Dyn wedi marw ar ôl troi ei bigwrn tra allan am dro
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn 27 oed o Sir Fflint ar ôl cael ceulad gwaed wedi iddo droi ei bigwrn wrth fynd â chŵn y teulu am dro.
Dyna ganlyniad crwner mewn cwest i farwolaeth Callum Jones o Ewlo ar 15 Hydref y llynedd.
Fe syrthiodd Mr Jones pan oedd allan gyda'i deulu ym Mharc Gwledig Loggerheads ar 3 Hydref 2021.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd lle'r oedd meddygon o'r farn ei fod wedi torri asgwrn. Cafodd esgid arbennig i wisgo.
Ond, pan wnaeth Mr Jones ddychwelyd ar 11 Hydref i'r clinig, daeth i'r amlwg mai wedi troi ei bigwrn yr oedd.
Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, bu farw Mr Jones - oedd yn pwyso 26 stôn - oherwydd ceulad gwaed gan fod ei symudedd wedi ei rwystro.
Ond, mae ei fam, Kim Jones, yn dweud y gallai ei mab fod wedi cael ei achub petai wedi cael cyswllt wyneb yn wyneb gyda'i feddyg teulu ddyddiau cyn iddo farw.
Yn ôl ei feddyg teulu - Dr Chris Murphy - fe ffoniodd Mr Jones y syrjeri yn Lôn Shotton ar 11 Hydref ynglŷn ag anawsterau anadlu, ond dywedodd y meddyg nad oedd y claf wedi crybwyll yr anaf i'w bigwrn.
Fe siaradodd y ddau dros y ffôn oherwydd ei broblemau anadlu ond dywedodd y meddyg i Mr Jones fethu â chrybwyll ei fod wedi gwisgo esgid arbennig am wythnosau wedi'r anaf.
Ar y pryd, dywedodd y meddyg nad oedd wedi derbyn llythyr rhyddhau Mr Jones o Ysbyty Glan Clwyd.
Dywedodd Dr Murphy wrth y cwest yn Rhuthun pe bai'n ymwybodol o'r anaf a bod symudedd Mr Jones wedi ei rwystro, yna mi fyddai wedi ystyried risg ceulad gwaed.
Pan ofynnwyd i feddyg o Ysbyty Glan Clwyd gan y crwner, John Gittins, pam na gafodd Mr Jones feddyginiaeth sy'n teneuo'r gwaed i leihau'r risg o geulad, dywedodd Dr Asif Iqbal ei fod dan "risg isel" er fod ei bwysau'n uchel a'i symudedd wedi rhwystro.
Dywedodd Dr Iqbal hefyd ei bod hi'n dueddol o gymryd oddeutu tair wythnos i lythyron rhyddhau gyrraedd meddygon teulu.
"Gyda'r fantais o allu edrych yn ôl, mae'n syndod na chafodd thromboprophlaxis (teneuwr gwaed) ei roi ar bresgripsiwn ond roedd 'na reswm tu ôl i hynny o ran pam nad oedd lle i gredu fod ei angen," dywedodd Mr Gittins.
Fe wnaeth y crwner ddod i'r casgliad mai damwain oedd y farwolaeth, ond bod y gwymp yn "gatalydd i'r goblygiadau trasig".
Dywedodd ei fod yn bryderus am yr oedi wrth anfon llythyron rhyddhau i feddygon teulu.