'Partygate ond methu bod yn gludydd yn angladd dad'

  • Cyhoeddwyd
Alun GibbardFfynhonnell y llun, Alun Gibbard

Ar ddiwedd wythnos lle nododd 148 o Aelodau Seneddol Ceidwadol nad oedd ganddynt hyder yn arweinyddiaeth Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, dywed awdur o Gymru fod y bleidlais a chyhoeddi adroddiad Sue Gray wedi achosi cryn anesmwythyd iddo.

Bu farw tad Alun Gibbard, y Parchedig Noel Gibbard, dridiau cyn y Nadolig ond doedd hi ddim yn bosib i'w fab fod yn gludydd yn ei angladd am nad oedd yn yr un swigen â'r archgludwyr eraill.

Roedd y rheolau yn gorchymyn hefyd mai nifer penodol a gai fynd i'r angladd a gan bod "dad yn ddyn adnabyddus roedd y broses o gael dewis pwy oedd yn cael dod yn un hynod o anodd", meddai.

Wedi cyhoeddi cynnwys adroddiad Sue Gray fe wnaeth Mr Gibbard drydar pa mor anodd ac emosiynol oedd yr holl brofiad iddo yn sgil ei brofiad personol anodd ei hun.

Roedd yr adroddiad yn manylu ar sut y cafodd staff yn Downing Street bartïon tra bod gweddill y wlad dan glo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mr Johnson ennill y bleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth o 211 i 148

Mae Boris Johnson a'r Canghellor, Rishi Sunak wedi cael dirwyon am dorri'r rheolau Covid a ddydd Llun fe enillodd y Prif Weinidog y bleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth o 211 bleidlais i 148.

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg brynhawn Sul dywedodd yr awdur a'r darlledwr Alun Gibbard: "Buodd fy nhad farw cyn y Nadolig a'r ymateb cyntaf oedd bo fi ddim yn gallu bod yn bearer yn yr angladd achos bod rhaid i bob un o'r bearers fod o'r un bubble - a doedd hynna ddim yn bosib.

"Roedd hynna yn ergyd emosiynol ar gyfnod anodd beth bynnag a wedyn roedd rhaid eistedd lawr a mynd drwy'r broses ofnadwy o wahodd pobl i'r angladd.

"I raddau o'dd hwnna wedi 'neud proses anodd yn fwy anodd ond o'dd rhywfaint o elfen o allu derbyn hynny oherwydd yr ystyriaethau ehangach o'r pandemig ond fe drodd hynny, wrth i fanylion Partygate ddod mas, yn ymateb dra gwahanol.

"Fi wedi profi dwy don o ddicter - y gyntaf ar ddiwrnod cyhoeddi adroddiad Sue Gray a'r ail yr wythnos yma ar ddiwrnod y bleidlais.

"Rhwng dechrau'r flwyddyn a chyhoeddi'r adroddiad rhyw ymateb meddyliol o'dd gyda fi - rhyw resymu a phwyso a mesur i'r graddau ydw i'n iawn i ymateb fel hyn - ai ystyriaeth bleidiol sydd y tu ôl i fy ymateb a dod i'r casgliad 'na'. Pwy bynnag fyddai'r prif weinidog - nid y blaid sydd i gyfrif ond y weithred."

'Karaoke yn rhif 10 a mwgwd yn y capel'

"Ar ddiwrnod cyhoeddi'r adroddiad roedd yna gyfeiriadau penodol na'th hela fi bach yn grac - un yn sôn am bartïon yn rhif 10 lle o'n nhw'n cael karaoke a'r ddelwedd ddo'th i'm meddwl i oedd bo ni'n gorfod gwisgo mygydau yn y capel i ganu emynau. O'dd hwnna wedi taro fi go iawn.

"Yna ymadrodd gan Boris Johnson 'I was saying farwell to an esteemed colleague' - y ffarwel eithaf yw angladd ac ro'n i yn gorfod bod o dan gyfyngiadau yn ein ffarwel ni pan o'dd e ddim yn gorfod bod o dan gyfyngiadau yn ei ffarwel e," ychwanegodd Mr Gibbard.

Dywedodd hefyd nad oedd yn "ffan aruthrol o'r cyfryngau cymdeithasol" ond bod ei drydariad wedi ei helpu.

Ond pwysleisiodd nad oedd am ei ddicter gael y gorau ohono.

"Mae'n rhaid gadael iddo fynd. Fi yw'r unig un a fyddai'n dioddef petawn yn cydio yn y dig," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig