Y diwrnodau poetha' ac oera' erioed yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Yn ôl yr arolygon tywydd dydd Gwener 17 Mehefin fydd diwrnod poetha'r flwyddyn hyd yma yng Nghymru, gyda'r disgwyl i'r tymheredd gyrraedd yr 20Ciau uchel.
Ond wyddoch chi pryd oedd y diwrnodau poethaf ac oeraf erioed yng Nghymru?... Dyma olwg ar 'chydig o'r ystadegau.
Y diwrnod poetha' swyddogol
Roedd haf 1990 yn un hynod o boeth, ac mi fydd yr Eisteddfodwyr brwd yn ein mysg yn cofio'r prifwyl chwilboeth yng Nghwm Rhymni y flwyddyn honno.
Ar 2 Awst 1990 cofnodwyd tymheredd o 35.2C (95.4 °F) ym Mhont Penarlâg, Sir y Fflint. Dyma'r tymheredd swyddogol uchaf erioed yng Nghymru.
I'w roi mewn cyd-destun mae'n werth nodi'r tymheredd poethaf erioed yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Y diwrnod poethaf erioed yn Lloegr oedd ar 25 Gorffennaf, 2019 - 38.7 °C (101.7 °F) yng Nghaergrawnt.
Ond mae'r tymheredd ar y dydd hwnnw yn Y Fflint yn 1990 yn boethach na'r record yn Yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon.
Yn Yr Alban y tymheredd poethaf erioed yw 32.9 °C (91.2 °F) yn Greycrook ar 9 Awst, 2003. Ac yng Ngogledd Iwerddon y record yw 31.3 °C (88.3 °F) yn Castlederg, Tyrone, ar 21 Gorffennaf, 2021.
Y man sy'n cael y mwyaf o haul
Y man yng Nghymru a gafodd y nifer uchaf o oriau o heulwen mewn mis yw pentref Dale yn ne Sir Benfro, ac hynny ym mis Gorffennaf, 1955. Cafodd Dale 354.3 awr o heulwen y mis hwnnw.
Mae hyn dipyn yn uwch na'r nifer uchaf o heulwen erioed ar gyfartaledd i'r Deyrnas Unedig sef 266 awr ym mis Mai 2020.
Y tymheredd isaf erioed
Os mai gogledd ddwyrain Cymru sydd â'r record am y diwrnod poethaf erioed, canolbarth Cymru sydd gan y record am yr oeraf.
Yn Rhaeadr Gwy ar 21 Gorffennaf, 1940, fe blymiodd y tymheredd i −23.3 °C (−9.9 °F).
Y tymheredd oeraf erioed yn Yr Alban yw −27.2 °C (−17.0 °F) - a ddigwyddodd yn 1895 ac yn 1955. Yn Lloegr y tymheredd isaf yw −26.1 °C (−15.0 °F) ar 10 Ionawr, 1982 yn Swydd Amwythig.
Ac yn yr un man recordiodd yng Ngogledd Iwerddon y cofnodwyd y tywydd oeraf a phoethaf erioed, sef tref Castlederg yn Tyrone. Y tywydd oeraf yno oedd −18.7 °C (−1.7 °F) ar 24 Rhagfyr, 2010.
Hefyd o ddiddordeb: