Anrhydeddu pobl o Gymru wrth nodi'r Jiwbilî Blatinwm

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gareth Bale yn derbyn MBE fel rhan o'r anrhydeddau i nodi Jiwbilî Blatinwm y Frenhines

Mae sawl person o Gymru wedi cael eu hanrhydeddu wrth i'r Frenhines nodi ei Jiwbilî Blatinwm.

Mae rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2022 yn cynnwys enwau unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau arbennig i wasanaethau cyhoeddus, yr amgylchedd a chynaliadwyedd ac am ymgysylltu â phobl ifanc.

Ymhlith y Cymry ar y rhestr mae Gareth Bale, y cyn-seren rygbi Brynmor Williams, y seren bop Bonnie Tyler, Nia Griffith AS a Chomisiynydd Plant Cymru Rocio Cifuentes.

Mae'r bardd Gwyneth Lewis yno hefyd, ynghyd â'r cyflwynydd tywydd, Derek Brockway.

Mae nifer o weithwyr iechyd ar lawr gwlad wedi derbyn cydnabyddiaeth hefyd am eu gwaith yn ystod y pandemig.

Dywedodd Bale fod derbyn MBE yn "foment falch iawn i fi a fy nheulu".

"Mae derbyn y newyddion wrth i ni baratoi i ddathlu Jiwbilî Blatinwm y Frenhines yn ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig."

'Cynrychioli eraill'

"Dwi methu credu'r peth i fod yn berffaith onest," meddai Brynmor Williams.

"O'n i'n pallu agor y llythyr yn y lle cynta' achos o'n i'n meddwl falle rhywbeth o'r swyddfa dreth o'dd e - o'dd e'n edrych yn official iawn!"

Dywedodd ei fod yn "anrhydedd fawr" derbyn y gydnabyddiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Brynmor Williams "sioc ar yr ochr orau" pan ddysgodd ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth

Yn gyn-fewnwr i'r Llewod ac i Gymru, mae Brynmor Williams wedi cefnogi sawl elusen ers ymddeol o'r gamp.

"Gobeithio 'mod i'n cynrychioli cannoedd o bobl sy'n 'neud lot o waith sydd ddim yn cael ei weld i gefnogi elusennau," meddai.

"Dyna be' dwi'n trio 'neud, just rhoi rhywbeth bach 'nôl i'r gymdeithas."

'Syndod llwyr'

Mae Derek Brockway yn derbyn y wobr am ei gyfraniad tuag at fyd darlledu a'i waith elusennol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Derek Brockway fod yr anrhydedd yn "syndod llwyr" iddo

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd: "Fe ddaeth fel syndod llwyr... dw i wedi bod yn cyflwyno'r tywydd ar BBC One Wales ers 25 o flynyddoedd eleni felly mae'n jiwbilî arian arbennig fy hun!

"Dwi'n falch o fod yn llysgennad ar ran elusen Ysbyty Canser Felindre yng Nghaerdydd.

"Dwi wedi 'neud sawl taith gerdded elusennol o gwmpas y byd gyda phobl fel Rhod Gilbert a chodi cannoedd o filoedd o bunnoedd gyda help nifer o bobl eraill."

Dywedodd fod ei yrfa wedi bod fel "breuddwyd yn dod wir i fachgen o'r Barri oedd â diddordeb yn y tywydd ers yn wyth oed".

'Braint enfawr'

Ffynhonnell y llun, UK Parliament
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cydnabyddiaeth yn "fraint enfawr," medd Nia Griffith

Un o fyd gwleidyddiaeth i gael ei hanrhydeddu ydy Nia Griffith, Aelod Seneddol Llanelli ers 2005.

"Mae'n fraint enfawr cael yr anrhydedd yma... dwi am ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiectau fi wedi cymryd rhan ynddyn nhw, achos nid fi ar fy mhen fy hunan sy' wedi cwblhau pethe, ond at ein gilydd y'n ni'n 'neud prosiectau," meddai.

Dywedodd ei bod yn falch o "gymaint o bethau" y mae hi wedi eu cyflawni, ond mai ei gwaith ar y Ddeddf Newid Hinsawdd oedd un o'i phrif gampau.

"Roedd hyn yn rhywbeth oedd yn gyntaf yn y byd, ac roedd yn ymateb i'n hanghenion ni. Ac wrth gwrs roeddwn i wedi ymgyrchu drosto am flynyddoedd cyn hynny.

"Ro'n i'n falch iawn gweld hynny fel deddf, nid yn unig i ni yn y DU, ond rhywbeth enfawr roedden ni'n gallu cynnig i'r byd."

'Ysbrydoli'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, ei fod "wedi fy ysbrydoli" gan straeon pobl o Gymru sy'n cael eu cydnabod ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

"Yn ogystal ag anrhydeddu pobl sydd wedi rhagori mewn chwaraeon a'r celfyddydau, mae'r gwobrau hyn yn dathlu unigolion sy'n rhoi'n ôl yn ddiymhongar i'r rhai o'u cwmpas, trwy eu gwaith a'u bywydau personol.

"Mae'n galonogol i weld yr ystod hynod amrywiol o dderbynwyr o bob rhan o Gymru yn cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i elusennau, addysg, gwaith cymunedol ac iechyd."

Pynciau cysylltiedig