Gwrthdrawiad Llanfair Caereinion: Plant dal yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dau blentyn yn parhau yn yr ysbyty wythnos ar ôl gwrthdrawiad bws yn Llanfair Caereinion, Powys.
Cafodd pedwar o blant a dyn eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ger ysgol ar 23 Mai.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Llun bod dau o'r plant a'r dyn, oedd yn gyrru'r bws, wedi gadael yr ysbyty.
Does dim mwy o fanylion am gyflwr y ddau sy'n parhau i dderbyn gofal.
Cafodd tri o'r plant, oedd i gyd yn blant oed cynradd, eu hedfan i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr wedi'r digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu bod ymchwiliad i'r digwyddiad ar Lôn Yr Ysgol, ger Lôn Y Neuadd, yn parhau.
Maen nhw'n parhau i apelio am unrhyw dystion i'r digwyddiad, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu ar-lein, dolen allanol neu drwy ffonio 101.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022