Cynllun i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad
- Cyhoeddwyd
Byddai cynllun i brynu lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yn helpu i ddiogelu'r sîn gerddoriaeth Gymreig am genedlaethau i ddod, yn ôl elusen.
Mae'r elusen The Music Venue Trust (MVT) eisiau gwario £3.5m i brynu naw eiddo ar draws Prydain.
Mae dau leoliad yng Nghymru yn eu plith The Bunkhouse yn Abertawe, a Le Pub yng Nghasnewydd.
Dywed arweinwyr y prosiect eu bod am fod yn rhyw fath o Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth yn hytrach na phlasdai a chestyll.
Dywed MVT bod dros draean o leoliadau cerdd llawr gwlad y DU wedi cau yn yr 20 mlynedd diwethaf.
Tenantiaid yn talu rhent i landlord oedd dros 90% o'r lleoliadau hynny, gyda phrydles o 19 mis yn unig, ar gyfartaledd.
"Y bobl orau i berchnogi lleoliadau cerdd ydi'r diwydiant cerdd ei hun," meddai Mark Davyd, sylfaenydd a phrif weithredwr MVT.
"Dwi ddim yn beirniadu landlordiaid, dwi ddim yn beirniadu buddsoddwyr preifat, dim ond dweud mai elw sy'n eu symbylu."
Tynnodd yr elusen sylw at achos bar Gwdihŵ yng Nghaerdydd, fel esiampl o ddinas yn colli safle cerdd poblogaidd a bywiog, oherwydd ailddatblygu.
Er gwaethaf protestiadau a deiseb ag arni 20,000 o enwau, mae'r gwaith o drawsnewid y safle yng Nghilgaint Guildford, Caerdydd, wedi dechrau.
Bydd bloc o fflatiau 30 llawr yn cael ei godi yno, gyda dim ond wyneb yr hen adeiladau, yn cynnwys y Gwdihŵ, yn cael eu cadw, am eu bod yn rhestredig.
"Roedd hwnna'n adnodd cymunedol pwysig dros ben, roedd y gymuned gerddorol leol a'r gymuned o'i gwmpas, yn ei garu," meddai Mr Davyd.
"Dydi hyn ddim ynglŷn ag arian yn unig, mae o'n ymwneud â ble mae'n cymunedau ni'n cwrdd, ble mae'n hartistiaid yn cychwyn a sut ydym ni'n datblygu eu gyrfaoedd?"
'Ail gartref i ni fel band'
Mae Katie Hall yn gwybod yn iawn sut y gall lleoliadau cerdd bychain, annibynnol, helpu artistiaid.
Dywed cantores y grŵp Chroma, o'r Cymoedd, bod Le Pub wedi bod fel ail gartref iddi hi a'r band - nid fel lle i berfformio yn unig, ond i feithrin cysylltiadau gydag eraill yn y diwydiant, a gwneud ffrindiau.
"Mae Le Pub wastad wedi bod yna i ni fel band a fel pobl," meddai.
"Dwi'n credu ei bod hi mor bwysig i gael lle allwch chi fynd iddo a chyfarfod pobl eraill a rhywle lle medrwch hogi eich crefft fel cerddorion.
"Ond dwi hefyd yn teimlo'n ddiogel iawn yma, fel menyw, fel perfformiwr.
"Mae'n bwysig yn ddiwylliannol, mae cerddoriaeth yn y bôn yn ymwneud â'r profiad dynol."
Roedd lleoliadau llawr gwlad wedi dod hyd yn oed yn fwy pwysig wrth i Gymru ddod allan o'r pandemig, meddai.
"Mae pobl angen llefydd lle allen nhw fynd i fwynhau eu hunain, mae pobl angen llefydd lle allen nhw deimlo'n saff, ac mae pobl angen llefydd lle allen nhw fynegi eu hunain yn glir.
"Pan ydych chi'n colli lleoliad cerddoriaeth rydych yn colli cymuned."
Fel rhan o'u breuddwyd, mae MVT wedi sefydlu menter arall, Music Venue Properties - cymdeithas er budd cymunedau fydd yn codi arian trwy ryddhau cyfranddaliadau, a'r arian wedyn yn cael ei ddefnyddio i brynu'r rhyddfraint ar lefydd fel Le Pub.
Nhw fydd y landlord newydd, ond gyda'r dasg o ddiogelu cerddoriaeth yn y lleoliadau hynny.
Mae Le Pub eisoes wedi bod yn cefnogi artistiaid newydd a sefydlog ers chwarter canrif.
Dywedodd y rheolwr, Sam Dab, ei bod wrth ei bodd bod y lleoliad yn rhan o'r cynllun peilot.
"Fel busnes, mae Le Pub eisoes yn ased gymunedol ac ym mherchnogaeth y gymuned, ond rydym yn gweithio gyda landlord preifat," meddai.
"Byddai cael landlord sy'n cydymdeimlo â'r hyn rydym yn ei wneud, sy'n deall beth rydym yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth anferthol," meddai.
Mae'r busnes wedi goresgyn storm y pandemig, ond mae pryder ynglŷn â chyfnodau clo pellach yn y dyfodol, ac mae'r argyfwng costau byw presennol yn heriol dros ben i'r sector lleoliadau cerddoriaeth.
"Rhent yw'r pryder mwyaf sydd gennym tra mai holl bwynt Music Venue Properties yw sicrhau, mewn sefyllfaoedd o'r fath, bod lleoliadau cerddoriaeth sy'n asedau cymunedol yn cael eu diogelu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd14 Mai 2020