Pwyllgor yn cytuno bod angen 96 o aelodau yn y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan gynlluniau Llafur a Phlaid Cymru, byddai nifer yr aelodau yn cynyddu o 60 i 96

Mae un o bwyllgorau'r Senedd wedi cefnogi syniadau Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru ar gyfer cynyddu nifer yr aelodau ym Mae Caerdydd o 60 i 96.

Yn ôl y Pwyllgor ar Ddiwygio'r Senedd mae angen gweithredu "ar frys"

Mae hefyd yn argymell diwygio'r system etholiadol a chyflwyno cwotâu rhyw mewn pryd ar gyfer etholiad 2026.

Mae Ceidwadwyr blaenllaw wedi dweud y dylai unrhyw gynlluniau i ehangu'r Senedd fod yn destun refferendwm.

Yn gynharach y mis hwn fe gyhoeddodd Llafur a Phlaid Cymru'n rhan o'u cytundeb cydweithredu yn y Senedd eu bod am weld nifer yr Aelodau'n cynyddu.

Newid y broses bleidleisio

O dan eu cynlluniau byddai Cymru'n cael ei rhannu'n 16 etholaeth, gyda phob un yn cael ei chynrychioli gan chwech Aelod o'r Senedd wedi eu hethol yn defnyddio'r dull d'Hondt o gynrychiolaeth gyfrannol a ddefnyddir ar hyn o bryd i ethol aelodau rhanbarthol y Senedd.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r map etholiadol presennol yn edrych yn wahanol iawn os daw'r cynlluniau i rym

Fe gyflwynodd y ddwy blaid eu syniadau i bwyllgor y Senedd sydd wedi bod yn ystyried y syniad o ddiwygio'r sefydliad, ac mae'r pwyllgor hwnnw bellach wedi rhoi ei gefnogaeth i'r cynigion.

"Mae ein hadroddiad yn gosod cynllun ar gyfer Senedd gryfach a fydd yn rhoi llais cryfach i bobl Cymru," dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Huw Irranca-Davies.

"Mae'r Senedd heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i'r un a sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl.

"Mae ei phwerau wedi cynyddu i gyd-fynd ag uchelgeisiau ein cenedl fodern a balch.

'Rhaid sicrhau mwy o atebolrwydd'

"Bellach gall ddeddfu a gosod trethi i Gymru, sef materion sy'n effeithio ar fywydau pob person yng Nghymru.

"Gyda mwy o bwerau, rhaid sicrhau mwy o atebolrwydd. Mae arnom angen Senedd a all graffu'n effeithiol ar y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ar ran y cyhoedd y mae'n eu gwasanaethu.

"Nid yw'r system bresennol yn caniatáu i hynny gael ei wneud cystal ag y dylai gael ei wneud.

"Rydyn ni'n credu bod diwygio'n hanfodol, a bod modd ei gyflawni erbyn 2026."

Costau ychwanegol

Arweiniodd y cyhoeddiad gwreiddiol gan Lafur a Phlaid Cymru - cyn i waith y pwyllgor gael ei gwblhau - at ymddiswyddiad aelod Ceidwadol y pwyllgor, Darren Millar.

Cyhuddodd Mr Millar y ddwy blaid o fod wedi tanseilio gwaith y pwyllgor.

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Huw Irranca-Davies yw pasio'r ddeddfwriaeth erbyn 2024

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Mr Irranca-Davies nad oedd cynlluniau Llafur a Phlaid Cymru wedi "clymu ein dwylo o gwbl" ond ei bod wedi bod yn "fuddiol" gwybod ble roedd y pleidiau'n sefyll.

Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn cydnabod bod cynrychiolwyr Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi mynegi amheuon am y system etholiadol arfaethedig ar gyfer etholiadau'r dyfodol.

Ond yn ôl Mr Irranca-Davies fe gafodd adroddiad terfynol y pwyllgor a'r argymhellion eu cymeradwyo gan yr holl aelodau.

Mae yna amcangyfrif wedi bod yn y gorffennol y byddai 30 Aelod ychwanegol yn costio £12m.

Ar y sail yna mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu ehangu'r Senedd ers tro, gan ddadlau y dylid rhoi blaenoriaeth i faterion eraill.

Mae aelodau o fewn y blaid hefyd wedi galw i unrhyw gynlluniau i ehangu'r Senedd fod yn destun pleidlais gyhoeddus.

Dywedodd Mr Irranca-Davies nad oedd y ddadl honno'n "dal dŵr o gwbl" a bod bwriad i ddiwygio'r Senedd wedi bod yn rhan o faniffestos tair plaid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd adroddiad y pwyllgor yn cael ei drafod yn y pythefnos nesaf

Er mwyn i unrhyw newidiadau ddod i rym, byddai angen iddynt gael eu cymeradwyo gan ddwy ran o dair o'r Senedd.

Rhyngddynt byddai gan Lafur a Phlaid Cymru ddigon o bleidleisiau.

Galwodd Mr Irranca-Davies ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod haf 2023 yn y gobaith y gellir ei phasio erbyn 2024 er mwyn caniatáu i baratoadau ddechrau ar gyfer etholiad 2026.

Mae disgwyl i adroddiad ei bwyllgor gael ei drafod gan y Senedd yn ystod y pythefnos nesaf.

Pynciau cysylltiedig