Cyfradd ddiweithdra Cymru'n codi fymryn i 3.5%
- Cyhoeddwyd
Roedd yna gynnydd bach yng nghyfradd y bobl sydd heb waith yng Nghymru yn ystod y chwarter diwethaf, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Roedd 53,000 o bobl Cymru'n chwilio am waith yn y tri mis hyd at ddiwedd Ebrill - 7,000 yw fwy nag yn ystod y tri mis blaenorol.
Mae hynny'n golygu bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi codi 0.5 pwynt canran i 3.5% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.
Ond o'i gymharu â blwyddyn yn ôl, mae nifer y di-waith wedi gostwng 12,000.
Cododd nifer y swyddi gwag ar draws y DU i'r nifer uchaf erioed - 1.3 miliwn - yn y cyfnod rhwng misoedd Mawrth a Mai eleni.
Dadansoddiad Gohebydd Busnes BBC Cymru, Huw Thomas
Dyw cynnydd bach yng nghyfradd ddiweithdra Cymru ddim mor arwyddocaol â hynny, yn ystadegol, ond mae'r farchnad lafur yn dal yn arwydd allweddol o ba mor iach yw ein heconomi.
Mae rhai dadansoddwyr yn rhagweld arafu o ran recriwtio wrth i'r amodau economaidd barhau i wasgu, er gwaethaf y nifer uchaf erioed o swyddi gwag ar draws y DU.
Dyw'r cynnydd mewn cyflogau ddim yn codi gyn gyflymed â chwyddiant - yn ôl y felin drafod, y Resolution Foundation, mae tâl rheolaidd 2.2% yn is mewn termau real yn sgil yr argyfwng costau byw.
Mae Cymru'n parhau ag un o'r cyfraddau uchaf - 23.3% - o ran faint o bobl oedran gwaith sydd heb swydd neu ddim mewn sefyllfa i chwilio am waith.
Fe allai'r angen dybryd am staff o fewn rhai sectorau ddenu mwy o bobl yn ôl i'r gweithle, ond fe fydd y misoedd nesaf yn allweddol o ran gweld effaith yr amodau economaidd anoddach ar gyflogwyr a'r rheiny sy'n dal yn chwilio am swydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd27 Mai 2022
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2021