Teyrngedau i 'fam anhygoel' fu farw tra'n seiclo ger Rhaglan

  • Cyhoeddwyd
Rebecca CominsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rebecca Comins "tra'n gwneud rhywbeth yr oedd hi'n ei garu", medd ei theulu

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddynes fu farw ar ôl cael ei tharo gan fan tra'n seiclo yn Sir Fynwy.

Roedd Rebecca Comins, 52 o Gil-y-coed, yn wraig gariadus ac yn fam anhygoel, medd ei theulu.

"Bydd colled fawr ar ei hôl", medd Triathlon Cymru, a hithau'n "wyneb poblogaidd" yn y gamp.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A40 ger pentref Rhaglan tua 19:20 nos Iau 2 Mehefin.

"Cafodd ein Rebecca brydferth ei chymryd oddi wrthym ni... tra'n gwneud rhywbeth yr oedd hi'n ei garu," medd ei theulu.

"Roedd hi'n wraig gariadus a gofalgar i Stephen ac yn fam anhygoel i George a Millie."

'Llysgennad anhygoel'

Wrth dalu teyrnged i Ms Comin, dywedodd Triathlon Cymru ei bod hi'n "lysgennad anhygoel i'r gamp".

"Roedd Becky yn gystadleuydd brwd, ond roedd ganddi hefyd agwedd bositif ac egni oedd yn cyffwrdd â phawb o'i chwmpas.

"Roedd hi'n caru'r gamp; roedd hi'n caru hyfforddi ac roedd hi'n ganolog i unrhyw weithgaredd cymdeithasol yn ei chlybiau.

"Fe fydd pawb yn y gymuned triathlon yn ei cholli hi'n fawr, ac rydyn ni'n ymestyn ein cydymdeimlad dwysaf i'w theulu, Steve, George a Millie, a'i ffrindiau yn y cyfnod trist hwn."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A40 ger pentref Rhaglan

Roedd Rebecca Comins yn aelod o sawl clwb, gan gynnwys Clwb Dragon Tri a Chlwb Seiclo Newport Phoenix, ac yn gyn-aelod o Glwb Triathlon Sir Fynwy.

Roedd hi hefyd yn gystadleuydd llwyddiannus: yn bencampwr presennol ar Super Series Triathlon Cymru, roedd hi ar fin cystadlu yn y Bencampwriaeth Brydeinig fel rhan o Dîm Tri Cymru gyda'i mab George.

Roedd hi hefyd yn edrych ymlaen at gystadlu yn y Bencampwriaeth Sbrintio Brydeinig yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth Ms Comins gwblhau Ironman Cymru sawl tro, gan gynrychioli Prydain yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd yn 2018 a 2019.

Apêl am wybodaeth

Dywed Heddlu Gwent bod Ms Comins wedi marw yn y fan a'r lle ar ôl cael ei tharo gan fan Vauxhall Movano gwyn.

Cafodd dyn 47 oed o'r Fenni ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.

Mae wedi ei ryddhau wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan dystion neu unrhyw un ddefnyddiodd yr A40 rhwng 19:00 a 19:30 rhwng Y Fenni a Rhaglan y diwrnod hwnnw.

Pynciau cysylltiedig