Pryder am brinder staff twristiaeth dros ŵyl y banc
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau penwythnos gŵyl y banc, mae busnesau o fewn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn dweud eu bod yn wynebu pwysau a heriau sylweddol o achos prinder staff.
Mae 'na broblemau mawr ledled y wlad a nifer o fusnesau yn gorfod addasu eu horiau agor o ganlyniad i'r prinder.
Mae disgwyl y bydd 12 miliwn o dripiau unigol yn digwydd dros y penwythnos hir a 3.6 miliwn dros ddydd Gwener gŵyl y banc yn unig wrth i bobl wneud y mwyaf o'r penwythnos hir.
Yn ôl un gwesty a bwyty yng Ngheredigion, maen nhw newydd ddechrau cynnig llety fel rhan o'r gwaith yn y gobaith o geisio denu staff newydd ar ôl hysbysebu am fisoedd a neb yn ymgeisio.
'Neb yn trio'
Ar drothwy'r haf, mae rheolwr cyffredinol yr Harbwrfeistr yn Aberaeron yn dweud ei fod yn "crafu pen" dros geisio dod o hyd i'r ateb.
"Mae diffyg staff yn broblem i ni, ni'n chwilio am bobl i weithio yn y gegin, pobl i weini bwyd, pobl i weithio ar y bar," meddai Dai Morgan.
"Synne' chi, does neb yn trio am y swyddi. Dim bod rhai anaddas - does neb yn trio am y swyddi. Dwi'n siarad gyda chyfoedion yn Aberaeron, Cei Newydd, ac mae'r un stori 'da pawb."
Mae'r busnes nawr wedi gorfod cymryd camau pellach i geisio denu gweithwyr.
"Fel esiampl i chi, swydd is-reolwr. Ry'n ni wedi bod [yn hysbysebu] ar-lein. Ni 'di cael 700 o hits... pobl wedi edrych arno fe, ond dim un application.
"Dwi'n meddwl bod Aberaeron wedi mynd yn lle drud i fyw, neu ddrud i brynu tai. So ry'n ni wedi gorfod mynd mas a chwilio llety i bobl.
"Ni'n cynnig swyddi o'r wythnos hon ymlaen gyda lle i fyw hefyd, yn y gobaith falle bydd rhywun yn ceisio am y swyddi."
Yn ôl Mr Morgan, mae angen newid agweddau pobl ynglŷn â dechrau gyrfa yn y sector.
"Hwnna yw'r talcen caled fi'n meddwl, cael perswâd ar bobl - dewch mewn i'n diwydiant ni a mwynhewch, achos mae'n bleserus."
Disgwyl tagfeydd trwm
Mae disgwyl hefyd y bydd tagfeydd trwm ar y ffyrdd am ail benwythnos. Cafodd cyngerdd Ed Sheeran yn Stadiwm Principality yr wythnos ddiwethaf y bai am giwiau 15 milltir o hyd ar yr M4.
Mae cwmni'r RAC wedi rhagweld y bydd yn "brysur iawn" eto ac y bydd yn cymryd llawer mwy o amser i gyrraedd pen eich taith ar yr adegau prysuraf y penwythnos hwn. Maen nhw'n cynghori pobl i ddechrau yn gynnar.
Mae arbenigwyr data traffig INRIX yn nodi bod yr M4 rhwng Port Talbot ac Abertawe, yr M5 i'r de o Fryste yn agos at bontydd Hafren, a thwneli Brynglas yng Nghasnewydd yn debygol o weld tagfeydd trwm ac oedi pellach.
Dywedodd Rod Dennis o'r RAC: "Mae'r ffaith bod gŵyl banc dwbl y Jiwbilî yn cyd-daro â diwedd hanner tymor i lawer o deuluoedd yn debygol o ychwanegu at unrhyw broblemau ar y ffyrdd.
"Rydyn ni'n rhagweld y bydd tagfeydd ar y ffyrdd dros y dyddiau nesaf. Os ydych chi am guro'r ciwiau, mae'n rhaid i chi gychwyn cyn 06:00 a hefyd sicrhau nad yw'ch car yn debygol o dorri lawr.
"Mae modd atal llawer o achosion o dorri lawr, felly gwiriwch bwysau olew, oerydd a theiars eich car cyn dechrau.
"Gyrwyr sy'n dechrau yn gynnar yn y bore sydd â'r siawns orau o osgoi'r ciwiau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022
- Cyhoeddwyd27 Mai 2022
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2022