Betsi Cadwaladr: Ymchwilio i lawdriniaethau anghywir

  • Cyhoeddwyd
llawdriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i dri o ddigwyddiadau a allai fod wedi achosi "niwed difrifol neu farwolaeth" i gleifion mewn ysbytai yn y gogledd.

Mae adroddiad mewnol gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi datgelu fod dau o'r achosion yn ymwneud â "llawdriniaeth anghywir".

Gallai hyn olygu'r math anghywir o lawdriniaeth neu lawdriniaeth ar y rhan anghywir o'r corff.

Yn ôl yr adroddiad mae'r math yma o ddigwyddiadau yn rhai y mae modd eu hosgoi gan fod canllawiau ar gael ac "fe ddylent fod wedi cael eu gweithredu".

Mae'r trydydd digwyddiad sy'n cael ei ymchwilio yn ymwneud â swab yn cael ei adael yng nghorff claf.

Dywedodd Mathew Joyes, cyfarwyddwr dros dro safonau Bwrdd Betsi Cadwaladr fod ymchwiliadau rhagarweiniol yn awgrymu nad oedd "llawfeddyg wedi derbyn yr hyfforddiant i'w alluogi i weld y delweddau.

"Roedd hyn yn golygu "ei fod wedi gweithredu ar fanylion adroddiad [anghywir]."

"Mae nifer o fesurau diogelwch wedi eu gweithredu... gan gynnwys sicrhau fod dau lawfeddyg sydd ar alw yn cydweithio ar achosion," ychwanegodd Mr Joyes.

O ran y digwyddiad gyda'r swab, dywedodd fod timau wedi cael eu hatgoffa o'r canllawiau i wirio offer meddygol ar ddiwedd pob llawdriniaeth.

Effeithiau Covid

Mae'r adroddiad yn nodi hefyd fod 17 achos o gleifion yn cwympo rhwng Chwefror a Mawrth. Fe wnaeth y rhain arwain at anafiadau dwys neu barhaol.

Hefyd yn y cyfnod dan sylw fe wnaeth y Bwrdd dderbyn 364 o gwynion, gyda 64 yn dwyn neu, o bosib, yn dwyn achos yn sgil esgeulustod clinigol.

"Mae disgwyl i hyn gynyddu yn sylweddol oherwydd effeithiau uniongyrchol neu anuniongyrchol Covid sydd wedi arwain at oedi," meddai'r adroddiad.