'Rhaid ailystyried newid cymhorthdal amaeth wedi pandemig'

  • Cyhoeddwyd
Gwawr Parry
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl un ffermwr o Lanfair Caereinion, mae angen polisi "syml ac agored i bawb" yn y sector amaeth

Mae'n rhaid "ailystyried newidiadau i gymorthdaliadau amaeth" yn sgil effaith y pandemig a rhyfel Wcráin ar gyflenwadau bwyd.

Dyna alwad arweinwyr y diwydiant mewn ymateb i fwriad Llywodraeth Cymru i gynnig grantiau amaethyddol yn y dyfodol am waith amgylcheddol.

Ond, rhybuddio y byddai hynny yn arwain at lai o gynhyrchu bwyd mae NFU Cymru, sy'n ymbil am "daliadau sefydlogrwydd" i ffermydd.

Mae disgwyl i weinidogion ddatgelu manylion eu Cynllun Ffermio Cynaliadwy - fydd yn dod yn lle'r hen drefn Ewropeaidd - yr haf hwn.

Wedi hynny, fe fydd Mesur Amaeth newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno ym mis Medi.

Dywedodd llywydd NFU Cymru Aled Jones fod 2022 yn "flwyddyn dyngedfennol" i'r diwydiant ac mai'r ddeddfwriaeth newydd oedd "y fwyaf pwysig i fynd drwy'r Senedd" erioed o safbwynt y byd amaeth.

Yn lle cynnig taliadau uniongyrchol i ffermydd ar sail faint o dir sydd dan eu gofal, byddai'r model cyllid newydd yn ffocysu ar wobrwyo gwaith i gynnal ansawdd aer a dŵr glân, lleihau risg llifogydd a sychder, brwydro newid hinsawdd a hybu bioamrywiaeth.

Byddai gwella mynediad i gefn gwlad, gwarchod tirluniau naturiol a hanesyddol, yn ogystal â safonau iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu cynnwys fel rhan o'r grantiau newydd hefyd.

Dyw hi ddim yn glir eto sut yn union fydd y system newydd yn gweithredu yn ymarferol nac i ba raddau y bydd ffermydd unigol yn elwa ai peidio yn ariannol.

Ond mae NFU Cymru yn gwneud apêl funud-olaf am ryw fath o daliad uniongyrchol i barhau fel rhan o'r drefn newydd, wrth iddyn nhw gynnal digwyddiad yn y Senedd ddydd Mawrth.

Mae taliadau uniongyrchol wedi cynnig "rhwyd diogelwch allweddol i ffermwyr Cymru" yn y gorffennol, meddai'r undeb.

Mae eu dogfen polisi yn honni dan gynllun newydd y llywodraeth mi allai ardaloedd eang o dir droi'n goetiroedd neu gael eu "dad-ddofi", gan arwain at wasgaru pobl a chymunedau.

'Cyfnod anodd'

Dywedodd Mr Jones bod angen addasu'r cynlluniau i sicrhau eu bod yn blaenoriaethu parhau i gynhyrchu bwyd.

"Mae amaeth yng Nghymru yn gwneud cyfraniad digyffelyb i'n cymunedau gwledig, economi a thirlun - yn ogystal â'n hunaniaeth cenedlaethol, ein hiaith a'n diwylliant," meddai.

"Yn fwy nac erioed, yn ystod y cyfnodau anodd yma, mae'n rhaid bod parhau i gynnig cyflenwad diogel, fforddiadwy o fwyd safon uchel yn flaenoriaeth strategol i'n cenedl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwawr Parry yn ffermio defaid ac yn dweud mai cynhyrchu bwyd yw'r rhan bwysicaf o'i busnes

Mae dogfen polisi'r undeb yn rhybuddio y gallai'r modd y mae rhyfel Wcráin a phandemig Covid-19 wedi tarfu ar gyflenwadau a phrisiau bwyd "bara am nifer o flynyddoedd".

Mae'n galw am weithredu drwy'r mesur amaeth newydd i sicrhau bod lefelau domestig o gynhyrchu bwyd yn cael eu "hasesu, cynnal a'u cryfhau law yn llaw ag amcanion newid hinsawdd, bioamrywiaeth a'r amgylchedd yn ehangach."

"Cynhyrchu bwyd ydy'r peth pwysica' i ni fel busnes - a 'dyn ni'n cymryd balchder yn hynny," medd Gwawr Parry, ffermwr defaid o ardal Llanfair Caereinion ym Mhowys.

"Be' bynnag 'di'r scheme neu bolisi newydd mae angen iddo fod mor syml â phosib a bod yn agored i bawb," meddai.

Ychwanegodd bod "yr ansicrwydd sydd ar hyn o bryd yn peri gofid i lawer felly buasai penderfyniad eitha' handi yn helpful hefyd i bobl gael planio eu busnesau a symud ymlaen."

'Angen symud at fodel mwy cynaliadwy'

Mae grwpiau amgylcheddol wedi'u plesio hyd yma â thrywydd Llywodraeth Cymru a dy'n nhw ddim yn awyddus i weld cynlluniau sy'n llai radical.

Yn ôl Arfon Williams o RSPB Cymru byddai "unrhyw gynnydd tymor byr o ran cynhyrchu bwyd ar draul yr amgylchedd yn cael effaith sylweddol ar gynhyrchu bwyd yn y tymor hir.

"Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw daliad sefydlogrwydd ar gyfer ffermwyr eu helpu nhw i symud at fodel mwy cynaliadwy o amaethu," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae prif weithredwr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru'n dweud y dylai taliadau uniongyrchol barhau i fod yn fesur "dros dro"

Cytuno y dylai unrhyw daliad uniongyrchol sy'n parhau i fod yn fesur "dros dro" mae Rachel Sharp, prif weithredwr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru.

"Mae tirlun a hinsawdd Cymru'n golygu mai cynhyrchu bwyd o ddefaid a gwartheg ry'n ni'n bennaf yng Nghymru - felly mae diogelwch bwyd yn parhau i fod yn bwnc rhyngwladol i ni oherwydd allwn ni ddim tyfu'r graen sy'n dod o Wcráin.

"Y ddadl yn fan hyn yw sut ydyn ni'n parhau i sicrhau incwm cynaliadwy i'n ffermwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau.

"Wrth i'r argyfwng hinsawdd a natur ddwysáu, mae'n allweddol ein bod ni'n talu ffermwyr i gloi carbon y tir, adfer cynefinoedd bywyd gwyllt a lleihau llifogydd drwy wella mawndiroedd.

"Byddai talu ffermwyr i gynhyrchu bwyd, neu troi bwyd yn nwydd cyhoeddus, yn golygu bod cwsmeriaid yn talu ddwywaith am eu bwyd drwy eu trethi a'i biliau siopa," meddai.

'Cyfnod pontio i'r cynllun newydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau i ffermwyr y tu hwnt i dymor presennol y Senedd fel rhan o gyfnod pontio i'r cynllun newydd, sydd i fod i gael ei gyflwyno yng Ngwanwyn 2023.

"Bydd cymorth amaethyddol yn y dyfodol yn gwobrwyo ffermwyr sy'n gweithredu i ymateb i heriau'r argyfyngau natur a hinsawdd mewn ffyrdd sy'n gwneud y sector yn fwy cystadleuol a gwydn," meddai.

"Mae cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy a'r gweithredoedd sydd eu hangen i gyrraedd nodau amgylcheddol yn mynd law yn llaw, ddylen nhw ddim cystadlu â'i gilydd."

Pynciau cysylltiedig