Prysurdeb yn Sir Ddinbych ar drothwy Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Ar ôl gorfod canslo ddwywaith, mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wedi cyrraedd Sir Ddinbych. Hon fydd yr ŵyl fwyaf i gael ei chynnal yng Nghymru ers cyn Covid.
Ar y maes, mae yna ddigon o arwyddion i ddangos y ffordd. Ond gyda threfn newydd eleni mae yna gyfarwyddiadau pendant cyn cyrraedd y maes.
Mae Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, yn pwysleisio bod angen i ymwelwyr ganiatáu digon o amser i deithio yno.
Gyda thri phafiliwn ar gyfer y cystadlu, mae yna anogaeth i gystadleuwyr gyrraedd mewn da bryd er mwyn ymgynefino â'r maes.
Mae mynediad i'r Eisteddfod eleni am ddim ond mae yna gyngor i eisteddfodwyr gael tocyn o flaen llaw oherwydd y rheolau iechyd a diogelwch.
"Er bod hi'n eisteddfod am ddim mae angen i bawb archebu tocyn ymlaen llaw a'i lawrlwytho i'w ffôn," meddai Siân Eirian.
"Oherwydd iechyd a diogelwch mae'n rhaid i ni fod yn gwybod faint sydd ar y safle, faint sy'n mynd a dod ond fe allwn ni gynorthwyo naill ai yn swyddfa'r Eisteddfod neu hyd yn oed ar ddiwrnod yr Eisteddfod.
"Mae gynnon ni swyddfa docynnau a 'dan ni yna i gynorthwyo pawb na sy'n gyfarwydd â'r dechnoleg."
Os am fentro draw i'r ŵyl, dyw hi ddim yn bosib i chi fynd ar goll achos mae yna fathodyn yr Urdd anferth wedi ymddangos ar fryn wrth ymyl y maes.
Mi gafodd y triongl sy'n mesur 160 metr o hyd a 60 metr o led ei adeiladu gan dîm o wirfoddolwyr, dan arweiniad Bryan Jones a Cledwyn Jones.
Mae'r triban wedi ennyn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn holi lle mae'r lliw coch.
"Mae yna goch yna," meddai Bryan Jones, "ond efallai nad ydi o mor glir â hynny o bellter."
Er mai tref Dinbych ydi cartref yr ŵyl, mae hi'n Eisteddfod sy'n perthyn i'r sir gyfan.
"Mae pawb yn edrych ymlaen iddi ddechrau rownd y dre 'ma," meddai Sylwen Evans, aelod o'r pwyllgor gwaith.
"Mae'n fôr o liwiau coch, gwyn a gwyrdd ac mae'r croeso yn mynd i fod yn gynnes.
"Mae 'na dîm gwych wedi bod yn gweithio'n galed drwy'r sir a phwyllgor gwaith gwych."
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Dyfan Phillips, sydd hefyd yn Bennaeth Ysgol y Llys ym Mhrestatyn yn pwysleisio bod yr eisteddfod yn perthyn i Sir Ddinbych gyfan.
"Mae yna gymaint o blant wedi cymryd rhan ac wedi cyfnod anodd y cyfnod clo yn sgil Covid mae'n wych nad ydyn nhw wedi colli eu Cymreictod nhw. Mae nhw dal yn awyddus i ddefnyddio eu Cymraeg a pherfformio ar lwyfan o flaen pobl eraill," meddai.
"Dwi erioed wedi bod yn Eisteddfod yr Urdd. Mae'n gywilydd o beth ond dwi'n mynd i fynd tro yma. Gan bod o ar stepan drws - does dim esgus i mi beidio mynd," meddai Julie Ann Lloyd, aelod o staff Ysgol y Llys.
Am y tro cynta' mewn tair blynedd mi fydd yna faes ar laswellt, pebyll, unawdwyr, dawnswyr a chorau ar lwyfanmau go iawn.
Mi fydd y sioe ysgolion uwchradd, Fi di Fi a ysgrifennwyd gan frawd a chwaer, Angharad Llwyd Beech ac Ynyr Llwyd, ar lwyfan y Pafiliwn Gwyrdd bnawn Mercher.
"Y syniad oedd gen i bod y prif gymeriad, Gwennol, yn gaeth i gawell ei ffôn symudol," medd Angharad Llwyd Beech.
"Mae yna gymeriad Fi Fawr a'i was bach Llygodan yn trio denu hi nôl fel bod hi ddim yn styc yn ei ffôn ond diolch byth mae ein Mr Urdd cyfoes ni yn lawrlwytho Ifan ab Owen Edwards ac Eirys Edwards i ddod i achub yr hen Gwennol ac agor y gawell a dangos bod yna weithgareddau a ffrindiau a phob math o bethau diddorol eraill i'w gweld."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022