Cymru... gwlad y glaw?

  • Cyhoeddwyd
glaw

Mae 'na dros 30 ffordd gwahanol i ddisgrifio glaw yn Gymraeg. Ond, ydy Cymru wir yn wlypach nag unrhyw un o wledydd eraill y DU? Dyna ofynnodd Cymru Fyw i gyflwynydd tywydd y BBC Derek Brockway llynedd ar ôl un o'r gaeafau gwlypaf mewn cof.

(O'r archif: Cyhoeddwyd y stori yma yn wreiddiol ar 19 Mawrth 2016):

Cymru wlyb a Chymru sych

"Mae'n wir i ddweud ein bod ni'n cael dipyn o law yng Nghymru gan ein bod mor agos at Fôr yr Iwerydd, ond mae hefyd yn dibynnu ar ble chi'n byw," meddai Derek.

"Mae'r rhan fwyaf o'r glaw yn syrthio yn Eryri, Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd y Cambria. Ond yn ngogledd ddwyrain Cymru, o Landudno i Fflint, ac ar y gororau o Wrecsam i Gas-gwent, mae'n gymharol sych a chystal â thywydd canolbarth Lloegr.

"Gyda newid hinsawdd mae disgwyl i'r tywydd fod yn fwy anwadal ac eithafol. Mae'r gaeafau yn dueddol o fynd yn fwy mwyn ac yn wlypach, ac mae'r haf yn dueddol o fynd yn boethach ac yn sychach.

"Mae awyr gynhesach yn gallu dal mwy o wlybaniaeth sy'n gallu effeithio ar faint o law sy'n disgyn. Bydd stormydd yn fwy ffyrnig a bydd y glaw yn disgyn yn drymach gan wneud llifogydd yn fwy tebygol."

Disgrifiad,

Rhagolygon y tywydd gan Derek ar gyfer Diwrnod Shwmae Su'mae 2017

Glaw, glaw a mwy o law?

Gyda 778mm o law, gaeaf 2015/16 oedd y gwlypaf yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Cyn hynny 2013/2014 oedd y cyfnod gwlypaf gyda 726mm o law.

Ond yr Alban oedd y gwlypaf gyda 780mm o law. Roedd hi'n tipyn llai gwlyb yng Ngogledd Iwerddon gyda 508mm o law.

Ffynhonnell y llun, TYWYDD
Disgrifiad o’r llun,

Y tywydd garw yn Aberystwyth ym mis Tachwedd, 2013

Roedd yr ardaloedd gwlypaf hefyd yn wlyb iawn ym mis Tachwedd, a cafodd 2770mm o law ei gofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri yn y pedwar mis rhwng Tachwedd a Chwefror - 106% o'r cyfartaledd ar gyfer blwyddyn gyfan, sydd yn 23mm y diwrnod.

Rhwng Tachwedd a Rhagfyr roedd teclyn mesur glaw yn dangos bod 2.5 metr o law wedi disgyn ar yr Wyddfa, ac mae'n debyg bod rhwng 3 a 4 metr wedi disgyn yno dros gyfnod o bedwar mis.

Mae Cymru'n wlad fynyddig gyda llawer o'r tir dros 150 metr uwchben lefel y môr, sydd yn effeithio ar y lefel o law sydd yn disgyn yma. Mae'r arfordir hir i'r gogledd, de a'r gorllewin hefyd yn golygu fod gwyntoedd cryfion o'r môr hefyd yn effeithio ar y tywydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma gyfartaledd y glaw sydd wedi syrthio yng ngwledydd Prydain dros y blynyddoedd

Mae'r ystadegau yn awgrymu bod Cymru yn fwy gwlyb ar gyfartaledd na gweddill y Deyrnas Unedig, ond mae'r tabl hefyd yn dangos fod gwahaniaeth yn y tywydd mewn ardaloedd gwahanol o Gymru.

Hefyd gan y BBC