Lluniau: Dydd Gwener yn Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mae hi'n agosáu at ddiwedd wythnos Eisteddfod yr Urdd, ond mae digonedd o weithgareddau a chyffro ar y Maes o hyd. Heddiw ac yfory fe fydd Gŵyl Triban yn ei hanterth, gyda nifer o artistiaid amlwg yn perfformio.
Iolo Penri fu'n crwydro'r maes a thynnu lluniau ar ran Cymru Fyw.

Roedd ychydig o law ar y Maes yn gynnar yn y dydd, ond roedd yr haul yn gwenu erbyn y prynhawn.

Ann Catrin Evans, yr artist fu'n gyfrifol am ddylunio Coron Eisteddfod yr Urdd 2022 ar y Maes gyda Luned a Catrin.

Mae plant bach a mawr wedi mwynhau eistedd mewn car Heddlu Gogledd Cymru yn ystod yr wythnos...


Mochel rhag y glaw ac ymarfer munud olaf!

Pa ffordd well i ddechrau y diwrnod na ioga ar lwyfan Radio Cymru!




Ymladd gyda chleddyf yn yr ardal chwaraeon.

Hefyd o ddiddordeb: