Cefnogwyr Cymru'n codi arian i blant Wcráin yng Ngwlad Pwyl

  • Cyhoeddwyd
CefnogwyrFfynhonnell y llun, Gôl Cymru!
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cefnogwyr Cymru gynnal parti cyn y gêm yn Wrocław, gan lwyddo i godi 5,000 złoty

Mae cefnogwyr Cymru sydd wedi bod yn dilyn y tîm yng Ngwlad Pwyl wedi bod yn cydweithio ag elusen yno i helpu ffoaduriaid o Wcráin.

Dri mis yn ôl fe aeth 20 o blant o Kyiv i Wlad Pwyl er mwyn cymryd rhan mewn twrnament pêl-droed, ond oherwydd y rhyfel doedd dim modd iddyn nhw ddychwelyd adref.

Elusen Notice Me - sydd fel arfer yn gofalu am blant sydd â chanser - sydd wedi bod yn gofalu amdanynt yn Wrocław.

Gyda Chymru wedi herio Gwlad Pwyl yn yr un ddinas ddydd Mercher, fe lwyddodd cefnogwyr Cymru i godi 5,000 złoty (tua £930) i'w cefnogi.

Bydd y garfan a'r cefnogwyr nawr yn dychwelyd i Gymru cyn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ddydd Sul, ble Wcráin fydd y gwrthwynebwyr wedi iddyn nhw drechu'r Alban nos Fercher.

'Dangos ein cefnogaeth'

Dywedodd Tim Hartley o elusen Gôl Cymru!, fu'n trefnu'r ymgyrch codi arian: "Dyma ychydig o ddiolch i bobl Gwlad Pwyl, a rhywbeth i blant Wcráin.

"Mae hyn yn dangos ein bod ni'n eu cefnogi nhw. Roedd hi'n wych gweld cefnogwyr Cymru'n cefnogi'r elusen."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Colli o 2-1 oedd hanes Cymru yng Ngwlad Pwyl yng ngêm agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd

Mae'n broses araf, ond mae teuluoedd y plant yn ymuno gyda nhw yn Wrocław, ac mae'r elusen wedi bod yn adeiladu llety i 200 o blant a menywod sydd wedi ffoi rhag y rhyfel.

Y gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i setlo yng Ngwlad Pwyl a chymryd eu meddyliau oddi ar y rhyfel.

Mae'r elusen eisoes wedi bod yn adeiladu ceginau, ystafelloedd gwely, byw ac ymolchi, a'r gobaith yw creu ystafelloedd dosbarth i'r ffoaduriaid hefyd.

'Rhoi rhywbeth 'nôl'

"Rydyn ni oll wedi gweld y lluniau ofnadwy sy'n dod o Wcráin. Allwn ni ddim dychmygu'r pethau mae'r plant yma wedi'u profi," meddai Mr Hartley ar Radio Wales fore Iau.

"Dy'n ni'n falch o allu helpu ein ffrindiau Pwylaidd i wireddu'r prosiect - mae'n wych.

"Mae cefnogwyr Cymru'n hoff o gael amser da ar dripiau oddi cartref, ond maen nhw hefyd yn awyddus i roi rhywbeth 'nôl i'r cymunedau sydd mor groesawgar i ni."