Lluniau: Dydd Mercher yn Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Canol yr wythnos ac mae'r Maes dan ei sang unwaith eto yn Ninbych. Dyma 'chydig o'r hyn oedd i'w weld ar y Maes ddydd Mercher.

Mae Heledd, pedair oed yn edrych ymlaen at ei gig cyntaf ym Maes B yn barod. Be well 'na 'chydig o ddrymio i ddeffro'r maes ben bore

Paratoi gwalltiau criw Ysgol Bro Pedr cyn y gystadleuaeth dawnsio disgo blwyddyn chwech ac iau

Disgyblion Ysgol Bryo Gwydir sef yr 'ysgol ora' yn y byd' yn ôl y criw yn ymarfer cyn y gystadleuaeth dawnsio disgo i flwyddyn chwech ac iau

Elenia'n dringo at yr awyr las ar wal ddringo Glan-llyn

Criw yn mwynhau gweithdy celf Sioned Phillips yn yr Arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg

Eos a Leia, disgyblion Ysgol Brynhyfryd fu'n tywys Mistar Urdd o amgylch y maes heddiw, gan alw heibio'r Arddorfa am wers sielo

Non Parry o'r grŵp Eden oedd Llywydd y Dydd ar ddydd Mercher. Mae gwreiddiau Non yn ddwfn yn Sir Ddinbych, wedi ei geni yn Rhuddlan cafodd ei haddysgu yn Ysgol gynradd Dewi Sant y Rhyl ac yna Ysgol Uwchradd Glan Clwyd

Eisteddfod yr Urdd cynta Lina, ac mae angen llond bol o bitsa cyn sioe Cyw

Aelwyd Llansannan yn dathlu dod yn ail yn y gystadleuaeth parti cerdd dant

Picnic ar y gwair i'r criw yma o'r Wyddgrug

Eluned, Emily a Mared sy'n hwylio te ar stondin Merched y Wawr

Ai casglu ffrîbîs ydy'ch pethau? Tim ydy'r dyn i chi ar stondin Grŵp Llandrillo

Beca Lyne-Pirkis sy'n beirinadu'r gystadleuaeth CogUrdd i ddisgyblion blwyddyn 10 hyd at 19 oed

Amser siopa! Osian o Gwm Ann sy'n dewis hŵdi newydd ar stondin Cowbois

Fflur o Ysgol Tryfan yn dathlu dod yn fuddugol yn yr unawd alaw werin i ddisgyblion blwyddyn 7-9