Wythnos waith pedwar diwrnod i 'newid bywydau'?

  • Cyhoeddwyd
Swyddfa a gweithwyr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gweithwyr Merthyr Valleys Homes yn parhau â'r cynllun peilot am chwe mis a bydd cyfle iddynt rannu barn yn gyson

Mae staff cwmni ym Merthyr Tudful sy'n rhan o gynllun peilot i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod yn dweud y gallai fod yn "newid byd".

Mae Merthyr Valleys Homes yn sefydliad tai sy'n un o 70 o gwmnïau ar draws y DU sy'n rhan o'r cynllun chwe mis.

O adeiladwyr i'r tîm cyfathrebu, mae pob un o'r 225 o weithwyr wedi cael cyfle i weithio'r hyn sy'n cyfateb â phedwar diwrnod fel rhan o'r cynllun.

Mae gweithwyr yn dweud y gallai'r treial, a ddechreuodd yr wythnos hon, newid eu bywydau ond dywed y cwmni mai'r her fydd peidio gadael i denantiaid sylwi ar unrhyw newid yn eu gwasanaeth.

Mae'r cynllun peilot yn cael ei drefnu gan 4 Day Week Global mewn partneriaeth â melin drafod Autonomy, ymgyrch 4 Day Week UK ynghyd ag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt a Choleg Boston.

Y nod yw casglu data ar sut mae'r system yn gweithio o fewn pob math o fusnesau er mwyn annog rhagor o fusnesau i gynnig wythnos waith fyrrach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun peilot wedi "newid bywyd" Marcus Powell o'r tîm cyfathrebu

I Marcus Powell sy'n gweithio o fewn y tîm cyfathrebu'r cwmni ac sy'n Gadeirydd ar y Corff Democrataidd, mae'r cyfle i weithio am bedwar diwrnod yn "newid byd".

Ond mae'n cwestiynu a fyddai'r cynllun yn gweithio yn y tymor hir.

"Dw i'n meddwl ei fod e'n newid byd, achos ar fy niwrnod ffwrdd gallai dreulio mwy o amser gyda fy nheulu.

"Dw i'n sicr ddim eisiau gwneud gwaith tŷ, mi fyddai'n dal i adael hynny ar gyfer y penwythnos ond i fi, mae e i wneud â threulio amser gyda fy ffrindiau a fy nheulu a gallu ymlacio ar y diwrnodau hynny."

'Diwrnod yn llai ond ffocysu'n well'

Mae pennaeth yr adran Adnoddau Dynol, Ruth Llewellyn, wedi bod yn trefnu'r prosiect o fewn y cwmni.

Mae hi'n bwriadu gweithio'n fwy hyblyg ac amrywio ei diwrnod i ffwrdd yn ddibynnol ar drefn yr wythnos, ac mae'n gobeithio y bydd gweithwyr yn fwy cynhyrchiol yn yr amser y maen nhw'n treulio ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Yr her i'r cwmni yw sicrhau na fydd tenantiaid yn teimlo effaith yr wythnos waith pedwar diwrnod, yn ôl pennaeth yr adran Adnoddau Dynol, Ruth Llywellyn

"Dw i'n meddwl mai'r her i'n cyd-weithwyr ni yw i ofyn i'w hunain 'pam?'," meddai.

"Os ydych chi'n gwneud rhywbeth, 'pam ydw i'n 'neud hyn? Pam ydw i'n 'neud hyn y ffordd yma? Oes 'na ffordd well? Oes 'na ffordd gynt? Jyst ein cael ni i gyd i ffocysu ar yr amser sydd gyda ni yn y gwaith."

Mae arolygon barn wedi cael eu gwneud cyn i'r treial ddechrau er mwyn mesur pa mor gynhyrchiol yw holl adrannau'r cwmni.

Byddan nhw'n cael eu monitro yn ystod y chwe mis ac yn cael eu cymharu ar ddiwedd y cynllun i fesur llwyddiant.

Ychwanegodd Ruth Llewellyn mai eu "prif nod yw sicrhau nad yw eu gwasanaethau'n cael eu heffeithio". Bydd tenantiaid a gweithwyr yn cwblhau arolygon barn yn ystod y treial.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfreithwraig Fflur Jones yn arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth

Yn ôl Fflur Jones, cyfreithwraig cyflogaeth a phartner rheoli gyda chwmni Darwin Gray yng Nghaerdydd, does "dim rheswm i gwmnïau beidio dilyn y cynllun" yn y tymor hir os yw cynhyrchiant yn aros yn gyson.

Dywedodd hefyd bod y pandemig wedi dangos bod "modd gwneud pethau ychydig yn wahanol".

"Dw i'n meddwl mai dim ond aros a mesur y data y byddwn ni'n gallu gweld bod y cynhyrchiant yna'n aros yr un fath, er gwaetha'r ffaith bod pobl yn gweithio llai o ddyddiau," dywedodd.

"Yn amlwg, dydy o ddim yn mynd i siwtio pawb nac 'dy? Fedra' i feddwl bod 'na sawl ffarmwr yn wfftio'r syniad o safbwynt yr oriau a'r dyddia' ma' nhw'n gorfod rhoi i mewn i'w gwaith!"

Mae Will Stronge o felin drafod Autonomy yn cytuno gyda safbwynt Fflur Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy oriau hir ddim yn golygu mwy o gynhyrchiant yn ôl Will Stronge o felin drafod Autonomy

"Os edrychwch chi ar bethau fel gofal iechyd, addysg, gofal cymdeithasol - dyma'r mathau o waith - os wnewch chi ostwng yr wythnos waith, na fyddai wir yn fwy cynhyrchiol.

"Dydy'r math yna o waith ddim yn addas ar gyfer lleihau'r wythnos waith yn unig, mae angen ichi gynyddu nifer y staff.

Ychwanegodd bod gwledydd Groeg a Mecsico yn dueddol o weithio oriau hirach ond dyw eu heconomi ddim yn gweithio cystal â gwledydd fel yr Iseldiroedd, Yr Almaen a Ffrainc lle mae gweithwyr yn gweithio oriau byrrach.

Dywedodd bod sawl cwmni yn defnyddio cynllun "elastig".

"Gall llawer gael ei wneud mewn cyfnod byr o amser neu yn ystod cyfnod arall o'r dydd - os yw staff wedi blino neu os nad yw pethau'n gweithio mae'n bosib bod rhai oriau yn y dydd yn llai cynhyrchiol."

Pynciau cysylltiedig