O Amazon i Texas: Brwydro am bencampwriaeth byd

  • Cyhoeddwyd
Jay HarrisFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Nos Sadwrn 29 Chwefror bydd Jay Harris o Abertawe yn cystadlu am bencampwriaeth bocsio'r byd pan fydd yn wynebu Julio Cesar Martinez mewn gornest yn Frisco, Texas.

Os y bydd yn ennill yr ornest pwysau-pry yn erbyn y gŵr o Fecsico bydd yn ymuno â'r rhestr arbennig gyda 12 o Gymry eraill sydd wedi ennill pencampwriaeth y byd.

Mae'r bocsiwr o ardal Townhill o Abertawe yn 29 oed ac yn ddiguro mewn 17 gornest ers iddo droi'n broffesiynol yn 2013.

Ond beth sydd yn gwneud stori Jay yn anghyffredin ydy'r ffaith ei fod yn parhau i weithio mewn warws yn Abertawe tra'n bocsio yn broffesiynol.

Gweithio yn Amazon

Mae Jay yn gweithio yn warws Amazon gyda'r nos, gan geisio ffitio ei amserlen hyfforddi o amgylch ei waith. Ond gan fod yr ornest ar 29 Chwefror yn un mor bwysig, mae'n cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith er mwyn paratoi'n drylwyr.

"Maen nhw wedi bod yn dda iawn i mi yn ddiweddar, gan roi dau fis i ffwrdd i mi er mwyn paratoi ar gyfer y ffeit yma.

"Ar gyfer fy ngornestau eraill dydw i ddim wedi bod yn cymryd amser i ffwrdd. Pan o'n i'n ymladd Paddy Barnes (buddugoliaeth i gipio'r IBF Inter-Continental flyweight title yn Hydref) roeddwn i'n gweithio tan wythnos y ffeit."

Disgrifiad o’r llun,

Warws enfawr Amazon yn Abertawe, ble mae Jay yn parhau i weithio hyd heddiw

"Fel arfer dwi wedi bod yn hyfforddi ddwywaith y dydd o ddydd Llun i ddydd Iau. Yna ar ôl mynd i'r gampfa dydd Iau byddwn i'n cael fy swper a mynd yn syth i'r gwaith. Dwi'n deffro ar ddydd Gwener o gwmpas hanner dydd achos dwi ddim yn gorffen gwaith tan tua 5.15 y bore.

"Dwi'n cael fy mrecwast pan mae pawb arall yn cael cinio, mynd nôl i'r gampfa erbyn tua 4.30 p'nawn Gwener, ac yna yn ôl i'r gwaith dros nos a chysgu tan tua 11 bore dydd Sadwrn - yna codi a rhedeg rhyw wyth milltir."

"Yndi, mae'n eithaf hectic a blinedig. Mae'n gallu bod yn galed, ond dwi'n gwneud e weithio i mi."

Bocsio yn y gwaed

"'Nes i ddechrau bocsio pan o'n i'n 12 oed gyda fy ffrind Josh. Es i lawr i'r gampfa a oedd yn rhan o Glwb Bocsio Amatur Abertawe."

Roedd tad Jay, Peter Harris, yn focsiwr proffesiynol ei hun ac yn gyn-bencampwr Prydain.

"Roedd yr hyfforddwr yn y clwb bocsio, Terry Grey, yn 'nabod fy nhad gan oedd e'n arfer hyfforddi yno.

"Ar ôl fi ddod adre' o'n i'n chwyslyd ac wedi blino, ac 'nath Dad ofyn imi lle o'n i wedi bod. Nes i ddweud mod i wedi bod am sesiwn bocsio a 'nath e ddweud 'ocê, os ti am gymryd hyn o ddifri' 'na i hyfforddi ti' - ac felly mae hi 'di bod.

Ffynhonnell y llun, Dan Mullan
Disgrifiad o’r llun,

Jay yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Thomas Essomba o'r Camerŵn i ennill Pencampwriaeth Pwysau-pry y Gymanwlad, York Hall, 24 Chwefror 2017

"Yn sicr mae'r ffaith bod fy nhad yn gyn-focsiwr o fantais i mi - ma'n 'nabod y gêm tu chwith allan a doedd e ddim ishe i fi wneud unrhyw gamgymeriadau wnaeth e.

"Ges i yrfa amatur reit dda gan ennill dipyn o bencampwriaethau Cymru, ac ennill pencampwriaeth Prydain. Wedi i mi ennill pencampwriaeth Prydain 'nes i benderfynu troi'n broffesiynol."

Roedd curo'r Gwyddel Paddy Barnes yn Belfast ym mis Hydref yn gam mawr ymlaen i Jay gan ddenu lllawer o sylw gan y wasg yn ogystal â'i gyd-focswyr.

"Honna yw fy muddugoliaeth fwyaf mae'n siŵr. Mae e (Paddy Barnes) yn enw mawr ac wedi bod i'r Gemau Olympaidd yn cynrychioli Iwerddon dair gwaith.

"Mae cael y fuddugoliaeth yn erbyn e ar fy record yn wych, ac wedi rhoi'r cyfle i mi fynd am Bencampwriaeth y Byd ar 29 Chwefror."

Ffynhonnell y llun, David Fitzgerald
Disgrifiad o’r llun,

Jay Harris (ar y chwith) yn ei fuddugoliaeth yn erbyn Paddy Barnes yn Belfast, 11 Hydref 2019

Pwy yw Julio Cesar Martinez?

Bydd cefnogwyr bocsio o Gymru yn gyfarwydd â'r enw Julio Cesar Martinez - hwn oedd y dyn cyntaf i guro'r Cymro o'r Barri, Andrew Selby, ym mis Mawrth 2019. Felly mae Jay yn ymwybodol o'r her sy'n ei wynebu.

"Yn ei dair gornest diwethaf dydi e heb newid rhyw lawer yn ei dactegau rhwng y ffeit yn erbyn Andrew Selby a Cristofer Rosales, felly dwi ddim yn disgwyl iddo newid gormod pan fydd e'n fy wynebu i.

"Ond dwi ddim wedi ei ddadansoddi e gormod, achos dwi'n gadael hynny i fy nhad sy'n fy hyfforddi a Gary Lockett - maen nhw wedi rhoi gameplan i fi ac mae fyny i fi i'w ddilyn."

'Dod nôl i Gymru gyda'r belt'

Mae'r belt sydd yn y fantol, y WBC (World Boxing Council) yn cael ei ystyried gan lawer fel y bencampwriaeth mwyaf urddasol a hanesyddol yn y gamp. Ymysg y pencampwyr pwysau-pry yn y gorffennol mae enwau fel Román González a Manny Pacquiao, sy'n cael ei ystyried fel un o'r bocswyr gorau erioed.

"Bydde'n wych dod nôl i Gymru gyda'r belt gwyrdd 'na. Mae pob bocsiwr eisiau ennill y WBC, a dwi mor ddiolchgar mod i'n cael y cyfle i fynd amdano."

Ffynhonnell y llun, youtube
Disgrifiad o’r llun,

Julio Cesar Martinez: Y dyn sy'n sefyll rhwng Jay Harris a phencampwriaeth y byd

Bydd Jay yn ymladd yn yr un digwyddiad â rhai o focswyr mwya'r byd yn Frisco ar 29 Chwefror, fel Mikey Garcia a Román González, a bydd yn gyfle i Jay gyflwyno ei hun i gynulleidfa enfawr ar lefel byd.

"Bydd gymaint o enwau mawr yn ymladd yna'r un noson a fi, Garcia, Jessie Vargas, Joseph Parker, Murat Gassiev... i ddigwyddiad sydd ddim yn pay per view mae'n dda iawn.

"Dwi erioed 'di bod i Texas, a ddim yn gwybod llawer am y lleoliad, ond dwi wedi edrych ar y tywydd ac fe ddylai fod reit neis."

Awyrgylch anodd

Gyda chymuned Mecsicanaidd enfawr yn Texas mae Jay yn disgwyl croeso tanllyd yn Frisco. Ond yn ei ffeit ddiwethaf aeth i Belfast i guro'r dyn lleol, felly mae'n teimlo y bydd yn gallu delio â phethau.

"Dydi e ddim o bwys i mi i fod onest, ar ddiwedd y dydd dim ond fi a fe fydd yn y cylch yn ymladd, un yn erbyn un, a does 'na neb all ddylanwadu ar hynny.

"Dwi jest yn edrych 'mlaen nawr, at y cynadleddau'r wasg ac ati - allai ddim aros tan y ffeit."

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig