Beth nesaf i'r GIG wrth i fygythiad Covid ddirwyn i ben?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysbyty GlangwiliFfynhonnell y llun, GIG Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff Ysbyty Glangwili Caerfyrddin wedi bod yn rhannu eu pryderon gyda BBC Cymru

Colli staff a llwyth gwaith oherwydd gohirio triniaethau yn sgil Covid - dyna rai o'r prif heriau sy'n wynebu'r Gwasanaeth Iechyd wrth i Gymru ddod allan o'r pandemig.

Yn ôl staff yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, mae cleifion yn dal i "angen gofal", ond dyw staff ddim "wedi cael amser i resto o gwbl".

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd cyfyngiadau Covid yn diflannu yn llwyr ar 28 Mawrth, os yw sefyllfa coronafeirws yn parhau'n sefydlog.

Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd yn ystod y pandemig wrth i staff rheng flaen ddelio â chleifion oedd yn wael iawn, ond wrth i ni weld golau ar ddiwedd y twnnel, mae yna heriau amlwg yn wynebu'r GIG.

'Fi'n prowd o beth fi wedi'i neud'

"Dros y flwyddyn ddiwetha' yn enwedig, ma' lot o staff wedi gadael y proffesiwn," medd Catrin Rooney, uwch brif nyrs yn Ysbyty Glangwili.

"Staffing yw'r sialens fwya' fi'n meddwl ar y foment. Ni dal yn cael staff yn testio'n positif ac isolatio - ma' nhw bant o'r gwaith a ma' dal cleifion 'ma sydd angen gofal," meddai.

"Pryd o'n ni'n mynd trwy'r cyfnod anodd 'na o'dd staff bant gyda Covid a phethau fel 'ny, ac wedyn o'dd y staff yn stryglan mwy gyda gwaith o ddydd i ddydd.

"Fi'n prowd o beth fi wedi'i 'neud, a fi'n prowd o'r tîm a phopeth mae'r nyrsys wedi 'neud, a'r doctoriaid a phawb arall. O'dd e'n adeg caled, caled, iawn i ni ond mae'n adeg ma' ishe ni fod yn really prowd ohoni."

Disgrifiad o’r llun,

"Staffing yw'r sialens fwya' fi'n meddwl ar y foment," yn ôl Catrin Rooney

Yn sicr mae pethau wedi gwella - gyda llai o achosion Covid yn y gymuned yn golygu bod llai o bobl yn ddifrifol wael yn cael triniaeth ysbyty.

Ond wrth i un her ddiflannu, mae un arall yn codi ei ben yn ôl Meryl Jenkins, sy'n uwch reolwr nyrsio gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

'Ofn mynd i weld doctoriaid'

"Mae'r pwysau lot yn wahanol o'i gymharu â blwyddyn yn ôl. Mae Covid yn lleihau o fewn yr unedau dros Hywel Dda i gyd," meddai.

"Ond ma' 'na bwysau gwahanol nawr, yn treial dal lan gyda'r backlog o lawdriniaethau canser, cael pobl 'nôl mewn i'r ysbytai i gael appointments gyda'u doctoriaid.

"Mae cymaint o bobl wedi bod ofn mynd i weld doctoriaid a dod mewn i'r ysbyty, a fi'n credu ni'n mynd i weld lot mwy o effeithiau'r rheiny dros y flwyddyn neu ddwy nesa' oherwydd bod ni wedi bod yn delio gyda Covid.

"S'mo ni 'di stopio. Fi'n credu bod pobl yn mynd lot fwy sâl erbyn hyn yn y gymuned cyn bo' nhw'n dod mewn i'r ysbyty. Delio gyda phethau fel 'ny ni'n neud.

"Ma' fe yn galed i'r staff achos s'mo nhw wedi cael amser i resto o gwbl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pandemig "wedi bod yn hunllef go wir i lot o'r staff", meddai Meryl Jenkins

Ychwanegodd Ms Jenkins, wrth i staff gael cyfle i edrych yn ôl ar heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf, y gallai "gael effaith arnyn nhw" yn yr hir dymor.

"Fi'n credu nawr bod ni'n gweld llai o Covid yn dod mewn i'r unedau, fi'n credu bod y staff yn dechre' edrych 'nôl ar be ma' nhw wedi bod trwyddo.

"Achos amser y'ch chi ynddo fe s'mo chi'n cael amser i feddwl a s'mo chi'n cael amser i stopio.

"Ond unwaith chi yn stopio a dim yn gweld cymaint yn dod mewn chi'n edrych 'nôl ar beth chi wedi gweld ac mae e wedi bod yn hunllef go wir i lot o'r staff.

"Ma' nhw wedi bod mewn bob diwrnod yn gwisgo'r PPE am amser hir. Dwi'n credu ei fod e yn mynd i gael effaith arnyn nhw."

'Her i ddenu nyrsys newydd'

Mae'r gwaith nawr yn troi ar ddenu rhagor o nyrsys i'r proffesiwn er mwyn lleddfu'r pwysau ar staff a delio â'r llwyth gwaith sydd wedi cynyddu oherwydd y pandemig.

Dywedodd Olwen Morgan, pennaeth nyrsio yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli: "Ma'r pwysau'n dal i fod ar nyrsys. Ni 'di colli mwy o nyrsys yn ystod y cyfnod hwn.

"Nyrsys wedi ymddeol, nyrsys wedi penderfynu bod nhw ddim moyn gweithio rhagor, felly mae'r sefyllfa staffio weden i wedi gwaethygu os rhywbeth.

"Mae'r niferoedd o nyrsys sydd gyda ni ar hyn o bryd yn weddol sefydlog. Ma' angen mwy o nyrsys arnom ni, a ma' hwnnw o hyd yn her i ddenu nyrsys newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Olwen Morgan fod y "sefyllfa staffio weden i wedi gwaethygu os rhywbeth" yn ystod y pandemig

Ychwanegodd ei bod yn rhagweld y bydd hi'n sawl blwyddyn eto cyn i'r baich ar y Gwasanaeth Iechyd ddychwelyd i'r lefelau a welwyd cyn y pandemig.

"Un o'r heriau mwya' sydd gyda ni nawr yw medru datblygu strategaeth digon cadarn a thrylwyr i ni fedru dechrau trin y cleifion yma sydd wedi bod yn aros am y gwahanol driniaethau, ac mae e'n mynd i gymryd blynyddoedd i ni gyrraedd y pwynt lle ni'n gallu dal lan gyda'r holl waith sydd gyda ni," meddai Ms Morgan.

"Bydden i'n tybio bo' chi'n siarad am ryw dair, bedair blynedd mwy na thebyg cyn bo' ni wedi dod i ryw bwynt bo' ni ar lefel gwastad eto."