Carcharu dyn aeth ar ffo ar ôl cam-drin merch yn y 90au
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr wnaeth gam-drin merch yn rhywiol am dair blynedd yn yr 1990au wedi cael ei ddedfrydu i 12 mlynedd o garchar.
Cafodd David Carey Williams, 58 - fu ar ffo am 20 mlynedd - ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.
Yn ystod y tair blynedd, dywedodd Heddlu De Cymru i Williams gyffwrdd a cham-drin y ferch ifanc yn rhywiol "sawl gwaith" pan oedd hi rhwng 10 ac 13 oed.
Roedd wedi ei gyhuddo o 10 achos o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn, ac fe blediodd yn euog i wyth ohonyn nhw.
Cafodd Williams ei arestio ym Maes Awyr Heathrow fis Hydref 2021.
Ffoi o'r DU yn 2000
Ei gynllun, yn ôl Heddlu'r De, oedd dychwelyd i'r DU heb i unrhyw un sylwi, ond ar ôl i Heddlu De Cymru weithio gydag awdurdodau dramor, aeth swyddogion i'r maes awyr wrth iddo lanio.
Dywedodd yr heddlu ei fod wedi ffoi o'r DU yn 2000 ar ôl dod i wybod bod y dioddefwr wedi cael ei chyfweld gan yr heddlu.
Bryd hynny, daeth swyddogion i ddeall ei fod wedi gadael ei gar yn Y Rhws ger Y Barri cyn hedfan i Lanzarote.
Fe ddechreuodd y llu yn ne Cymru weithio gydag awdurdodau yn Sri Lanka a'r Swyddfa Gartref yn 2013, nes iddo gael ei ddal y llynedd.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru: "Hoffwn dalu teyrnged i'r dioddefwr yn yr achos hwn a gafodd ei cham-drin yn erchyll gan Williams yn blentyn.
"Mae hi wedi dioddef dau ddegawd o ing a thorcalon gan wybod bod ei chamdriniwr yn osgoi cyfiawnder tra ar ffo dramor."