Anodd stumogi costau uchel siopau sglodion

  • Cyhoeddwyd
Sglodion yn Aberporth

Mae perchnogion siopau pysgod a sglodion yn wynebu "dyfodol tywyll iawn" yn sgil cynnydd mewn costau.

Ychydig flynyddoedd yn unig y mae Erin Morgan wedi bod yn rhedeg Caffi Sgadan yn Aberporth, Ceredigion.

Wrth siarad â Newyddion S4C, mae hi nawr yn wynebu'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "cyfnod mwyaf ansicr" ei diwydiant ers degawdau.

Costau uchel ynni, tanwydd a nwy sy'n achosi problemau i berchnogion y siopau, ond yn fwy penodol, pris uwch olew a physgod ers y rhyfel yn Wcráin.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Erin Morgan yn poeni am orfod cynyddu costau i'w chwsmeriaid yn siop Sgadan, Aberporth

"Cod sydd gyda ni'n bennaf," meddai.

"Ro' ni'n ei brynu e nôl ym mis Mawrth, ac ers hynny, mae'r pris wedi dyblu."

Yn ôl Erin sydd â'i Mamgu â'i chwaer yn rhedeg busnesau tebyg yng Ngheredigion, byddai cyflwyno cynnydd mewn costau i'r cwsmeriaid yn anodd.

"Sa i'n credu y byddai pobl leol rownd ffordd hyn yn hapus."

"Wrth gwrs ni'n becso... olew coginio, nwy, heb sôn am y pysgod... ac os y'n ni'n cadw gweld y cynnydd yma, bydd rhaid i ni edrych eto ar y ffordd mae'r busnes yn cael ei redeg."

Pris penfras mawr a sglodion yng nghaffi Sgadan ar hyn o bryd yw £7.90 - cynnydd o 50c ers dechrau'r flwyddyn.

Mewn ambell i ardal ar hyd yr arfordir, allwch chi ddisgwyl talu hyd at £12.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth un cwsmer benderfynu mynd am yr opsiwn rhatach yn lle prynu pysgodyn fel y byddai'n arfer ei wneud

 hithau ar ei gwyliau yn Aberporth, penderfynodd Jo Davies ddewis pei gyda'i sglodion. Dewis rhatach, a hynny er mai pysgodyn fyddai'r dewis naturiol cyntaf.

"Yn anffodus, mae'n rhy ddrud ar hyn o bryd. Byddwn ni wedi dewis pysgodyn, yn bendant, ond mae'n rhy ddrud," dywedodd.

"Mae'n fwy o bryd ar gyfer achlysur arbennig erbyn hyn."

Beth sydd wedi achosi'r argyfwng?

Y Rhyfel yn Wcráin yw'r prif reswm, ar y cyfan. Mae 'na gynnydd enfawr yng nghostau ynni a thanwydd, gyda phris olew coginio a physgod yn mynd trwy'r to.

Mae cynrychiolwyr y diwydiant wedi ymweld ag Alesund yn Norwy er mwyn ceisio chwilio am gymorth.

Mae Andrew Crook yn eu plith: "Dwi 'di gweld pris olew coginio yn dwblu," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl tollau ychwanegol o 35% o bysgod gwyn o Rwsia yn ôl Andrew Crook

"Hynny yn sgil y rhyfel yn Wcráin. Gyda physgod, ry'n ni eisoes yn gweld chwyddiant yn cael effaith, gyda phris tanwydd yn achos arall.

"A nawr, ni'n disgwyl tollau ychwanegol o 35% ar bysgod gwyn o Rwsia, bydd yn effeithio ar y diwydiant hefyd."

Mae Rwsia ymhlith cynhyrchwyr bwyd môr mwya'r byd, gyda nifer o wledydd yn dibynnu ar ei chynnyrch o bysgod gwyn.

Nod Mr Crook yw cynyddu stoc y pysgod mewn marchnadoedd eraill, gan ddechrau gyda Norwy.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pris olew a physgod ar gynnydd ond dydy perchnogion ddim eisiau trosglwyddo'r gost i'w cwsmeriaid

"Mae mwyafrif y cychod pysgota mawr yn Norwy yn cynhyrchu pysgod sy'n cael eu prosesu ar gyfer marchnadoedd eraill," dywedodd.

"Ond nawr, gyda phris ein pysgod ni yn cynyddu, y gobaith yw eu perswadio i newid eu ffordd o weithio er mwyn darparu pysgod ar ein cyfer ni.

"Os oes yna ragor o bysgod ar gael, yna bydd modd rheoli cynnydd ym mhrisiau i'r dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Morgan yn poeni fod ei gwsmeriaid yn ymweld â'r siop yn llai aml

Yn Aberteifi, mae Gareth Morgan a'i deulu yn rhedeg Caffi Pendre. Ceisio dal dau ben llinyn ynghyd yw'r dasg ar hyn o bryd.

"O'r blaen, fyddai rhywun yn gweld cwsmeriaid weithiau'n ymweld rhyw ddwy neu deirgwaith yr wythnos. Nawr, fe welwch chi nhw ddwywaith y mis falle.

"Y gobaith yw osgoi pasio'r gost ymlaen i gwsmeriaid, ond yn y pendraw, fe fydd y prisiau yn gorfod codi eto."

Disgrifiad o’r llun,

Mae costau'n cynyddu i berchnogion busnes ac felly hefyd i gwsmeriaid yn y pendraw, yn ôl Gareth Morgan

Wedi i Dreth Ar Werth gynyddu i 20% ym mis Ebrill, mae Andrew Crook yn dweud bod penderfyniadau anodd ar y gorwel i fusnesau.

"Dwi'n credu bod angen ail feddwl y ffordd ry'n ni'n cael ein trethu.

"Mae'r dyfodol yn edrych yn dywyll iawn. Mae am fod yn anodd iawn i nifer o fusnesau," dywedodd.

"Mae'n golygu nad oes yna arian ar gael i fuddsoddi, na chwaith i gynnig swyddi da, ac mae sawl busnes yna anffodus, yn mynd i fynd allan o fusnes."

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU bod cynlluniau eisoes ar waith i helpu busnesau.

"Yn Natganiad y Gwanwyn fe wnaethon ni gyhoeddi cynnydd o £1,000 i'r Lwfans Cyflogaeth, fydd yn torri trethi cannoedd a miloedd o fusnesau.

"Gall siopau'r stryd fawr sy'n gymwys hefyd gael 50% oddi ar filiau ardrethi busnes, yn ogystal ag elwa o rewi'r lluosogwr ardrethi busnes sy'n lleihau'r cynnydd i filiau ac sy'n werth £4.6 biliwn dros y pum mlynedd nesaf.

"Rydyn ni o hyd wedi bod yn glir mai mesur dros-dro oedd y cyfradd is o TAW, ac mae'n gywir fod ein cymorth ni'n adlewyrchu'r ffaith fod yr economi wedi ail agor."

Pynciau cysylltiedig