Ateb y Galw: Naomi Saunders
- Cyhoeddwyd
Y cerddor a'r arddwraig Naomi Saunders o Fangor sy'n Ateb y Galw wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan Betsan Ceiriog yr wythnos diwethaf.
Mae Naomi yn Gyfarwyddwr Creadigol yn Galeri Caernarfon, yn aelod o grŵp Gwenno Saunders, ac yn cyflwyno'r gyfres Garddio ar S4C.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Tyfu blodyn haul anferthol pan o'n i tua dwy neu dair oed. Roedd o'n mesur wyth troedfedd!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Porth Neigwl. Dwi 'rioed 'di byw ym Mhen Llŷn, ond dyna le mae fy nheulu i gyd yn byw felly mae wedi teimlo fel 'adra' i mi erioed. A dyna le dysgais i sut i syrffio gan Dad (ond dwi'n rybish erbyn hyn!)
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Nôl yn 2016, gaeth fy ffrind George y parti gora' ERIOED yn ei ardd ym Mhenmachno. 'Claddu'r Haf' oedd enw'r parti ac roedd o'n debycach i ŵyl, efo llwyth o fandiau yn chwarae, portaloo i wneud eich busnas, a'i gymdogion wedi gwisgo fyny yn rhedeg bar coctel cudd oedd yn rhaid i bawb ffeindio am hanner nos. Noson berffaith yng nghanol cwmni anhygoel.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Creadigol, ffraeth, hyblyg.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Geshi gefnogi Ben Howard mewn gig yn yr Eden Project efo Gwenno, ac o'n i'n crynu yn mynd ar y llwyfan oherwydd bod tua 6000 o bobl yna. Y tro cynta' i mi edrych fyny o'r llwyfan, welish i ffrind o adra yn tynnu stumiau arna'i o'r dorf - oedd gennai ddim clem ei bod hi'n mynd i fod yna felly oedd hynny'n sypreis lyfli ac o'n i'n teimlo'n well yn syth!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O'n i ar daith yn cefnogi'r band Suede ac ar y noson olaf yn Amsterdam, aethon ni fyny i'r balconi i wrando ar gân arbennig oedd yn cael ei berfformio yn acwstig. Roedd y balconi yn hollol dywyll ac felly nes i ddim gweld y degau o gadeiriau metal o fy mlaen, a nes i ddisgyn o un i'r llall mewn ystafell dawel o flaen 1500 o bobl, a chwalu'r naws yn llwyr.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Crïo chwerthin nos Sul (dwi'm yn cofio pam, ond mae o'n digwydd yn aml)
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gadael pethau tan y funud olaf, yn cynnwys hwn!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albwm a pham?
Os fyswn i'n gorfod dewis un, ail albwm Alvvays, Antisocialites, am ei fod o'n esiampl berffaith o fy hoff genre, dream pop.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Les Morrison, tad fy nghariad a person arbennig iawn wnaeth gymaint dros y sîn gerddorol yng Nghymru, ond bu farw cyn i Alex a finnau ddechrau canlyn felly ges i 'rioed y pleser o'i gyfarfod.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n dysgu iaith arwyddo BSL.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Trefnu gig yn yr ardd er mwyn i mi gael cyfuno fy ddau hoff beth sef cerddoriaeth a garddio.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o fy nghariad a finnau yn gwylio'r haul yn gwawrio yn Joshua Tree. 'Da ni wedi teithio'r byd efo'n gilydd ar gyfer gwaith, ond dyna oedd y tro cyntaf i ni fynd ar wyliau efo'n gilydd - a 'da ni heb gael cyfle i wneud ers hynny… hint hint!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Sglefriwr rhew proffesiynol - dwi'n breuddwydio fy mod yn un weithiau pan dwi'n cysgu, felly byddai'n neis cael y profiad go iawn.