Dringwr wedi marw ar ôl syrthio 150 troedfedd yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Slabiau IdwalFfynhonnell y llun, Eric Jones/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y dringwr a fu farw wedi pasio dau ddringwr arall ar Slabiau Idwal cyn iddyn nhw weld maes o law ei fod wedi syrthio

Mae dyn wedi marw ar ôl syrthio o leiaf 150 o droedfeddi yn ardal un o gribau Eryri.

Cafodd aelodau Tîm Achub Dyffryn Ogwen eu galw i ardal Cwm Cneifion ddydd Sadwrn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i ddyn arall, oedd yn dringo Slabiau Idwal gyda'i fab 16 oed, weld bod dringwr oedd wedi eu pasio yn gynharach wedi cael ei anafu'n ddifrifol.

Cafodd y dringwr ei gludo mewn hofrennydd Gwylwyr y Glannau i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond bu farw o'i anafiadau.

Nid yw enw'r dringwr wedi ei gadarnhau ond yn ôl Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen roedd yn fynyddwr lleol profiadol, ac roedd yr amodau'n wyntog iawn ar y copa ar y pryd.

Mae'r achubwyr wedi diolch i'r "tad a'r mab a brofodd y digwyddiad brawychus yma".