Eisteddfod 2022: Dros 1,000 o weithgareddau 'apelgar'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
DigwyddiadauFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod wedi cyhoeddi manylion eu gweithgareddau nos ar gyfer y Pafiliwn

Dywed prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, bod y gweithgareddau sydd wedi cael eu trefnu ar gyfer prifwyl 2020 "yn apelgar i Eisteddfodwyr rheolaidd a newydd".

Gyda 50 diwrnod i fynd tan yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion, mae'r trefnwyr newydd gyhoeddi manylion eu gweithgareddau nos a'r amserlenni ar gyfer yr wythnos.

Ymhen llai na deufis, bydd yr Eisteddfod yn agor ei giatiau ar gyrion Tregaron. Yn wreiddiol roedd hi fod i'w chynnal yn y dre yn 2020.

Dywed y trefnwyr bod y rhaglen nos yn uchelgeisiol a bod stamp Ceredigion i'w weld yn glir ar amryw o'r gweithgareddau.

Lloergan yw'r sioe agoriadol, ar nos Wener 29 Gorffennaf, gyda'r stori a'r sgript gan Fflur Dafydd a'r caneuon gan Griff Lynch (Yr Ods) a Lewys Wyn (Yr Eira) ac ymhlith y cast mae Sam Ebenezer, un o sêr y West End.

Disgrifiad o’r llun,

Delyth Hopkins Evans, cadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Ceredigion, fydd yn arwain y Gymanfa Ganu

Nos Sul yn y pafiliwn fe fydd y Gymanfa Ganu draddodiadol o dan arweiniad Delyth Hopkins Evans a nos Lun fe fydd dros 20 o glybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn cyflwyno sioe Maes G, sy'n wedd cwbl newydd ar yr hen chwedl leol am Faes Gwyddno.

Nos Fawrth bydd Nel, seren hoffus a direidus y gyfres lyfrau poblogaidd, Na, Nel! gan Meleri Wyn James, yn mentro i'r llwyfan am y tro cyntaf mewn prom cerddorol sy'n llawn caneuon cyfoes, ac yn hwyrach fe fydd criw Cabarela yn cyflwyno sioe newydd sbon ar lwyfan y Pafiliwn.

Hefyd mae Gig y Pafiliwn yn ôl, ac fe fydd y DJ Huw Stephens yn croesawu Gwilym, Adwaith, Mellt ac Alffa i'r llwyfan i berfformio trefniannau gan Owain Roberts o'u caneuon eu hunain gyda Cherddorfa'r Welsh Pops.

Bydd tocynnau ar werth o 10:00 ddydd Gwener 24 Mehefin ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cryn fwrlwm pan gyhoeddwyd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Aberteifi yn 2019

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Rydyn ni'n gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i greu rhaglen sy'n ddeniadol ac yn apelgar i Eisteddfodwyr rheolaidd a newydd.

"Wrth gyhoeddi manylion yr wythnos, rydyn ni'n diolch o galon i'n holl wirfoddolwyr yn ardal Ceredigion sydd wedi bod yn gweithio gyda ni am gyfnod mor hir i dynnu popeth at ei gilydd.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, ac mae cefnogaeth a chyfeillgarwch ein pwyllgorau wedi bod yn gymaint o hwb a chymorth i ni wrth gynllunio a gwireddu ein rhaglenni ar gyfer eleni. Diolch yn fawr i bawb."

Disgrifiad o’r llun,

Betsan Moses: "Diolch i'r gwirfoddolwyr"

Ychwanegodd: "Rwy'n mawr obeithio y bydd pobl yn cael blas ar yr arlwy wrth bori drwy'r amserlenni a'r wybodaeth am y cyngherddau ac y bydd pobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn tyrru i Dregaron ymhen 50 diwrnod!

"Wrth gwrs, 'dyw'r gwaith ddim yn dod i ben wrth i ni gyhoeddi ein rhaglenni, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at rannu llawer iawn mwy o gynlluniau cyffrous gyda phawb dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys manylion prosiect unigryw ac uchelgeisiol, Dadeni, a fydd yn meddiannu pob rhan o'r Maes nos Sadwrn 30 Gorffennaf, a llawer mwy."

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei chynnal ar gyrion Tregaron o 30 Gorffennaf tan 6 Awst.

Mae modd prynu tocynnau Maes am yr wythnos neu docynnau dyddiol yma, dolen allanol.