Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 1-1 Gwlad Belg
- Cyhoeddwyd

Er y golled, roedd hi'n bell o fod yn gêm siomedig i Gymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn gyda pherfformiad cadarn a phwynt cyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Fe daniodd Ethan Ampadu y gêm i Gymru yn erbyn Gwlad Belg wrth lwyddo i gyrraedd cefn y rhwyd ar ôl pedair munud.
Ond, fe drodd yr eiliad o gyffro yn siom i'r Wal Goch pan ddaeth i'r amlwg fod 'na gamsefyll.
Parhau wnaeth yr ymosod er gwaethaf y siom, gyda Dan James a Gareth Bale yn cyd-chwarae'n fedrus ar hyd yr asgell.

Dau groesiad peryglus gan chwaraewyr Gwlad Belg ar draws cwrt Cymru - Yannick Carrasco yn gyntaf ac yna Kevin de Bruyne.
Gyda deng munud i fynd tan hanner amser, cafodd Connor Roberts ddwy ymgais i gyrraedd y gôl ond aeth rheiny'n ofer.
Daeth y gêm i ben i Joe Allen wedi 37 o funudau gydag anaf i'w linyn y gâr.
Ymgais agos arall i Kevin de Bruyne cyn yr hanner, ond Wayne Hennessey yn llwyddo i arbed gyda'i law.

Gwlad Belg daniodd dechrau'r ail hanner gyda gôl i Youri Tielemans, wrth iddo daro pêl isel heibio i Wayne Hennessey i gefn y rhwyd.
Yn fuan wedyn, mi allai fod wedi bod yn 0-2 i Wlad Belg ond fe drodd ymgais Leandro Trossard yn un anniben.
Cerdyn melyn i Joe Rodon cyn iddo geisio gwyro'r bêl i'r gornel uchaf ond methu wrth i'r bêl fynd yn rhy llydan.
Rob Page a Roberto Martinez yn penderfynu gwneud ambell newid ar ôl 60 munud, gyda Connor Roberts yn gwneud lle i Rhys Norrington-Davies a Yannick Carrasco yn cael ei dynnu o'r cae i groesawu Thorgan Hazard.

Youri Tielemans yn dathlu'r gôl
Tri newid i dîm Cymru gydag ugain munud i fynd. Gadael wnaeth Gareth Bale, Harry Wilson a Ben Davies er mwyn gwneud lle i Brennan Johnson, Ruben Colwill a Wes Burns.
Kevin de Bruyne a Leandro Trossard yn gadael cae Gwlad Belg ac Eden Hazard a Dennis Praet yn cymryd eu lle.
Gyda newidiadau cyffrous, roedd digon o gyfleoedd i Gymru tua diwedd y gêm.
A'r uchafbwynt? Gôl i Brennan Johnson er rhywfaint o amheuaeth gan y dyfarnwr a'r sgôr yn 1-1 gyda munudau i fynd.
Chwe munud o amser ychwanegol ar y cloc a newid munud olaf i Wlad Belg gyda Lois Openda ymlaen yn lle Axel Witsel.
Fe ganodd y chwiban olaf a Chymru'n bloeddio wrth sicrhau eu pwynt cyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd a gêm gyfartal yn erbyn un o dimau gorau'r byd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022