Boris Johnson yn ennill pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pobl o Lanfair Caereinion a Gaerwen fu'n dweud eu dweud am bleidlais hyder Boris Johnson

Mae gan Boris Johnson "lot o waith caled o'i flaen" i adennill cefnogaeth aelodau seneddol Ceidwadol ar ôl i 41% ohonynt bleidleisio i gael gwared ohono nos Lun, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.

Ond ychwanegodd Simon Hart fod y fuddugoliaeth yn un pendant, a bod nawr yn amser i "symud ymlaen".

Mae cadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru hefyd wedi galw ar ei blaid i uno ar ôl y bleidlais o hyder.

Daw sylwadau'r ddau Geidwadwr blaenllaw er gwaethaf gwrthryfel sylweddol yn erbyn Mr Johnson, gyda'i feirniaid yn dweud fod y gwrthwynebiad wedi gwanhau ei awdurdod a rhai'n galw arno i ymddiswyddo.

Fe wnaeth Mr Johnson ennill y bleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth o 211 i 148.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Boris Johnson "lawer i'w brofi" yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, ond mae'n dweud bod ganddo gefnogaeth

Dywedodd Mr Hart fod gan Mr Johnson "lawer i'w brofi" ar ôl "pennod anodd".

Yn ôl cadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Glyn Davies, mae angen i Mr Johnson ganolbwyntio nawr ar lywodraethu.

"Roedd mwy o bobl wedi pleidleisio o blaid dim hyder nag oedden ni wedi disgwyl, mae rhaid i fi ddweud hynny, ond ar ddiwedd y dydd roedd e wedi ennill y bleidlais, a ni ddim yn mynd i gael pleidlais arall am flwyddyn," meddai Mr Davies ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Mae'n gyfle nawr i Boris Johnson siarad gyda phob aelod o'r Blaid Geidwadol a symud ymlaen, a gobeithio y bydd e'n dechrau llywodraethu a chanolbwyntio ar beth sydd yn bwysig i bobl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mr Johnson ennill y bleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth o 211 i 148

Dywedodd Simon Hart ar ôl y bleidlais: "Pan gafodd ei ethol fel arweinydd yn 2019 fe gafodd 51% o'r bleidlais, ac mae e newydd gael [tua] 60% o'r bleidlais heno.

"Felly mae nifer sylweddol eisiau iddo aros nag sydd eisiau iddo fynd.

"Wrth gwrs, mae ganddo lawer i'w brofi - mae gennym ni gyd lawer i'w brofi - mae wedi bod yn bennod anodd."

Ond yn ôl y sylwebydd gwleidyddol, Dafydd Rhys, mae nifer yr aelodau seneddol oedd yn fodlon pleidleisio yn erbyn y prif weinidog yn golygu ei fod wedi ei glwyfo hyd yn oed os yw yn parhau yn ei swydd.

"Mae'n anodd gweld miloedd o gefnogwyr Ceidwadol yn troi allan i ymgyrchu dros y blaid mewn unrhyw etholiad pan mae Boris Johnson dal wrth y llyw," meddai ar Dros Frecwast.

"Y disgwyl oedd fod rhyw 100, hyd yn oed 120 o aelodau o'r Blaid Geidwadol mynd i bleidleisio yn ei erbyn, ond 150 - mae hynna'n waeth na Thatcher, waeth na Major, waeth na Theresa May.

"Mae wedi cael ei niweidio'n ddifrifol."

'Dim sefydlogrwydd'

Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, mai'r unig fodd o sicrhau sefydlogrwydd yw i Boris Johnson wneud y peth "anrhydeddus a sefyll i lawr".

"Mae'r hyn ddaeth o i'r lle fel prif weinidog - yr hyn mae'r blaid ei hun yn brolio - ydy ei fod wedi ennill mwyafrif mewn etholiad. Wel ble mae'r mwyafrif rŵan?

"Does 'na ddim sicrwydd bod yn gallu cael yr un darn o ddeddfwriaeth drwodd."

Dywedodd Nia Griffith, AS Llafur Llanelli, ar Dros Frecwast nad yw'r sefyllfa wedi ei datrys o ran mynd i'r afael â phroblemau'r wlad.

"Mae'n canolbwyntio ar ei hun, mae mo'yn achub ei groen e, a dyw e ddim yn canolbwyntio ar y problemau," meddai.

"Mae llawer iawn o aelodau seneddol Ceidwadol yn ofnus iawn nawr ynglŷn â'u seddi nhw, a'r ffaith yw, maen nhw'n canolbwyntio ar eu diddordebau eu hunain."

Dadansoddiad Elliw Gwawr, Gohebydd Seneddol BBC Cymru

Mae Boris Johnson yn saff am nawr, ac mae ei gefnogwyr yn dadlau ei fod wedi ennill yn gyfforddus.

Er nad ydy o yn gallu wynebu her arall am flwyddyn dan y rheolau presennol, dyw hon ddim yn broblem sydd yn mynd i ddiflannu.

Mae 41% o'i blaid eisiau iddo fynd - mwy nag oedd llawer wedi ei ddychmygu.

Mae Boris Johnson nawr yn wynebu dau is-etholiad anodd iawn ar 23 Mehefin yn Wakefield a Tiverton a Honiton.

Os yw'r Ceidwadwyr yn colli'r seddi yna fel mae nifer yn darogan, yna dim ond cynyddu fydd y pwysau ar ei arweinyddiaeth.

Felly, mae o'n parhau fel arweinydd am y tro, ond mae o wedi'i niweidio'n sylweddol heno.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alun Cairns, cyn-Ysgrifennydd Cymru, wedi trydar ei gefnogaeth i Mr Johnson

Y tro diwethaf i brif weinidog Ceidwadol wynebu pleidlais ar eu harweinyddiaeth oedd Theresa May.

O ran cyfran y bleidlais, roedd y 59% a gafodd Mr Johnson yn is na'r 63% a gafodd Theresa May yn 2018.

Er iddi ennill y bleidlais, fe ymddiswyddodd chwe mis yn ddiweddarach.

Roedd pedwar AS Ceidwadol arall o Gymru sef David TC Davies (Sir Fynwy), Alun Cairns (Pen-y-bont), Simon Baynes (De Clwyd) a Craig Williams (Maldwyn) hefyd wedi lleisio eu cefnogaeth i Boris Johnson.