Llety gwyliau: Bwrw ymlaen â newidiadau treth gyngor

  • Cyhoeddwyd
Stryd yn Ninbych-y-pysgod, Sir BenfroFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn bwrw ymlaen â newidiadau i dreth y cyngor a fydd yn ei gwneud hi'n anoddach eithrio llety gwyliau.

O fis Ebrill nesaf bydd angen iddynt gael eu rhentu am 182 diwrnod mewn blwyddyn cyn y caniateir iddynt dalu ardrethi busnes yn lle hynny.

Daw wrth i berchnogion ail gartrefi wynebu premiwm treth cyngor o 300%.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod hyn yn "ergyd ddinistriol i ddarparwyr llety hunanarlwyo".

Ond dywed gweinidogion y bydd y newid yn sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i gymunedau lleol.

Mae rhai busnesau gosod gwyliau wedi dweud y gallent ddod yn anhyfyw.

Ar hyn o bryd gellir dosbarthu eiddo sydd ar gael i'w osod am o leiaf 140 diwrnod, ac mewn gwirionedd ar osod am 70, fel eiddo sy'n talu ardrethi busnes yn hytrach na'r dreth gyngor.

Gosod am o leiaf 182 diwrnod

O dan y cynlluniau o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf bydd y trothwy'n codi, felly bydd angen sicrhau bod eiddo ar gael am o leiaf 252 diwrnod, a'u gosod mewn gwirionedd am 182.

Daw hyn ar ôl ymgynghoriad technegol ar y cynlluniau, lle dywedodd 215 o'r 424 o ymatebwyr wrth Lywodraeth Cymru eu bod yn erbyn y cynigion, roedd 36 yn gyffredinol yn eu herbyn, a mynegodd 31 o ymatebion bryderon am yr effeithiau ar fusnesau.

Ond dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, nad oedd yr ymarferiad "wedi codi unrhyw faterion o eglurder technegol yr ystyrir bod angen eu diwygio."

Roedd ymatebion i ymgynghoriad cynharach "yn amlwg yn cefnogi newid i'r meini prawf ar gyfer llety hunan-ddarpar i gael ei ddosbarthu fel annomestig", meddai Ms Evans.

"Diben y newid yw helpu i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i gymunedau lleol, er enghraifft drwy gynyddu eu cyfraniad i'r economi leol drwy fwy o weithgarwch gosod neu drwy dalu'r dreth gyngor ar eu heiddo."

'Ergyd drom'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar ddiwylliant, twristiaeth a chwaraeon, Tom Giffard: "Mae hon yn ergyd drom i ddarparwyr llety hunanarlwyo ar hyd a lled Cymru.

"Bydd y gofynion gosod newydd hyn a dweud y gwir yn amhosib i lawer o hunan-arlwywyr eu bodloni a byddant yn dirywio diwydiant twristiaeth Cymru.

"Dylai gweinidogion Llafur ganolbwyntio ar helpu'r sector i adlamu'n ôl o Covid, nid dryllio'r adferiad bregus a rhoi swyddi mewn perygl".

Pynciau cysylltiedig