Llofruddiaeth bag Gucci: Carcharu dyn am ladrata

  • Cyhoeddwyd
Ethan StricklandFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ethan Strickland wedi ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar

Mae dyn, 19, a oedd yn rhan o gang a wnaeth ddwyn bag Gucci oddi ar ddyn arall a'i drywanu i farwolaeth wedi'i ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar.

Ym mis Mawrth cafwyd Ethan Strickland o Gaerau, Caerdydd yn euog o ladrata oddi ar Ryan O'Connor.

Cafodd Mr O'Connor ei drywanu bum gwaith wrth iddo gerdded yn ardal Alway, Casnewydd, ym mis Mehefin 2021.

Mae dau ddyn eisoes wedi cael eu carcharu am ei lofruddio, a dyn arall am ddynladdiad.

Er nad oedd gan Strickland ran uniongyrchol yn yr ymosodiad, dywedodd y barnwr ei fod wedi cynorthwyo neu wedi annog yr ymosodiad.

Fe fydd yn treulio dwy ran o dair o'r ddedfryd dan glo cyn iddo gael ei ryddhau o dan drwydded.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ryan O'Connor, 26, o Gasnewydd ar ôl cael ei drywanu bum gwaith

Yn gynharach clywodd Llys y Goron Casnewydd bod y dynion, yn cario cyllyll hela, wedi teithio o Gaerdydd mewn car wedi'i ddwyn, er mwyn chwilio am rhywun i ladrata oddi wrtho.

Cafodd Mr O'Connor, 26, ei drywanu yn ei galon a'i ysgyfaint, a thorrwyd ei law yn ystod yr ymosodiad. Gwelodd llygad-dystion y dynion yn ei gicio cyn rhedeg yn ôl am y car.

Gwaedodd i farwolaeth ar y palmant ym mreichiau ei frawd.

Yn dilyn yr achos yn Llys y Goron Casnewydd, cafodd Joseph Jeremy,18 ac heb gyfeiriad parhaol, ei garcharu am lofruddiaeth, gyda gorchymyn na chaiff ei ryddhau am o leiaf 24 mlynedd. Yn ogystal, cafodd 12 mlynedd o garchar am ladrata - dedfryd fydd yn cydredeg â'r gyntaf.

Dedfrydwyd Lewis Aquilina, 20, o ardal Glan-yr-afon, Caerdydd i o leiaf 22 mlynedd dan glo am lofruddiaeth, a dedfryd i gydredeg o 12 mlynedd am ladrata.

Cafodd Kyle Raisis, 18 oed o ardal Treganna, Caerdydd, ddedfryd o 12 mlynedd o garchar wedi i'r llys ei gael yn euog o ddynladdiad, ac wyth mlynedd dan glo, i gydredeg, am ladrata.