Ateb y Galw: Adam Jones neu 'Adam Yn Yr Ardd'
- Cyhoeddwyd
Adam Jones neu 'Adam Yn Yr Ardd' sy'n ateb y galw yr wythnos hon ar ôl cael ei enwebu gan Naomi Saunders.
Mae Adam yn arddwr profiadol o Orllewin Cymru ac yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar S4C a Radio Cymru.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae hwn yn un anodd, mae rhyw ddarnau bach o gof gyda fi o sawl peth ond y peth sydd fwyaf clir ydy cofio Tad-cu yn dychwelyd adre o'r fferm ar ôl godro yn y prynhawn gyda llond potel o laeth cynnes ffres a ni'n dou yn bwyta Weetabix i swper.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Pentyrcan neu 'Tair Carn Isaf' yn swyddogol, ar y Mynydd Du uwchben pentref Glanaman achos mai dyma rwy'n ystyried yn gartref imi o hyd, er imi symud i Gwm Gwendraeth i fyw erbyn hyn. Dyma lle fydden i wastad yn mynd i grwydro yn blant ac o'r copa mae modd gweld y rhan fwyaf o Ddyffryn Aman, Sir Gâr a'r holl ffordd lawr i fae Abertawe.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Aberystwyth adeg y Nadolig yn 2012. Roedd Sara fy ngwraig, oedd yn gariad ar y pryd, wedi dod lan am noson olaf y tymor ac roedd y dre yn orlawn a rwy'n cofio'r ddau ohonom yn mynd ddiwedd noson i Pier Pressure ar ôl un neu ddau beint o bop yn ormod a jyst dawnsio i hen glasuron Nadolig fel Fairytale of New York tan i'r lle gau...roedd hi'n Nadolig llawen iawn y flwyddyn honno!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Angerddol, gonest ac annibynnol
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Yn aml unrhyw beth sy'n cynnwys fy mrawd Mathew, mae dawn 'da fe o gwnnu gŵen, gwneud ffŵl o'i hunan a hynny'n hollol ddiniwed!
Rwy'n cofio un tro yn y Sioe Fawr, roedd Mathew wedi cael stwr gyda heddwas am groesi'r hewl heb iddo alw'r dorf a Thad-cu yn bloeddio "Gwranda ar y Bobi, Mathew" ond Mathew ddim cweit yn deall sut oedd Tad-cu yn gwybod mai "Bobi" oedd enw'r heddwas ac yna'n holi'r heddwas "Sgiws mi, is ior nêm Bobi?" a chymaint o gywilydd ar Dad-cu, roedd fel sgetsh gomedi!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Siarad yn grac â'r ieir yn yr ardd am jengyd i mewn i'r gwlâu llysiau a chreu llanast. Rwy'n aml yn siarad â nhw fel tase nhw'n bobl go iawn a'r tro hwn nes i sylweddoli bod 'na bobl go iawn yng ngardd drws nesaf yn gwylio'r cyfan!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Gwylio fideo o Amelia Anisovych, merch saith oed o Wcráin yn canu ei hanthem genedlaethol yng nghystadleuaeth Côr Cymru a llenwi'n llawn emosiwn.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes, gormod i'w rhestru, ond un drwg iawn yw agor pecyn o fisgedi a chael hi'n anodd iawn cau'r pecyn heb fwyta'r cyfan!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff ffilm yw Kindergarten Cop achos dyma ffilm roeddwn i o hyd yn gwylio a mwynhau yn blentyn!
Fy hoff lyfr fyddai Hanes Cymru gan John Davies a fy hoff bodlediadau ydy Gardeners Question Time gan y BBC a The Organic Way.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Byddai angen tafarn go fawr arna i gynnwys pawb fan hyn, ond os oes rhaid dewis - Monty Don achos rwy'n edmygu ei ddawn i gyfleu holl rinweddau garddio i gynulleidfaoedd anferth a gwneud hynny yn hollol hamddenol a naturiol a byddai cyfle i ymweld â'i ardd yn Long Meadow yn ysbrydoliaeth bur!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Rwy'n hoffi dysgu a siarad ieithoedd gwahanol, ac yn weddol rhugl yn Almaeneg ac Afrikaans ac yn gallu cynnal sgwrs sylfaenol yng Ngwyddeleg, Sbaeneg, Iseldireg a Gaeleg yr Alban.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bydden i'n cychwyn y dydd, fel pob dydd, yn cerdded lan yr ardd, bwydo'r ieir ac yn gwneud ambell i jobsyn garddio. Wedyn cwpla'r dydd gyda fy nheulu a fy ffrindiau i gyd yn mynd am wacen i ben top Pentyrcan gyda Chinese o Manford House, Glanaman (Chinese gorau'r byd i gyd)
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Y llun uchod ohono fi a fy ngwraig Sara ar ddiwrnod ein priodas gyda golygfeydd o Sir Gâr yn y pellter - dyma oedd diwrnod gorau fy mywyd!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Bydden i'n teithio i'r dyfodol (agos gobeithio) ac yn treulio'r diwrnod yn byw yn y Gymru annibynnol.
Hefyd o ddiddordeb: