Caru Cymru a'r Frenhines
- Cyhoeddwyd
Dathlu'r jiwbilî gyda Jac yr Undeb yn ei fflat yng Nghaerdydd fydd Bedwyr Evans, cyn eu taflu drannoeth i'r bin gan ei fod yn cefnogi Cymru annibynnol hefyd.
'Bach yn gymhleth' ydi disgrifiad y gŵr 21 oed o'i ddaliadau, rhai y bu'n eu cuddio pan oedd yn iau oherwydd ymateb pobl.
Un o gefn gwlad gorllewin Cymru ydi Bedwyr yn wreiddiol, wedi ei fagu ar aelwyd oedd ddim yn frenhinwyr a heb Jac yr Undeb ar gyfyl y lle.
Ddaeth e i'r pentre' ac roedd pawb yn y pentre' wedi cwrdd lan.
Ond pan ddaeth y Tywysog Charles i ymweld â'r ardal yn 2010, yn cynnwys Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-Fach Felindre, Sir Gaerfyrddin, fe gafodd effaith ar y Bedwyr ifanc.
"Ddaeth e i'r pentre' ac roedd pawb yn y pentref wedi cwrdd lan a ni fel plant ysgol i gyd mewn rhes ac yn ysgwyd llaw 'da fe," meddai. "Dyna'r tro cyntaf i fi ddangos diddordeb yn y Teulu Brenhinol."
'Roedd fel mod i'n fradwr'
Yn 2011 fe wyliodd briodas Tywysog William a Kate Middleton ar y teledu, a blwyddyn yn ddiweddarach roedd yn mwynhau dathliadau jiwbilî diemwnt.
"Adeg y jiwbilî 'nes i wneud fflag Union Jack achos doedd dim un yn tŷ ni," meddai. "Doedd fy rhieni ddim yn gadael unrhyw beth gyda'r Union Jack yn y tŷ pan o'n i'n cael fy nghodi lan, a roedden nhw yn erbyn yr undeb."
Yn ei arddegau fe fagodd ddiddordeb ehangach wrth astudio cyfnod y Tuduriaid yn yr ysgol - ond y "pomp a'r seremoni a'r traddodiad" oedd yr apêl fwyaf.
Nes i benderfynu byddwn i'n anghofio am fy niddordeb yn y teulu brenhinol ond ar ôl gadael prifysgol nes i feddwl pam ddylwn i?
"Pan o'n i'n y chweched dosbarth ges i fy mhigo arno lot ar social media," meddai. "Nawr mae pawb wedi deall fy safbwynt ac wedi aeddfedu, a deall falle bod gen i ddiddordeb ynddo fo ond fydd e ddim yn newid y byd. Ond efallai adeg hynny roedd fel mod i'n fradwr neu rywbeth.
"Doedd e ddim yn grêt. Nes i ddod i'r pwynt do'n i ddim yn siarad allan llawer ond oherwydd mod i o gefn gwlad roedd rhai yn gwybod am fy niddordeb ac yn siarad am y peth ar Twitter.
"Mae 'da fi gasgliad o Hello magazine ers 2017 achos maen nhw'n royal heavy. Nes i roi nhw mewn peil, ac mae lot o 2017, 2018, 2019… wedyn maen nhw'n dropo off am ddwy neu dair blynedd pan o ni'n trio peidio cael diddordeb ynddyn nhw."
Mae Bedwyr yn bendant ei fod o yn y lleiafrif yng Nghymru fel brenhinwr - ac yn sicr ymysg y Cymry Cymraeg. Mae'r ffaith ei fod o hefyd o blaid annibyniaeth yn gwneud ei farn yn hyd yn oed llai cyffredin meddai:
"Fi erioed wedi clywed am neb gyda'r un farn. Unwaith fi'n dweud wrth bobl ma' nhw'n dweud 'ti methu bod y ddau'.
"Nes i benderfynu byddwn i'n anghofio am fy niddordeb yn y Teulu Brenhinol ond ar ôl gadael prifysgol nes i feddwl pam ddylwn i? Felly nes i benderfynu mod i'r ddau beth."
Annibyniaeth neu'r Frenhiniaeth?
Ei sefyllfa ddelfrydol fyddai Cymru annibynnol, ond bod y Frenhiniaeth yn rhan o'r cyfansoddiad. O orfod dewis rhwng y ddau mae'n dweud mai gwlad annibynnol fyddai orau ganddo, ac y byddai'n dal i gynnal diddordeb mewn unrhyw Goron dros y ffin.
Ac wrth i'r jiwbilî agosáu mae'n barod wedi dechrau paratoi.
Ma' fe'n anodd egluro i rywun mod i'n credu mewn annibyniaeth ac yn hoffi'r teulu'r brenhinol.
Methodd gael ticedi i'r dathliadau swyddogol yn Llundain felly bydd o a'i gariad yn cael 'te parti' yn y tŷ gydag addurniadau jiwbilî.
"Syth ar ôl y jiwbilî fydd nhw i gyd yn mynd i'r bin," meddai. "Pan nes i brynu'r decorations dyma fy nghariad yn gweld nhw, a gweld yr Union Jacks a gofyn 'beth mae rhain yn da yma?'
"Ni wedi cael sawl disagreement am y teulu brenhinol. Ma' fe'n anodd egluro i rywun mod i'n credu mewn annibyniaeth ac yn hoffi'r Teulu'r Brenhinol ond ma' fe'n deall o le fi'n dod o nawr."