'Ni'n dal yn eitha' taeog fel Cymry i'r frenhiniaeth'

  • Cyhoeddwyd
Emyr Wyn Francis
Disgrifiad o’r llun,

Dyw barn Emyr Wyn Francis heb newid ers iddo brotestio yn erbyn ymweliad y Frenhines ag Aberystwyth yn 1996

"Ni'n dal yn eitha taeog fel Cymry ac mae hynny yn fy synnu i."

Dyna farn un o'r bobl gafodd eu harestio tra'n protestio yn erbyn ymweliad y Frenhines ag Aberystwyth chwe blynedd ar hugain yn ôl.

Yn ôl Emyr Wyn Francis does dim angen sêl bendith y frenhiniaeth ar sefydliadau Cymreig fel y Senedd.

Wrth sgwrsio yng ngardd ei gartref ym Mlaendulais mae'r gŵr busnes 45 oed yn olrhain y rhesymau dros y brotest ar ddiwrnod olaf Mai 1996.

'Ddim yn teimlo'n iawn rywsut'

"Y teimlad oedd fod yna Gymro neu Gymraes oedd yn gymwys i agor yr adeilad ac nid y frenhines, brenhines Lloegr i bob pwrpas.

"Ar ben hynny roedd hi'n gyfnod arholiadau a nifer o lyfrgelloedd wedi eu cau i'r myfyrwyr... ac hefyd roedd lot o arian wedi cael ei wario ar yr ymweliad ac i beth yn y diwedd?

"Roedd diffoddwyr tân er enghraifft yn cael eu defnyddio i ddyfrhau blodau ar gyfer yr ymweliad - doedd e ddim yn teimlo'n iawn rywsut."

Disgrifiad o’r llun,

Pennawd papur newydd y Western Mail yn 1996 yn beirniadu'r brotest yn erbyn yr ymweliad

Nid y Llyfrgell Genedlaethol oedd y cyntaf na'r olaf i chwilio am nawdd gan y frenhiniaeth. Mae nifer o sefydliadau'n teimlo fod cael eu cysylltu â'r frenhiniaeth yn rhoi statws iddyn nhw. Mae Emyr Wyn Francis yn synnu mai dyna'r sefyllfa o hyd.

"Mae'n debyg ein bod ni fel cenedl yn dal yn eitha' taeog i'r frenhiniaeth sydd yn fy synnu i o ystyried yr holl sgandalau sydd wedi digwydd o fewn y blynyddoedd diwethaf.

"Bydden i'n disgwyl os yw'r math yna o arian cyhoeddus yn cael ei wario pam nad oes yna fwy o brotest.

"Yn sicr ar hyn o bryd hefyd mewn cyfnod lle dyw pobl ddim yn gallu fforddio bwyd a gwresogi tai ai dyma'r ffordd gywir o wario arian cyhoeddus."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines, gyda'r llywydd, Elin Jones, y Tywysog Charles a Duges Cernyw yn ystod agoriad swyddogol chweched sesiwn y Senedd fis Hydref y llynedd

Mae rhai, fel yr Arglwydd Elis Thomas, wedi dadlau fod cefnogaeth y teulu brenhinol wedi helpu'r Cynulliad Cenedlaethol i ennill ei blwyf ond mynnu nad oes angen sêl bendith y teulu brenhinol ar sefydliadau Cymreig y mae Emyr.

"Dwi ddim yn teimlo fod angen y Frenhines i roi hygrededd i sefydliadau Cymreig nac i agor sefydliadau Cymreig. Er fod pleidlais datganoli'n agos roedd dros hanner wedi pleidleisio dros gael Cynulliad a dyna sy'n bwysig.

"Mewn gwirionedd dyw'r frenhiniaeth ddim yn cynrychioli democratiaeth o gwbl ac mae'n synnu fi fel mae pobl yn derbyn y frenhiniaeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu brenhinol yn cyrraedd Bae Caerdydd ym mis Hydref 2021

Wrth ymateb i arolygon diweddar sy'n awgrymu fod Cymru'n fwy cefnogol i'r frenhiniaeth na rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol mae Emyr yn mynnu efallai nad yw'r gefnogaeth honno wedi selio ar argyhoeddiad dwfn.

"Agwedd sawl un oedd yn dathlu'r jiwbilî oedd mae e'n barti, ni wedi cael cyfnod anodd dros y ddwy flynedd ddiwetha', mae e'n gyfle i ni fwynhau a chael sbort a chael diwrnod off."

Er y gefnogaeth bresennol mae e'n teimlo y gallai bethau newid wedi cyfnod y Frenhines Elizabeth.

"A fydd y gefnogaeth yr un mor gryf yng nghyfnod Carlo? Bydden i'n cwestiynu os bydde fe.

"Mae'r frenhiniaeth yn rhywbeth sydd jyst yn cael ei dderbyn. Shwt mae modd i ni gael cydraddoldeb pan mae gyda ni un teulu wastad yn mynd i fod yn fwy breintiedig nag unrhyw deulu arall?

"Dyna'r cwestiynau dylai gael eu gofyn a maen sicr yn fy nhristáu i."

Pynciau cysylltiedig