Twm Ebbsworth yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Twm Ebbsworth o Geredigion yw enillydd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.
Daw Twm o bentref Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion, ac mae ar fin cwblhau cwrs ôl-radd yn Adran y Gymraeg Aberystwyth.
Yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog, enillodd Gadair Genedlaethol y Mudiad yn 2019, ynghyd â dwy Goron Eisteddfod Rhyng-golegol yn 2020 a 2022.
Mae wrth ei fodd yn chwarae gitâr ac yn chwarae pêl-droed i dîm y Geltaidd yn Aberystwyth yn ogystal â thîm lleol Sêr Dewi.
Yn gefnogwr brwd o Tottenham Hotspur yn ogystal â'r tîm pêl-droed cenedlaethol, dywed ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at y gêm ddydd Sul.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Osian Wynn Davies o Lanfairpwll, Ynys Môn - oedd eisoes wedi gipio'r Fedal Ddrama eleni - ac Elain Roberts o Gei Newydd, Ceredigion oedd yn drydydd.
Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd.
Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema Llen/Llenni.
Daeth saith ymgais i law gyda'r beirniad, Sian Northey a Gwenno Mair Davies "wir yn mwynhau darllen pob un ohonynt."
'Llenor aeddfed a chrefftus'
Dywedodd Ms Northey eu bod yn "hollol gytûn" mai Pysgodyn Aur - ffugenw Twm - oedd yn dod i'r brig.
Cafodd ei ddisgrifio fel "llenor aeddfed a chrefftus wnaeth ein tywys ar daith wallgof a gwahanol".
"Roedd hwn yn ddarn gwahanol iawn yn llawn hiwmor tywyll a swreal a apeliodd yn fawr at y ddwy ohonom o'r darlleniad cyntaf," meddai Ms Northey.
Dywedodd Twm: "Hoffwn ddiolch yn fawr i'm cyn-athrawon am eu hysbrydoliaeth a'u cefnogaeth; ac yn arbennig i Mrs Delor James, cyn Bennaeth y Gymraeg ym Mro Pedr am ei hanogaeth gyson ac i Eurig Salisbury yn y Brifysgol am ei gefnogaeth.
"Ac wrth gwrs, diolch i fy nheulu a ffrindiau am eu cyfeillgarwch, eu hamynedd a'u cefnogaeth, yn arbennig i Lleucu, Mam, Dad a Guto."
Y gemydd Ann Catrin Evans o Gaernarfon oedd cynllunydd y Goron eleni.
Dyma'r wythfed goron i Ms Evans ei dylunio, a dywedodd bod tirlun amaethyddol Dinbych a'r cyffiniau ac offer o fyd ffermio wedi bod yn ysbrydoliaeth iddi.
Yn gynharach yn yr wythnos cyhoeddwyd mai Ciarán Eynon oedd enillydd y Gadair, ac mai Osian Wynn Davies a ddaeth i'r brig yn y Fedal Ddrama.
Cyn hynny fe gipiodd Josh Osborne Medal y Dysgwyr, ac fe gafwyd yr enillydd ieuengaf erioed i brif wobrau'r Urdd, wrth i Shuchen Xie, 12, ennill y Fedal Gyfansoddi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd31 Mai 2022