Aelodau o'r Senedd yn rhoi teyrngedau i'r Frenhines

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines a'r LlywyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines, gyda'r llywydd, Elin Jones, yn ystod agoriad y Chweched Senedd ym mis Hydref 2021

Mae aelodau o'r Senedd wedi talu teyrnged i'r Frenhines cyn y dathliadau sy'n dechrau'r wythnos nesaf i nodi ei Jiwbilî Platinwm.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai'r digwyddiadau yn dangos y "parch dwfn" tuag ati ac yn mynegi "diolch am ei blynyddoedd lawer o wasanaeth anhunanol".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei bod wedi dal Cymru "yn ddwfn yn ei chalon" dros ei theyrnasiad 70 mlynedd.

Canmolodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price yr "empathi" roedd y Frenhines wedi dangos ar ôl trychineb Aberfan yn 1966.

Ymwelodd â phentref glofaol de Cymru ar ôl i domen wastraff glo ddymchwel gan amlyncu Ysgol Iau Pant-glas a'r cartrefi cyfagos a lladd 116 o blant a 28 o oedolion, ac mae wedi ymweld sawl tro wedi hynny.

Dywedodd Mr Price wrth Senedd Cymru ei fod yn "achlysur prin pan adroddwyd ei bod wedi colli deigryn yn gyhoeddus".

"Dywedodd un fam wrth ohebydd teledu, 'rwy'n cofio'r Frenhines yn cerdded trwy'r mwd, roedd yn teimlo ei bod hi gyda ni o'r dechrau.

"Wnaeth y Frenhines Elizabeth fyth anghofio Aberfan.

"Fe ymwelodd yn 1973 i agor y ganolfan gymunedol newydd ac eto ym 1997 i nodi 30 mlynedd ers y drychineb."

'Ymddiriedaeth'

Aeth Mr Drakeford â'r Senedd yn ôl i 1952, ac araith ar ddiwrnod y coroni lle'r oedd y Frenhines "wedi addo ei hun i wasanaethu ei phobl, wedi addo 'ar hyd fy oes, a chyda'm holl galon, ymdrechaf i fod yn deilwng o'ch ymddiriedolaeth'.

"A does dim dwywaith fod ymddiriedaeth wedi ei hennill dros y 70 mlynedd sydd wedi dilyn," meddai.

"Bydd dathliadau a digwyddiadau'r wythnosau nesaf yn arwydd o'r parch dwfn sydd i'r Frenhines ac yn fynegiant o'r diolchgarwch am ei blynyddoedd lawer o wasanaeth anhunanol."

Cyfeiriodd yr aelodau, gan gynnwys Mr Davies, at y "cynhesrwydd a'r pleser" yr oedd hi wedi'i ddangos wrth agor y Senedd yn swyddogol, a chyn hynny y Cynulliad Cenedlaethol, dros y ddau ddegawd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines, gyda'r llywydd, Elin Jones, y Tywysog Charles a Duges Cernyw yn y seremoni ym mis Hydref

Dywedodd Mr Davies fod y Frenhines wedi "dal Cymru yn ddwfn yn ei chalon, yn enwedig yn y nawdd y mae hi wedi'i ddangos i'r Sioe Amaethyddol Frenhinol, i Undeb Rygbi Cymru a nifer o elusennau a sefydliadau, sydd wedi helpu i godi proffil a diddordeb yn y sefydliadau hynny".

"Rydyn ni'n credu'n angerddol bod y Frenhines a'r profiad y mae hi wedi'i ennill dros y 70 mlynedd wedi cynnal yr hyn sydd orau am Gymru a'r hyn sydd orau am Brydain ym mhob penderfyniad y mae hi wedi'i wneud dros y wlad hon, ein gwlad unedig, sy'n sefyll yn uchel yn y byd," ychwanegodd.

Galwodd y Ceidwadwr Natasha Asghar hi yn "ysbrydoliaeth, model rôl ac yn gadernid enfawr i filiynau o bobl yma yng Nghymru, gweddill y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd".

"Nid yw hi wedi gwneud cam o'i le trwy gydol ei theyrnasiad."

Gweriniaethwyr

Roedd Mick Antoniw, cwnsler cyffredinol neu uwch gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, yn un o nifer o wleidyddion yn y siambr sydd o blaid cael gwared ar y frenhiniaeth.

Ond pwysleisiodd "beth bynnag yw eich barn ar y mater, beth bynnag yw eich gwleidyddiaeth, beth bynnag yw eich credoau, mae un farn rwy'n credu sy'n mynd y tu hwnt i'r holl wahaniaethau hyn".

"Drwy gydol ei bywyd mae hi wedi bod yn esiampl o bwysigrwydd dyletswydd gyhoeddus.

"Yr hyn sydd hefyd yn ddiymwad yw dyfnder yr anwyldeb a'r parch sydd iddi ar draws y siambr hon a chan lawer o'r rhai yr ydym yn eu cynrychioli."

Pynciau cysylltiedig