Anrhydeddau i 'arwyr y pandemig' a sêr chwaraeon

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dr Frank AthertonFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Frank Atherton yn feddyg teulu cyn cael ei benodi'r Brif Swyddog Meddygol Cymru yn 2016

Mae unigolion sydd wedi helpu cefnogi Cymru drwy'r pandemig a sawl pencampwr chwaraeon ymhlith y Cymry sydd ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd y Frenhines eleni.

Mae'r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton yn cael ei urddo'n farchog am ei wasanaeth i'r maes iechyd cyhoeddus.

Am ei gwaith i ddiogelu cwsmeriaid mewn archfarchnad ym Mhwllheli mae Joan Scott yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM).

Mae yna anrhydeddau hefyd i'r hwylwraig Hannah Mills, y bocsiwr Lauren Price, yr athletwr Aled Siôn Davies a'r chwaraewr boccia David Smith yn dilyn eu llwyddiannau eleni wrth gystadlu yn y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn Tokyo.

Mae cyfraniad Dr Frank Atherton wedi bod yn "sylweddol" o ran "siapio'r ymateb arbennig yng Nghymru i ddiogelu poblogaeth Cymru", medd y Pwyllgor Anrhydeddau.

"Mae wedi, o reidrwydd a gyda hygrededd, mynd ymhell tu hwnt i ffiniau arferol rôl y Prif Swyddog Meddygol wrth ymateb i'r digwyddiad byd-eang yma," ychwanegodd y pwyllgor.

Dywedodd Dr Atherton ei fod "yn falch iawn" o gael yr anrhydedd.

"Rwyf mor falch o fy holl gydweithwyr ar draws Cymru a'r DU yn ehangach," ychwanegodd. "Rydym yn teimlo ein bod yn y lle cywir ar yr adeg cywit i geisio gwneud gwahaniaeth."

Ffynhonnell y llun, Jo Scott
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joan Scott yn cael ei hanrhydeddu am ei chyfraniad i'r gymuned yn ardal Pwllheli

Mae Joan Scott, sy'n 55 oed ac o Forfa Nefyn, yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth i'r gymuned ym Mhwllheli.

Trwy ei gwaith fel marsial diogelwch a phencampwr cymunedol yn archfarchnad Asda'r dref, mae Jo, fel y mae pawb yn ei nabod, yn cyfarch cwsmeriaid ac yn dosbarthu offer diogelwch personol fel eu bod yn gallu siopa'n ddiogel.

Mae hi hefyd, dros yr 17 mis diwethaf, wedi rhoi dros £8,610 mewn grantiau'r Asda Foundation i grwpiau lleol sydd mewn angen a thros £4,500 o nwyddau angenrheidiol i dros 145 o grwpiau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Jo Scott gyda'r llythyr gan y Frenhines

Dywedodd iddi amau mai newyddion drwg fel cosb am oryrru oedd yn yr amlen a gyrhaeddodd y tŷ, cyn darllen y llythyr tu fewn.

"Ro'n i wedi gwirioni, nes i grio," meddai. "Mae o jest y profiad mwyaf bisâr i mi gael erioed, newyddion hyfryd.

"Mae o'n rywbeth mor emosiynol... y llawenydd dwi'n ei deimlo oherwydd mae rhywun wedi cymryd yr amser i fy enwebu.

"Dwi mor falch o fy nghydweithwyr hefyd achos 'dan ni gyd wedi bod trwy gymaint gyda'n gilydd felly mae'r anrhydedd yma iddyn nhw hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Ffoadur Cwrdaidd yw'r Dr Bnar Talabani a symudodd i'r DU yn 1998 ar ôl gorfod ffoi o Irac

Dr Bnar Talabani, arbenigwr arennau a thrawsblaniadau ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd, yn rhan o gynllun Team Halo y Cenhedloedd Unedig sy'n chwalu mythau am frechlynnau Covid-19 ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae hi'n derbyn MBE am ei gwasanaeth i'r GIG ac am ymdrechion i'w gwneud hi'n haws i bobl sy'n perthyn i gymunedau ethnig lleiafrifol gael brechlyn Covid-19.

Mae hi wedi cynnal arolygon sy'n helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gasglu gwybodaeth a deall mwy am barodrwydd pobl o gymunedau ethnig i cael eu brechu.

Mae hefyd wedi helpu cefnogi'r rhaglen frechu mewn canolfannau brechu dros dro mewn mosgiau ar draws de Cymru.

Dywedodd bod yr anrhydedd yn "sioc lwyr" iddi.

"Rwy' mor ddiolchgar amdano ond rwy' hefyd yn gwybod bod gymaint o bobl eraill rwyf wedi gweithio gyda nhw sydd hefyd yn haeddu'r un gydnabyddiaeth.

"Mae'n anodd ei roi mewn geiriau oherwydd mae fy nheulu wedi aberthu gymaint i allu dod â ni i rywle diogel... Rydym wedi bod mor ffodus, nid yn unig i gael cartref yn y DU ond i gael cyfleoedd trwy addysg."

Disgrifiad,

Mae Aled Sion Davies nawr wedi derbyn OBE am ei gyfraniad i chwaraeon paralympaidd

Mae Lauren Price yn cael MBE wedi iddi greu hanes yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn yr haf trwy fod y bocsiwr cyntaf erioed o Gymru i ennill medal aur yn y Gemau.

Roedd Hannah Mills, Aled Siôn Davies a David Smith eisoes wedi cael MBE ond mae hwythau nawr yn derbyn OBE ar ôl ennill medalau Olympaidd neu Baralympaidd aur eleni.

Mae'r anrhydedd yn achos Mills - yr hwylwraig Olympaidd mwyaf llwyddiannus erioed - hefyd yn cydnabod ei gwaith fel ymgyrchydd amgylcheddol trwy ei helusen, The Big Plastic Pledge.

Mae pedwar athletwr yn rhagor a enillodd fedalau aur yn Tokyo - Matthew Richards, Calum Jarvis, Laura Sugar a Jim Roberts - yn derbyn MBE.

Ffynhonnell y llun, Desmond Lally
Disgrifiad o’r llun,

Dringodd Des Lally i gopa Pen y Fan bob diwrnod trwy 2019 gan godi £60,000

Un arall sy'n derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig yw'r trefnydd morgeisi Des Lally o Aberhonddu, sydd wedi codi £85,000 ar gyfer elusennau canser a'r lluoedd arfog.

Dywedodd: "Roedd gan Mam a Dad dri math o ganser rhyngddyn nhw ac fe dreuliodd fy nhad 26 o flynyddoedd gyda'r lluoedd arfog felly ro'n o eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r ddau sefydliad yna a sicrhau eu bod yn gallu parhau i helpu pobl."

Mae'r un anrhydedd yn mynd i Maureen Davies, 80, o Ynys Môn am ddegawdau o waith elusennol a gwirfoddol, yn bennaf gyda mudiad y Geidiaid, ac i ddau ddyn o'r de am eu gwasanaethau i bobl ag anableddau yng Nghymru.

Mae'r ymgyrchydd 24 oed o Gaerdydd, Joshua Reeves, wedi tanlinellu effaith y pandemig ar bobl anabl trwy rannu fideos dyddiol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Gerald (Ged) Beaumont, 62, o Frynbuga, Sir Fynwy, wedi gwella bywydau cannoedd o bobl anabl ar draws Cymru ers 2007 trwy godi arian, cynnig gwaith cynnal a chadw a chefnogaeth ffitrwydd a lles.

Ar ddechrau'r pandemig fe gludodd cyflenwadau PPE - drwy'r nos ar adegau - i gartrefi preswyl ar draws Cymru a chododd ysbryd preswylwyr a gweithwyr gofal trwy bobi bisgedi.

Mae tair menyw'n derbyn anrhydedd y DBE - prif weithredwr Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Jenny Harries, sy'n hanu o Sir Fynwy; llysgennad y DU i Ffrainc, Menna Rawlings a chyn-is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, Julie Lydon.