'Ro'dd o'n un o'r pobl mwya' talentog imi 'rioed gyfarfod'
- Cyhoeddwyd
Ar 26 Mai daeth y newyddion bod y canwr a'r actor o Benygroes, Dyfrig Wyn Evans wedi marw yn 43 mlwydd oed.
Roedd 'Dyfrig Topper', fel oedd yn cael ei adnabod gan lawer, wedi gadael ei farc mewn sawl maes - yn actor sgrin a llwyfan ac yn gerddor ers yn ei arddegau.
Yma mae rhai o'r bobl a oedd yn ei 'nabod yn rhannu eu meddyliau a'u teimladau yn dilyn marwolaeth Dyfrig.
Owen Powell, cerddor a chyn-aelod o'r band Catatonia
Roedd Dyfrig o hyd yn galon ac ysbryd pob sefyllfa roedd e'n rhan ohono. Gwên anferth ar ei wyneb a hugs twymgalon i'w ffrindiau.
Pan 'nath Topper deithio gyda ni yn y 90au roeddwn i'n gwylio Dyfs a'r band pob nos gan ryfeddu ar ei ddawn naturiol o 'neud bobl yn hapus. Dyna beth bydda i'n ei golli fwyaf am Dyfs; y direidi, hwyl ac amser da.
Fflur Medi, actores a weithiodd gyda Dyfrig ar nifer o gynyrchiadau
Tydi'r gair 'unigryw' ddim yn golygu llawer o'm byd dyddia' 'ma, ond mae o dal i ddisgrifio Dyfs 100%. Gair arall i ddisgrifio Dyfs ydi 'mawr'. Oedd bob dim amdano yn anferth - ei dalent, ei garisma, ei egni, ei hiwmor a'i galon. Pob un yn llenwi 'stafelloedd ac yn gloywi eraill. Ond fatha pob egni mawr, mi odd 'na ochr ddwfn, brau a theimladwy iddo hefyd - hyn oll yn uno i ffurfio dawn creu mor, mor gynnil, onest a thrawiadol. Yn y llon a'r lleddf.
Mi oedd ganddo'r ddawn nyts 'ma o allu hyd yn oed siarad sgript wael yn ffyni! Dyna'r eironi oedd yn perthyn i Dyfs. Nai byth anghofio, ffilmio yn Majorca hefo fo ryw 12 mlynedd yn ôl, ac oedd 'na far karaoke yn defnyddio siwtiau Disney i ddenu cwsmeriaid i mewn, a tuag at ddiwedd y nos dyma Dyfs yn deud nos da.
'Chydig ar ôl iddo ffarwelio, dyma 'Donald Duck' (hefo cerddediad cyfarwydd) yn ymddangos ar y meic ac yn rhuo canu Free Falling gan Tom Petty - yn wefreiddiol. Dyfeironi arall. Am olau. Am golled. A lle bynnag mae o rŵan - diolch amdana chdi Dyfs! Am yr atgofion sy' dal yn 'neud fi roch-chwerthin, am y llu berfformiadau a'r caneuon gwefreiddiol, am y LOL! x
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Mei Gwynedd, cerddor a chyn aelod o fandiau Beganifs a Big Leaves
Fy atgof cynta' i o Dyfs oedd pan o'n i tua 14 oed pan o'n i yn y band Beganifs, a dwi'n cofio gweld clip ono fo ar y teledu ar raglen plant yn dynwared Buddy Holly. Nath hynny aros yn y cof efo fi am byth, ac o'n i'n tynnu ei goes o am hynny yn y misoedd d'wetha 'ma. Oedden ni yn Beganifs a nhw yn Topper yn rhannu label ym Mhenygroes, ac mi ddothan ni i nabod ein gilydd drwy hynny, ac hefyd drwy gigio yn y 90au.
Dros y bedair neu bum mlynedd d'wetha 'ma mi ro'dd 'na dipyn o gyd-weithio, nathon ni recordio Lol ar gyfer Cân i Gymru (2019) ac nathon ni weithio efo'n gilydd ar ei albwm o. Gyda'r ddau onan ni'n byw yng Nghaerdydd mi ddothan ni'n agos unwaith eto, yn enwedig gan bo' ni di gweithio'n greadigol efo'n gilydd ar gerddoriaeth a'r sioeau theatrau - mi roeddan ni'n gweld lot o'n gilydd.
Ro'dd o'n un o'r pobl mwya' talentog imi 'rioed gyfarfod - mi roedd o'n gallu gwneud bob dim. O'n i'n teimlo bod hanner Cymru'n ffrindia efo fo - roedd 'na gymaint o bobl yn ei 'nabod o.
Ac wrth gwrs wedyn roedd ganddo'r bersonoliaeth 'na, yr holl bethau da, ac yn garedig ac wastad isho rhoi rhoddion i fi yn y stiwdio. Ac mi ro'dd 'na'r elfen, gyda phob parch, mwy boncyrs a chaotic iddo fo, ond dwi'n meddwl sa pawb yn cytuno bod o mor gariadus ac yn bleser enfawr i fod yn ei gwmni o.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yws Gwynedd, cerddor, yn siarad gyda Huw Stephens ar BBC Radio Cymru
Roedd o'n ddylanwad anferth arna fi. Oni bai amdana fo dwi'm yn meddwl fyswn i 'di sgwennu cân Gymraeg.
Dwi'n cofio clywed Topper ar y radio pan o'n i'n iau - Gwefus Melys Glwyfus oedd o... a dim amharch i Radio Cymru ond oedd 'na lot o cr*p yn fflîo o gwmpas yr adeg hynny, lot o ryw ganu gwlad a ballu, a roedd clywed rhywun yn gwneud stwff cŵl Cymraeg efo geiriau oedd yn hitio fel'na - nath o agor fy nghlustiau i i gerddoriaeth Gymraeg am y tro cynta.
Nes i feddwl yr adeg hynny bod yna obaith gwneud rhywbeth yn cŵl yn Gymraeg. Roedd bandiau wrth gwrs fel y Gorky's a'r Super Furries yn bodoli erbyn hynny ond i fi fel person oedd ddim yn gerddorol iawn ar y pryd a ddim cweit di tiwnio fewn i faint o intricate oedd sdwff y Super Furries a'r Gorky's - roedd clywed rhywbeth, wel... jysd pop oedd o de! Ond mewn ffordd rili rili glan, iach, gwych - a llais Dyfs a bob dim.
Mae gennym ni atgofion melys o 2015... mae 'na lot o bobl 'di bod yn rhoi'r gair 'ma "direidus" ar Twitter a rhyw betha fel 'na, ac yn amlwg mi roedd o... Dwi'n cofio oedden ni'n gwneud y gig 'ma efo Sŵnami rhwng Dolig a flwyddyn newydd yn Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon, y flwyddyn cynt nath Dyfs glywed bo ni'n gwneud Hapus gan Topper yn y set.
Nath o jest ffonio fi out of the blue y noson oedden ni'n chwarae a mynd "Hei, dachi'n chwarae yn Market Hall heno?" a dyma fi'n mynd "yndan Dyfs". "Da chi'n gwneud cân fi?" Ac oni fatha 'O god, dwi'n mynd i gael row'... "Mae o yn y set de Dyfs.".... "Nai ganu fo ta!" "Be, ti'n dod draw?" "Ia ia, nai ganu fo. 'Di hynna'n iawn yndi?" Ac oni fatha "Yndi siwr Dyfs! Cân chdi ydi o!" A gafon ni amazing o noson gyda fi'n canu efo un o fy arwyr yng nghanol set ni... a dwi'n cofio 'nath o snogio fi fel oedd o'n gadael y llwyfan a gafon ni noson dda efo fo wedyn.
Oedd o'n 'byw i'r funud' ac roedd o'n gwneud y mwya o bob un eiliad a fydd 'na golled mawr ar ei ôl o.
Un o'r atgofion cr*p 'na sydd genna'i o fy ieuenctid i ydi bod yn 16 a ddim yn ddigon hen i fynd i watchiad Topper cyn iddyn nhw ddod i ben. Ac o'n i'n meddwl bo' fi'n byth yn mynd i cael gweld nhw'n fyw. Felly oedd gweld nhw yng Ngŵyl Rhif 6 (pan wnaeth y band ailffurfio) yn anhygoel. Doedden nhw dim gwahanol, am wn i, i be' fysa nhw 'di bod ers talwm - yr un band, yr un criw direidus, oedd yn amlwg yn ffrindiau hefyd. Gytud gawn ni byth weld nhw eto.