Mapio lleoliadau Cymru er lles y diwydiant cerdd

  • Cyhoeddwyd
GwdihŵFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd Gwdihŵ yng Nghaerdydd ei ddrysau yn gynharach eleni

Bydd map o leoliadau sy'n gallu cynnal digwyddiadau cerddorol yn cael ei chreu mewn ymgais i gefnogi'r diwydiant cerdd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cynllun i fapio canolfannau ar gyfer talentau cerddorol.

Dywedodd y llywodraeth ei bod yn "poeni bod cymaint o leoliadau'n dirywio ac yn cau".

Bydd yr ymarfer yn "penderfynu ar ddiffiniad o 'leoliad cerdd leol'" ac yn paratoi map gyda gwybodaeth am leoliadau ledled y wlad.

'Bygwth llwybr magu talent'

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Rydym am ei gwneud yn haws i bobl ddawnus ddatblygu gyrfaoedd hirdymor yn y diwydiant cerdd yng Nghymru.

"Mae rhan o hynny'n golygu helpu lleoliadau cerdd i'w cadw ar agor.

"Mae prinder lleoliadau ar gyfer cynnal cerddoriaeth fyw yn bygwth y llwybr magu talent yng Nghymru.

"Rydyn ni'n gwybod am lawer o'r problemau sy'n eu hwynebu ar draws y wlad a byddwn yn dal i chwilio am ffyrdd i gydweithio â'r sector i'w datrys."

Ychwanegodd fod y llywodraeth wedi comisiynu tîm "profiadol iawn" i greu map o leoliadau cerdd ledled Cymru er mwyn cael tystiolaeth "gywir a chyfoes" i wneud penderfyniadau i gefnogi'r diwydiant.