Y brodyr o Grymych sy'n anelu am aur i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
TwinsFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Ioan (chwith) a Garan (ar y dde)

Mae Garan a Ioan Croft yn efeilliaid 20 oed o Grymych, Sir Benfro. Ond yn ogystal â bod yn efeilliaid maent yn rhannu yr un proffesiwn, bocsio.

Mae'r ddau newydd gael eu dewis i gynrychioli Cymru yn y Gemau Gymanwlad fydd yn dechrau yn Birmingham ar 28 Gorffennaf.

Tra'n hyfforddi yn Tenerife fe siaradodd y ddau gyda Trystan Ellis-Morris ar sioe Trystan ac Emma ar Radio Cymru ar fore Gwener, 10 Mehefin.

"Mae training camp 'da ni 'ma, ac mae wedi bod yn waith caled yma," meddai Garan.

"Mae llai na 50 diwrnod i fynd tan y gemau felly mae'r camp yn dechrau nawr i cael popeth yn iawn - mae'r gwaith caled yn dechrau wythnos 'ma.

"Ni'n ymarfer tair neu bedair gwaith y dydd, a hynny pump neu chwe diwrnod yr wythnos."

Felly, sut mae diwrnod arferol o ymarfer yn edrych?

"Ni'n rhedeg am saith y bore, wedyn bach o strength and conditioning tua 10-11 y bore, ac yna sesiwn bocsio yn y prynhawn. Falle pan 'da ni mas fan hyn (Tenerife) ni'n neud bach o nofio hefyd."

Dechrau'n ifanc

Mae'r brodyr wedi gallu canolbwyntio yn llwyr ar focsio ers tua tair mlynedd, fel esboniai Garan: "Ni'n bocsio llawn amser nawr ers i ni droi'n 17 oed."

Ond mae'r ddau wedi bod yn bocsio ers blynyddoedd lawer, gan ddechrau yn wyth oed mewn campfa yn Aberteifi.

Enillodd y ddau Bencampwriaeth Cymru yn 10 mlwydd oed, ond pam y dechreuon nhw focsio yn y lle cyntaf? "Sai'n siwr, chi jest yn gwybod pan fod rhywbeth i chi," meddai Garan. "Roedd talent 'da'r ddau o ni ers yn ifanc felly roedden ni'n gwybod mai hyn oedden ni am ei wneud."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi ennill cyfanswm o 41 o fedalau bocsio yn y Gemau Gymanwlad ers 1930. Dyma ddau enillodd aur a fydd Ioan a Garan yn ceisio efelychu; Howard Winstone (1958) a Lauren Price (2018)

Yn ddiweddar roedd y ddau yn cystadlu yn Yerevan, prifddinas Armenia, gan gynrychioli tîm Prydain ym Mhencampwriaethau Ewrop. Enillodd Garan fedal arian ac fe enillodd Ioan efydd.

Roedd yn dipyn o naid mewn safon i'r brodyr gan eu bod yn 20 oed, a'r rhan fwyaf o'r bocswyr eraill yn eu 20au hwyr ac felly yn fwy profiadol.

Mae Ioan yn dweud bod cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham wedi bod yn amcan i'r brodyr ers amser maith.

"Ni 'di gweithio tuag at y gemau 'ma ers blynyddoedd. 'Nathon ni weld y Gemau Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 ac yn y Gold Coast yn 2018 - wyth mlynedd o wylio'r gemau, a nawr tro ni yw e yn Birmingham yr haf 'ma."

Cyd-ymarfer a hyfforddi

Mae'r brodyr yn elwa o allu hyfforddi ac ymarfer gyda'u gilydd yn ôl Ioan: "Mae cael rhywun i wneud e gyda chi, ac sydd ar yr un lefel, yn help enfawr i ymarfer, ac o ran motivation hefyd."

Mae'r ddau yn ffeindio cysur a chael hyder o fod yng nghwmni eu gilydd am gyfnodau hir, yn enwedig gan nad ydyn nhw adref yng ngorllewin Cymru yn aml bellach.

Mae'r ddau yn ymarfer yn Sheffield fel arfer gyda Tîm Bocsio GB, a'r gobaith ydi y byddent yn cael eu dewis ar gyfer Gemau Olympaidd Paris yn 2024.

Ond cyn hynny mae'r cyfle i greu argraff yn y cylch bocsio yn Birmingham dros Gymru, fel dywedai Garan: "Rydyn ni wedi gweithio'n galed at hwn a gobeithio allen ni ddod â medalau gartref."

Hefyd o ddiddordeb: