Gobeithio am bwyntiau yn erbyn ail dîm gorau'r byd
- Cyhoeddwyd
Parhau mae ymgyrch Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd gyda gêm arall yng Nghaerdydd nos Sadwrn.
Ond wrth i dîm Robert Page dargedu eu pwyntiau cyntaf yn y gystadleuaeth, bydd yr her yn un sylweddol wrth i Wlad Belg ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd.
I wneud y sialens hyd yn oed yn anoddach, mae carfan Cymru hefyd yn wynebu problemau gydag anafiadau.
Mae hyn yn ogystal â'r sialens o chwarae cymaint o gemau mewn cyfnod cymharol fyr o amser.
Anafiadau yn y garfan
Yn nhermau'r grŵp, wedi i Gymru gael eu dyrchafu i wynebu prif ddetholion Ewrop, bydd tîm Robert Page yn gobeithio gorffen yn drydydd neu gwell er mwyn osgoi disgyn yn ôl i'r ail adran.
Ond wedi colli'u dwy gêm gyntaf, bydd angen pwyntiau er yr her o wynebu yr ail dîm gorau yn y byd yn ôl tabl FIFA.
Wrth siarad gyda'r wasg yn gynharach yn yr wythnos, cadarnhaodd Robert Page fod Wayne Hennessey ymysg y rheiny oedd ag anafiadau ond ei fod yn ffit i wynebu Gwlad Belg.
Mae Kieffer Moore bellach wedi gadael y garfan oherwydd anaf ac mae golwr Salford City, Tom King, wedi ymuno â'r tîm yn ei le.
Fydd Joe Morrell ddim yn chwarae chwaith oherwydd anaf.
Dywedodd y rheolwr wedi'r golled funud olaf i'r Iseldiroedd nos Fercher: "Roedd Wayne lawr i chwarae heddiw ond fe wnes i ddarganfod amser cinio bod ganddo ergyd.
"Mae Ward wedi gorfod gadael y maes hanner amser wedi'i anafu. Pan fyddwch chi'n cael dau neu dri o anafiadau mewn meysydd allweddol, mae'n cael effaith.
"Mae Danny wedi cael ychydig o broblem gyda'i ben-glin ac ni all barhau - felly mae'n rhaid i ni ddelio â hynny hefyd.
"Ond mae'n rhaid i ni gario ymlaen, mae pawb arall yn yr un gwch."
Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45,
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022