Y Frenhines wedi agor y Senedd am chweched sesiwn
- Cyhoeddwyd
Mae'r Frenhines wedi agor y Senedd yn swyddogol yn ystod ei hymweliad cyntaf i Gymru ers pum mlynedd.
Cafodd pobl o bob rhan o Gymru wahoddiad i gymryd rhan yn y digwyddiad sy'n nodi dechrau'r chweched sesiwn, fydd yn para pum mlynedd.
Fel arfer mae'r agoriad yn digwydd yn fuan wedi'r etholiad, ond cafodd y seremoni ei gohirio eleni o achos Covid.
Dyma'r tro cyntaf i'r Senedd ddechrau sesiwn ers newid enw'r sefydliad o'r Cynulliad.
Wedi iddi gwrdd â'r Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinwyr y gwrthbleidiau, fe wnaeth y Frenhines annerch y Senedd yn y siambr, ac fe wnaeth Mr Drakeford hefyd araith.
Dywedodd y Frenhines wrth aelodau'r Senedd fod "llawer o heriau o'u blaenau" yn chweched sesiwn y Senedd.
"Wrth i chi weithio gyda'ch gilydd i hyrwyddo llesiant pobl Cymru, a chefnogi'r ymdrech adfer, mae Tywysog Cymru, Duges Cernyw a minnau'n estyn ein dymuniadau cynhesaf i chi ar gyfer chweched sesiwn y Senedd hon, a gobeithio y cewch bob llwyddiant gyda'ch ymdrechion."
'Ein huchelgeisiau'
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod agor y chweched sesiwn yn "amser i bob un ohonom edrych i'r dyfodol".
"Mae pobl o bob cornel o Gymru, gan gynnwys y rhai sydd fwyaf pell o'r adeilad hwn, wedi dewis 60 aelod i gynrychioli ein huchelgeisiau ar y cyd a'r cwrs i'n gwlad, yn y blynyddoedd i ddod," meddai.
"Rwy'n siŵr y byddwn yn dadlau ac yn anghytuno ynghylch yr hyn sydd orau i Gymru, ond bob amser yn y Senedd hon gyda buddiannau'r rheiny yr rydym yn eu cynrychioli yng nghanol popeth a wnawn."
Ymhlith y gwesteion roedd pobl a fu'n weithgar yn eu cymunedau yn ystod y pandemig.
Mae rhai o'r hyrwyddwyr cymunedol, a enwebwyd gan aelodau o'r Senedd, wedi cwrdd gyda'r Frenhines, Tywysog Cymru a Duges Cernyw.
Gobaith trefnwyr y digwyddiad oedd dathlu cyfraniadau pobl gyffredin wnaeth godi gwên yn ystod dyddiau du'r pandemig.
Maen nhw'n cynnwys Alison Round a fu'n arwain grŵp gwnïo yn Y Fflint i greu dillad a mygydau i weithwyr iechyd a gofalwyr.
Yno hefyd roedd Ffion Gwyther, yr actores o Lanelli wnaeth ffilmio fideos yn dynwared cymeriadau teledu yn ystod y cyfnod clo.
Wrth annerch y Senedd, dywedodd y Llywydd Elin Jones: "Fel pob senedd ledled y byd, mae pandemig coronafeirws wedi rheoli ein gwaith dros y 18 mis diwethaf wrth i ni geisio cadw ein gwlad mor ddiogel â phosib.
"Rydyn ni'n diolch i holl bobl Cymru, gweithwyr gofal iechyd yn benodol, am eu hymdrechion rhyfeddol yn ystod yr amser hwn."
Dywedodd y bydd gwaith yn y tymor nesaf "yn ddi-os yn canolbwyntio ar wella o bandemig Covid".
"Ond bydd yna lawer o heriau a chyfleoedd eraill hefyd, o chwarae rhan flaenllaw wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd i hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch i bawb yng Nghymru."
Cafwyd perfformiad gan aelodau o Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a darlleniad o farddoniaeth gan aelodau o'r Senedd Ieuenctid.
Hefyd mae'r Tywysog Charles wedi cwrdd gyda theulu o Afghanistan wnaeth ffoi o'r Taliban.
Fe gyrhaeddon nhw yma fel rhan o bolisi adleoli pobl wnaeth wasanaethu'r lluoedd arfog.
Fel rhan o'r seremoni cafodd byrllysg (mace) ei osod yn y siambr er mwyn dangos fod y Senedd mewn sesiwn.
Shaz Khan, aelod o dîm diogelwch y Senedd, a gludodd y byrllysg eleni. Ganwyd yng Nghaerdydd ond symudodd i Bacistan yn ifanc iawn cyn dychwelyd i Gymru.
"Mae'n gymaint o anrhydedd i mi, o fy ngwreiddiau cyffredin," meddai.
"Ac i fod yn gweithio gyda Senedd Cymru ei hun, rwy'n angerddol iawn am fy swydd."
Diwrnod 'reit swreal'
Mae'n ddiwrnod "reit swreal" meddai'r sylwebydd gwleidyddol, yr Athro Richard Wyn Jones, oherwydd y cyfuniad o'r "rhwysg seremonïol Prydeinig" a dechrau'r senedd newydd mewn "cyfnod o ansicrwydd mawr".
Ar Dros Frecwast, dywedodd: "Mae gennych chi'r parhad 'ma, y symbolaeth Brydeinig, ond hefyd mae'r Senedd tu ôl i fi o dan warchae.
"Mae gennych chi lywodraeth yn Llundain yn ceisio tynnu pwerau i ffwrdd o'r lefel datganoledig, 'di hwnna ddim 'di digwydd o'r blaen, felly mae'n rhyw gyfnod od iawn..."
Ychwanegodd bod ansicrwydd ynghylch cynlluniau'r llywodraeth ar gyfer y senedd hon.
"Os 'dych chi'n edrych ar y rhaglen ddeddfwriaethol am y flwyddyn neu ddwy nesa' does 'na bron dim byd arno fo, yn sicr dim byd sy'n mynd i fod yn drawsffurfiol.
"Mi oedd maniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer yr etholiad yn reit denau, oeddan nhw'n canolbwyntio ar y coronafeirws."
Mae trafodaethau'n parhau rhwng Llafur a Phlaid Cymru ynghylch cydweithio posib ym Mae Caerdydd, a soniodd y gallai hynny "esgor ar raglen newydd o fewn ychydig wythnosau neu fisoedd neu ddyddiau".
"'Da ni ddim cweit yn siŵr be' sy' mynd i ddigwydd, mae gennym ni'r rhaglen sy'n bodoli, ond 'da ni hefyd yn gwybod yn y cefndir o bosib bod 'na rhywbeth arall yn digwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2016