Lauren Price i focsio'n broffesiynol yn 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lauren PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Price yw'r person cyntaf o Gymru i ennill medal aur Olympaidd am focsio.

Bydd y bencampwraig bocsio Olympaidd, Lauren Price, yn troi'n broffesiynol yn 2022.

Fe enillodd Price, 27, fedal aur yn Tokyo eleni - y person cyntaf o Gymru i ennill medal aur am focsio yn y Gemau Olympaidd.

Bydd y bocsiwr 27 oed o Ystrad Mynach, sy'n derbyn MBE yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines eleni, yn cyhoeddi gyda phwy y mae wedi arwyddo cytundeb yn yr wythnosau nesaf.

"Dw i wedi cyflawni gymaint ag y galla i fel amatur, dw i wedi ennill medal aur ym mhob prif dwrnamaint," meddai.

Mae wedi ennill medalau aur yng Ngemau'r Gymanwlad, Pencampwriaethau'r Byd a'r Gemau Ewropeaidd.

Mae hefyd wedi chwarae pêl-droed dros Gymru ac ennill teitlau Prydeinig ac Ewropeaidd mewn cic-focsio.

"Dw i'n sicr yn mynd i droi'n broffesiynol, dylai ddod i'r amlwg dros yr wythnosau nesaf gyda phwy dw i'n bwriadu arwyddo," dywedodd wrth Chwaraeon BBC Cymru.

"Fi oedd y person Cymreig cyntaf i ennill medal aur bocsio Olympaidd ac efallai mai fi fydd y Gymraes gyntaf i ddod yn bencampwraig byd hefyd."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Lauren Price fedal aur yn rownd derfynol y bocsio pwysau canol

Dywedodd Price bod yr her o droi'n broffesiynol yn ei "chyffroi" ac ei bod yn bwriadu parhau i ymarfer gyda hyfforddwr bocsio Tîm Prydain, Rob McCracken.

"Fe newidiodd y fedal aur Olympaidd fy mywyd. Mae'r arian yno nawr ar gyfer bocsio menywod," dywedodd.

"Mae'n adeg cyffrous yn gyffredinol i focsio menywod.

"Fe enillais i'r Gemau Olympaidd a meddwl 'beth wna i nawr?'. Ond mae'r her broffesiynol yn fy nghyffroi, dw i wir yn edrych 'mlaen iddo."

'Blwyddyn orau fy ngyrfa'

Mae Lauren Price wedi ennill sawl gwobr yn 2021, gan gynnwys gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.

Dywedodd: "Mae ennill Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn ac yna cael hwn [ei chynnwys ar restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd] i orffen y flwyddyn... mae wedi bod yn flwyddyn wna i fyth anghofio ac ennill aur hefyd.

"Dyma flwyddyn orau fy ngyrfa."

Pynciau cysylltiedig