Y Gymraeg a Phêl-droed Cymru: 'Doedd hi ddim yn arfer bod fel hyn'

  • Cyhoeddwyd
Phil Stead a'i ffrind MatthewFfynhonnell y llun, Phil Stead
Disgrifiad o’r llun,

Phil Stead yn dathlu gyda'i ffrind Matthew yng Nghaerdydd wedi'r gêm aeth â Chymru i Gwpan y Byd. Mae wedi bod yn un o ddilynwyr selocaf Cymru ers 1980

"Pan ddechreues i wylio gemau Cymru yng Nghaerdydd yn yr wythdegau cynnar, roedd recordiad o'r anthem yn cael ei chwarae weithiau dros y system tannoy i wneud hi'n llai amlwg nad oedd neb yn ei chanu. "

Tua 20 munud ar ôl i Mateu Lahoz chwythu'r chwiban olaf i gadarnhau buddugoliaeth Cymru yn erbyn Wcráin, camodd Dafydd Iwan yn ôl ar gae Stadiwm Dinas Caerdydd gyda microffon yn ei law chwith.

Gyda'r glaw yn disgyn i gymysgu gyda'r dagrau o lawenydd ar fochau'r cefnogwyr, dechreuodd ganu yn isel, "Dwyt ti'm yn cofio Macsen…"

Tu ôl iddo fo roedd tîm Cymru yn dechrau casglu gyda'i gilydd. Dynion oedd wedi cael eu geni yng Nghaerdydd, Nottingham, Devon, Rintein a Riyadh.

A phan ddaeth y corws, ymunasant i gyd gyda geiriau'r gân Gymraeg… "R'yn ni Yma o Hyd."

Ffynhonnell y llun, Phil stead
Disgrifiad o’r llun,

Fyddai neb yn credu y bydden nhw'n gweld Bale, Ramsey, Ampadu a'r tîm yn canu anthem Gymraeg fel Yma o Hyd ar y cae hyd yn oed ugain mlynedd yn ôl

Cwynion

Doedd hi ddim yn arfer bod fel hyn.

Pan ddechreues i wylio gemau Cymru yng Nghaerdydd yn yr wythdegau cynnar, roedd recordiad o'r anthem yn cael ei chwarae weithiau dros y system tannoy i wneud hi'n llai amlwg nad oedd neb yn ei chanu.

Ugain mlynedd wedyn roeddwn i yn gweithio fel cyhoeddwr cyhoeddus ym Mharc Ninian ac yn derbyn cwynion gan gefnogwyr am gyhoeddi'r timau yn ddwyieithog.

Yn hanesyddol mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn fudiad Prydeinig iawn. Daeth yr arwydd cyntaf o Gymreictod ein tîm pêl-droed yn 1977.

Roedd rhai o'r tîm yna, fel Dai Davies a John Mahoney, yn genedlaetholwyr selog a phan wrthododd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr â chwarae Hen Wlad Fy Nhadau cyn ein gêm yn Wembley, roedd yna brotest.

"The song in question was not a national anthem, as such," dadleuodd Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Cymru yn erbyn Lloegr yn Wembley yn 1977 ond gwrthododd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr chwarae Hen Wlad Fy Nhadau - protestiodd y tîm drwy sefyll ar ochr y cae am rai eiliadau wedi i'r band orffen chwarae God Save the Queen

Tan hynny roedd God Save the Queen yn cael ei chwarae cyn bob gêm Cymru.

O leiaf roedd gyda ni ddigon o hunan-falchder i fynnu canu ein hanthem ein hunain, ond doedd 'na ddim cwestiwn am fynd yn bellach a defnyddio'r iaith Gymraeg yn gyhoeddus. Byse hynny yn gam rhy bell.

Ond yn 2010, penodwyd y sylwebydd Ian Gwyn Hughes o Fae Colwyn fel Rheolwr Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ac mae dylanwad Gwyn Hughes, sy'n Bennaeth Materion Cyhoeddus erbyn hyn, wedi bod yn allweddol, gyda'r Gymraeg yn dechrau ymddangos yn fwy a mwy aml fel rhan o'n brand.

Twf organig mewn hunaniaeth

Ond mae'r twf mwyaf wedi bod yn organig ymysg y cefnogwyr.

Yn 2010, dechreuodd Tim Williams werthu nwyddau pêl-droed Cymru o dan y brand SO58. Yn fuan iawn, roedden ni yn gymuned go iawn efo hunaniaeth unigryw am y tro gyntaf erioed.

Ffynhonnell y llun, Phil stead
Disgrifiad o’r llun,

Glen o Doncaster yn cefnogi Cymru

A gyda'r hetiau bwced daeth defnydd yr iaith hefyd. Roedd bechgyn Casnewydd yn cymysgu efo hogiau Caernarfon ac yn gweld nad oedd yr iaith yn fygythiad wedi'r cwbl - roedd yn rhywbeth i fod yn falch ohono.

Ym mis Ionawr 2018, roedd gan y Gymdeithas ddigon o hyder i ddechrau defnyddio'r Twitter handle @cymru ac erbyn hyn, maen nhw'n cyfeirio at y tîm ei hun fel 'Cymru' ac nid 'Wales'. Mae'r Gymraeg yn amlwg yn ei chyhoeddiadau a dwi heb glywed yr un gŵyn.

Dathlu amrywiaeth

Roedd clywed y dorf yn canu Yma o Hyd cyn gêm Awstria yn wefreiddiol. Ond roedd gweld ein chwaraewyr o gefndiroedd amrywiol yn ei chanu yn fwy arwyddocaol byth. Dyna oedd arwydd o Gymru newydd - Cymru flaengar, dwyieithog, hunan-hyderus ac amrywiol.

Yndan, rydyn ni'n yma o hyd, ac mae hynny'n werth ei ddathlu wrth gwrs. Ond erbyn hyn, rydym ni'n wlad sy'n edrych i orwelion newydd hefyd.

Phil Stead yw awdur Red Dragons: The Story of Welsh Football; mae ganddo golofn chwaraeon yng nghylchgrawn Golwg ac mae'n dilyn Cymru ers 1980.

Ffynhonnell y llun, Phil stead
Disgrifiad o’r llun,

Y dystiolaeth feddygol o'r tensiwn yn y stadiwm nos Sul a beth mae'n ei olygu i ddilynwyr Cymru