Iau.
Mae tri o bobl eraill a gafodd eu hanafu yn y gwrthdrawiad yn parhau yn yr ysbyty yn Stoke.
Dywedodd y teulu fod Ms Kerrigan yn "chwaer a modryb yr oeddem yn ei charu".
"Roedd hi wastad yn berson cariadus a hael, yn mwynhau bywyd i'r eithaf a bydd hi'n cael ei cholli'n fawr gan ei theulu a'i nifer o ffrindiau.
"Rydym yn meddwl ac yn gweddïo am y bobl eraill oedd yn rhan o'r digwyddiad trasig yma."
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Renault Captur lliw hufen a hen gar Daimler lliw llwydfelyn.
Bu farw Ms Kerrigan, oedd yn teithio yn y Daimler yn y fan a'r lle.
Cafodd dyn oedd yn gyrru'r Daimler a pherson oedd yn teithio yn sedd flaen y Renault eu cludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke, tra bo gyrrwr y Renault hefyd wedi'i gludo i'r un ysbyty mewn ambiwlans arferol.
Dywed yr heddlu ddydd Gwener fod y tri wedi cael anafiadau all beryglu bywyd, a does dim diweddariad am eu cyflwr ers hynny.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022