'Cynamserol' i dynnu bwrdd iechyd o fesurau arbennig yn 2020
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n "gynamserol" ac yn benderfyniad anghywir i gymryd bwrdd iechyd y gogledd o fesurau arbennig, medd y gwrthbleidiau yn y Senedd.
Wedi dros bum mlynedd dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei gymryd allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020.
Ond yn dilyn cyfres o adroddiadau damniol, dywedodd Plaid Cymru y dylai rhannau o'r bwrdd iechyd "yn bendant" ddychwelyd i fesurau arbennig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
Beth yw'r cefndir?
Yn 2015 cafodd Betsi Cadwaladr ei gosod dan fesurau arbennig yn dilyn cyfres o drafferthion ariannol, methiannau o ran rheolaeth, rhestrau aros ac adroddiad damniol i ward iechyd meddwl Tawel Fan.
Ond dywedodd y llywodraeth fis Tachwedd 2020 fod "cyngor amlwg" y dylai statws y bwrdd iechyd newid i un o "ymyrraeth wedi'i dargedu", fyddai'n dal angen "gweithredu sylweddol" gan Betsi Cadwaladr.
Fis Chwefror, yn dilyn adroddiad oedd yn feirniadol o'i wasanaethau fasgwlar, rhybuddiodd y gweinidog iechyd fod angen i'r bwrdd iechyd wneud newidiadau ar frys, neu y gallai ei roi yn ôl dan fesurau arbennig.
Yr wythnos hon daeth adroddiad beirniadol arall am uned frys Ysbyty Glan Clwyd - sydd â'r perfformiad gwaethaf yng Nghymru.
Mae adolygiad yn cael ei gynnal hefyd i'r ffordd mae nyrsys yn Ysbyty Gwynedd yn cael eu trin yn dilyn honiadau o fwlio a gorweithio.
Yn siarad ar raglen BBC Politics Wales ddydd Sul, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Dwi'n meddwl ei fod yn amlwg yn gynamserol i dynnu Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig.
"Pan oedden ni'n d'eud fod angen sortio Betsi Cadwaladr, doedd hynny ddim yn golygu newid ei statws, roedd yn golygu gwella'r gwasanaethau.
"Yn bendant mae 'na rannau o'r gwasanaeth iechyd ddylai fod dan fesurau arbennig rŵan."
'Penderfyniad gwleidyddol'
Ychwanegodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George na ddylai'r bwrdd iechyd fod wedi cael ei dynnu o fesurau arbennig yn y lle cyntaf.
"Roedd yn amlwg fod gwneud hynny cyn etholiad yn benderfyniad gwleidyddol - nid un oedd er budd cleifion a staff," meddai.
"Ond dydy mesurau arbennig ddim yn datrys popeth, ac mae angen i reolaeth y bwrdd fod yn effeithiol er mwyn gweithredu argymhellion cyfres o adroddiadau damniol."
Yn ôl Eleanor Burnham sy'n gyn aelod o'r Senedd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol mae morâl yn isel a'r sefyllfa yn ddifrifol.
"Dwi ddim yn gwybod lle i ddechrau. Mae yna gymaint o gymhlethdod a chymaint o ddirywiad dwys tymor hir, meddai Ms Burnham, sydd hefyd yn gyn aelod o'r cyngor iechyd cymunedol yn y gogledd.
"Dwi ddim yn gweld beth wnaeth y mesurau arbennig yma i wella pethau," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"Mae eisiau cael edrych yn annibynnol, ac mae eisiau pobl alluog, hwyrach ryngwladol i edrych ar sut i wella'r sefyllfa.
"Nid jyst lluchio pres at y mater ydi o.
"Allwch chi ddim cael pobl i weithio (i'r Bwrdd) oherwydd bod morâl mor isel. Mae pobl yn gwybod am y problemau."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn y Senedd yr wythnos hon ei bod yn credu fod y llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad cywir, a bod angen cydbwysedd rhwng gwneud "gwelliannau enfawr" ac "aros yn driw i'r staff".
Fe wnaeth hi wfftio galwadau gan Blaid Cymru i rannu'r bwrdd iechyd, a chyhuddo'r gwrthbleidiau o "sarhau y gwasanaeth a'r bobl sy'n gweithio yno sydd ar eu gliniau, yn eu dagrau".
Yn ymateb i hynny dywedodd Mr ap Iorwerth ddydd Sul: "Mae gennym ni weinidog iechyd Cymru yn dweud 'peidiwch sarhau'r GIG yng ngogledd Cymru, rydych chi'n gwneud tro gwael gyda'r gwasanaeth'.
"Rhag ei chywilydd hi yn dweud hynny wrthym ni pan mai'r staff a'r cleifion sy'n dweud wrthym ni 'rydyn ni wedi cael digon, oll rydyn ni eisiau ydy bwrdd iechyd sy'n cael ei reoli'n iawn'.
"'Da ni wedi cyrraedd y pwynt lle 'dan ni'n dechrau meddwl, efallai nad yw hynny'n bosib oherwydd maint Betsi.
"Ond mae'r llywodraeth yn iawn - mae ad-drefnu yn broses fawr a chymhleth."
'Nid yw'r methiannau gofal yn dderbyniol'
Mewn datganiad nos Sul, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd mewn ymyrraeth wedi'i dargedu at nifer o feysydd, gan gynnwys arweinyddiaeth.
"Nid yw'r methiannau gofal a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn dderbyniol.
"Rydym yn disgwyl i'r bwrdd iechyd wneud y gwelliannau angenrheidiol a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth drwy gydol y broses hon."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020