Tlws John a Ceridwen Hughes i sylfaenwyr Adran Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Helen Medi Williams a Lona Phillips, sylfaenwyr ac arweinyddion Adran Aberystwyth, yw enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled eleni.
Cyflwynir y tlws yn flynyddol yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Yn ogystal â hyfforddi a chynorthwyo Aelwyd Aberystwyth, chwaraeodd y ddwy ran flaenllaw yn ei sefydlu yn 2009 er mwyn sicrhau cyfle i blant y dref a'r cyffiniau gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010 a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond er ei sefydlu'n wreiddiol fel adran ar gyfer plant cynradd, ers 2013 mae ganddi hefyd adran uwchradd.
Dathlu 30 mlynedd
Cyflwynwyd y tlws am y tro cyntaf 30 mlynedd yn ôl yn Eisteddfod Bro Glyndŵr 1992.
Cyflwynir Tlws John a Ceridwen Hughes eleni yn yr ardal lle bu'r ddau yn weithgar am hanner canrif a mwy - mae'r ŵyl i'w chynnal o fewn milltir i gartref John a Ceridwen pan oeddynt yn byw yn Ninbych.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd llefarydd ar ran aelodau a rhieni Aelwyd Aberystwyth: "Mae ymroddiad Helen a Lona a'u brwdfrydedd wrth gyfrannu'n gwbl wirfoddol at ddatblygiad a phrofiadau pobl ifanc Aberystwyth a'r cyffiniau yn eu gwneud yn gwbl deilwng o Dlws John a Ceridwen Hughes."
Dywedodd cyn-aelod o'r aelwyd, Siwan Fflur Davies: "Roeddwn yn un o'r aelodau cyntaf yn 2009, a bues i'n cystadlu bob blwyddyn hyd at Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019.
"Mae gennyf lawer o atgofion melys ac rwy'n ddiolchgar iawn i Adran Aberystwyth, ac i Helen a Lona yn arbennig, am bob cyfle."
'Cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc'
Cafodd Helen a Lona wybod eu bod wedi ennill y wobr yn ystod un o ymarferion Aelwyd Aberystwyth yn ddiweddar.
Roedd y cyflwynydd Heledd Cynwal a'r criw yno i roi syrpreis iddynt ac i roi gwybod eu bod wedi ennill.
Mae Helen yn athrawes yn Ysgol Rhydypennau ger Aberystwyth, ac mae Lona yn nyrs yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Dywedodd Siân Eirian, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau: "Mae Helen a Lona wedi cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Aberystwyth ers degawd a mwy bellach, ac mae hi'n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni.
"Mae mudiad yr Urdd yn ddibynnol ar bobl weithgar, cydwybodol fel hyn i'w gynnal a'i hyrwyddo ac mae eu brwdfrydedd yn dangos pa mor werthfawr, a chymaint o hwyl, ydi bod yn aelod o'r mudiad."
Bydd seremoni arbennig i gyflwyno'r tlws yn cael ei chynnal ar ddydd Iau, 2 Mehefin ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019