Teyrngedau teuluol wedi marwolaeth dau oedolyn ifanc

  • Cyhoeddwyd
Kaitlyn Davies a Ben RogersFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kaitlyn Davies a Ben Rogers wedi gwrthdrawiad mewn gorsaf betrol

Mae teuluoedd dau oedolyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad mewn gorsaf betrol ger Abertawe wedi talu teyrngedau iddyn nhw.

Bu farw Kaitlyn Davies o Flaenymaes a Ben Rogers o Fonymaen - y ddau yn 19 oed - wedi'r gwrthdrawiad am 23:15 yn Northway Garage, Llandeilo Ferwallt (Bishopston) nos Fawrth.

Cafodd dau berson arall - merch a bachgen, y ddau'n 17 oed, oedd yn teithio mewn Alfa Romeo Mito coch, sef yr unig gerbyd oedd yn rhan o'r digwyddiad - eu hanafu.

Mae Heddlu De Cymru'n parhau i ymchwilio i'r achos ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau i'w cynnig i'r ymchwiliad.

'Atgofion yn para am byth'

Mae teuluoedd y ddau berson a fu farw wedi eu disgrifio fel unigolion "oedd yn goleuo pob ystafell" wrth gyrraedd.

Gan ei disgrifio fel "ein merch glyfar, afieithus, garedig, ofalgar" dywedodd teulu Kaitlyn Davies bod ei gwên "yn fwy disglair na'r haul".

Yn eu datganiad, dywed y teulu bod "dweud ein bod wedi dryllio ddim yn dod yn agos ati" a bod pawb oedd yn cwrdd â Kaitlyn yn ei charu.

Gan annerch Kaitlyn yn uniongyrchol, maen nhw'n ychwanegu: "Roedden ni yna gydol dy oes a nawr bydd yn rhaid i'r atgofion wnaethon ni greu bara i ni am byth."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ffordd o amgylch yr orsaf betrol ar gau am rai oriau wedi'r gwrthdrawiad wrth i'r heddlu ymchwilio i'r achos

Dywedodd teulu Ben Rogers ei fod "yn ddyn ifanc rhyfeddol, clyfar, siaradus a ffraeth" oedd "wastad â gwên ar ei wyneb".

"Roedd yn berson mor serchus a gofalgar oedd ag amser i siarad ag unrhyw un a fyddai'n gwrnado, sy'n egluro pam roedd ganddo gymaint o ffrindiau.

"Byddai o hyd yn cynnig cefnogaeth i bwy bynnag oedd ei angen. Mae'n deg dweud ei bod yn byw bywyd i'r eithaf ac yn gwasgu pob owns o fwynhad posib ohono."

Ychwanegodd y teulu bod "colli Ben wedi cael effaith ddofn arnom ni oll... mae rhan o ein calonnau ni gyd wedi torri ond fe wnawn ein gorau i gadw'r cof amdano'n fyw".

Mae'r teulu hefyd wedi diolch i'r gwasanaethau brys ac aelodau'r cyhoedd "a wnaeth eu gorau glas" i helpu "dan yr hyn roedd yn anorfod yn amgylchiadau anodd".

Pynciau cysylltiedig