TUI: Canslo gwyliau teulu a hwythau ar yr awyren

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr
Disgrifiad o’r llun,

Dros y dyddiau diwethaf mae miloedd o deithwyr wedi profi anhrefn mewn meysydd awyr

Mae teulu o'r Barri wedi sôn am eu dicter wedi i wyliau rhai ohonynt gael ei ganslo tra'u bod nhw ar yr awyren ac ar fin gadael Cymru.

Dros y dyddiau diwethaf mae miloedd o deithwyr wedi profi anhrefn mewn meysydd awyr.

Dywedodd cwmni TUI, oedd yn gyfrifol am yr hediad, wrth Newyddion S4C y bydd pawb sydd wedi'u heffeithio yn derbyn ad-daliad o fewn pythefnos.

Yn ôl Maes Awyr Caerdydd dywedodd TUI wrthyn nhw mai problem o ran diogelwch yr awyren oedd ar fai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nadine Marshall yn Tenerife, tra bod aelodau eraill ei theulu yn dal yng Nghymru

Ddydd Mawrth, roedd y teulu Marshall o'r Barri ar yr awyren yn barod i fynd ar eu gwyliau i Tenerife yn Sbaen pan gafodd eu gwyliau cyfan ei ganslo.

Roedd modryb y plant Nadine Marshall yn Tenerife eisoes ar ôl teithio yno fel syrpreis i weddill y teulu.

"O'n i wedi disgwyl gweld gweddill y teulu yn ymuno gyda ni, ond maen nhw wedi cael eu dal lan yn yr holl drychineb gyda TUI," meddai.

"Maen nhw dal yng Nghaerdydd, a ni fan hyn - jest y ddau ohonom ni - a gweddill y teulu adre. Fi'n grac, ac yn really gutted iddyn nhw hefyd.

"Ni'n fan hyn, wedi dod allan fel syrpreis iddyn nhw, ac roedd yn rhaid ni adael nhw wybod ar y ffôn ddoe 'ni yma ond chi dal 'na'."

'Y plant oedd e fwy na dim'

'Nôl yn Y Barri, mae brawd yng nghyfraith Nadine, Anthony Marshall, hefyd yn ddig.

"Y plant oedd e fwy na dim. Roedden nhw'n devastated," meddai.

"Gorfod dweud wrth blant pump, wyth a 10 oed, 'sori, mae'r gwyliau 'naethon ni archebu dwy flynedd yn ôl, sydd wedi cael ei ohirio a'i ohirio oherwydd Covid, nawr dyw e ddim yn digwydd o gwbl'."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd plant y teulu Marshall yn bwyta a chysgu ar lawr oherwydd oedi...

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

...cyn i'w gwyliau gael ei ganslo yn llwyr a hwythau ar yr awyren

Mae TUI wedi ymddiheuro i'r rheiny gafodd eu heffeithio, gan ddweud fod canslo a gohirio hediadau yn beth prin.

Oherwydd cynnydd yn nifer y bobl sydd ar eu gwyliau, ffactorau gweithredol a phroblemau gyda'r gadwyn gyflenwi, dywedon nhw fod nifer fach o awyrennau wedi'u heffeithio'n ddiweddar.

Mae'n debyg mai diswyddo gweithwyr yn ystod y pandemig, a phrofion llym wrth wirio cefndiroedd staff newydd sy'n bennaf ar fai am yr oedi mawr sydd wedi'i weld ledled y DU.

Poeni am gyrraedd 'nôl i Gymru

I Anthony a'r teulu yn Y Barri, mae newyddion da. Ar ôl y siom ddydd Mawrth, maen nhw wedi cael ad-daliad ac ail-drefnu eu gwyliau.

Ond mae Nadine nawr yn poeni am gyrraedd 'nôl gartref.

"Fi'n poeni nawr be' sy'n mynd i ddigwydd i ni ddychwelyd 'nôl i Gaerdydd. Oes rhyw anhawster yn mynd i fod?

"Fi 'di danfon ebost atyn nhw ond s'ai 'di cael unrhyw ymateb eto - croesi bysedd y bydd bob dim yn iawn."

Ond gyda gŵyl y banc estynedig wrthi'n dechrau, mae nifer yn poeni y bydd trafferthion fel wynebodd y teulu Marshall yn parhau.